Andrew RT Davies: Yn fy rhanbarth i, Ysgrifennydd y Cabinet—neu Weinidog fel y'ch gelwir yn awr—mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r cynlluniau datblygu ar gyfer ffordd newydd o gyffordd 34 i Sycamore Cross ym Mro Morgannwg. Mae llawer o drigolion yn yr ardal honno'n cefnogi gwelliannau ffyrdd yn y seilwaith presennol, ond ni allant ddeall o gwbl pam eich bod yn argymell adeiladu traphontydd a ffyrdd newydd...
Andrew RT Davies: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, neu un datganiad yn sicr a pheth cadarnhad gennych chi? Cadarnhad, yn y lle cyntaf: pryd ar wyneb y ddaear a gawn ni’r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru ynghylch asesiad effaith amgylcheddol llosgydd y Barri? Ymddengys fy mod i’n sefyll yn y fan yma bob mis, ac rwy'n credu ein bod ni ar fis 13 yn awr. Mae'r Aelod dros Fro Morgannwg a'r Dirprwy...
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, rydym ni'n gallu gweld plastigau ym mhob man o'n cwmpas. Ewch allan i ardal y bae a gallwch weld poteli plastig ar wyneb y dŵr yng nghorneli'r bae. Er gwaethaf llawer o'r rhethreg yn y sefydliad hwn a thu hwnt, yn anffodus, mae llygredd plastig yn broblem enfawr y mae'n ymddangos ein bod ni'n methu'n lân â mynd i'r afael â hi mewn unrhyw ffordd ystyrlon ar hyn o bryd. Rydym...
Andrew RT Davies: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Canol De Cymru?
Andrew RT Davies: A wnewch chi ildio, Weinidog?
Andrew RT Davies: Cyfarfûm â'r prif weithredwr yr wythnos diwethaf, ac mae ei gallu'n creu argraff arnaf, ond bob tro y mae pethau wedi mynd i'r pen dros y chwe blynedd diwethaf, yn enwedig mewn perthynas â morâl staff a chyfeiriad y sefydliad, rydym bob amser yn cael clywed, 'Mae'r rheolwyr yn mynd i'r afael â'r sefydliad cymhleth hwn a bydd yn well yfory', ac nid yw yfory, yn yr achos hwn, byth i'w weld...
Andrew RT Davies: Buaswn yn falch iawn o wneud hynny. Gallwn eich gweld yn aros. [Chwerthin.]
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Croeso i wlad y breuddwydion ar brynhawn dydd Mercher ar ôl pasio darn o ddeddfwriaeth ac yn awr i mewn i'r ddadl. Mae'n dda gweld bod mwy yn bresennol na'r arfer ar brynhawn dydd Mercher ar gyfer dadl diwrnod y gwrthbleidiau. Nid wyf yn meddwl y bydd yn para a chredaf efallai fod cwpanaid o de drws nesaf yn galw ar rai o'r Aelodau. Ond gallwn geisio eich dal, a dywedir...
Andrew RT Davies: Mae bwydo ar y fron yn destun ymgyrchu hollbwysig y dylai Llywodraeth Cymru ei hyrwyddo ymhlith yr holl famau babanod newydd-anedig. Rwyf eisiau ymuno â'r ymgyrch honno—mae fy ngwraig, cyn-fydwraig, yn amlwg yn ymwybodol o fanteision bwydo ar y fron. Ond un peth nad oes gennym yw gweithlu o fydwragedd yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf sydd wedi'i staffio'n llawn i helpu mamau beichiog. Gwyddom...
Andrew RT Davies: Weinidog, yn amlwg, rwy'n deall yr ymgynghoriad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd ynghylch cyflwyno diwrnodau HMS ychwanegol i baratoi athrawon ar gyfer y cwricwlwm newydd. Yn ddiddorol, mae'r cynnig, a chynnig yn unig ydyw, yn ymwneud â chynnal y diwrnod HMS ar yr un diwrnod ledled Cymru, a chredaf fy mod yn gywir i ddweud hynny. Pa mor hyderus ydych chi fod y capasiti yno i ddarparu'r...
Andrew RT Davies: Gweinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma—rhan 2 ein rhyngweithio y prynhawn yma. Gŵyr unrhyw un sydd yn ymdrin ag unrhyw waith etholiadol am y trallod a ddaw yn sgil llifogydd. Mae ystafell a oedd unwaith yn ystafell fyw, ar ôl dioddef llifogydd, yn ei hanfod yn garthffos. Mae distryw colli eitemau personol, teuluol am byth, ac yna'r aflwydd ariannol oherwydd yr anallu i gael...
Andrew RT Davies: Yn amlwg, Gweinidog, chi'n yw'r Gweinidog perthnasol heddiw, gyda dau ddatganiad yn dod gerbron y cyfarfod llawn, felly byddwn yn gweld llawer o'n gilydd wrth i'r prynhawn fynd rhagddo. Yn anffodus, nid oes gan y sector coedwigaeth hanes gwych yma yng Nghymru. Dylai fod â hanes gwych, oherwydd mae'n ddiwydiant anferth—mae'n cyflogi 10,000 o weithwyr ac mae ganddo drosiant o £520 miliwn....
Andrew RT Davies: Trefnydd, a gaf i dynnu eich sylw at neges drydar a wnaed gan Masnach a Buddsoddi Cymru? Rwy'n gwerthfawrogi bod y Prif Weinidog wedi rhoi ychydig o sylw i hyn mewn cwestiynau a gyflwynwyd iddo gan wahanol Aelodau y prynhawn yma. O ddarllen y wefan, mae'n dweud mai hi yw porth menter marchnata buddsoddiad uniongyrchol tramor swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, cangen o Lywodraeth...
Andrew RT Davies: Chi sy'n cyfeirio at hynny.
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, mae'n debyg mai fi yw un o'r bobl ddiwethaf sy'n galw am ddeddfwriaeth mewn rhai meysydd, ond yn y maes penodol hwn mae Llywodraeth Ffrainc wedi arwain y ffordd gyda Bil amaethyddol Ffrainc a ddeddfwyd yn ddiweddar ynghylch caffael cyhoeddus a'r defnydd o gaffael cyhoeddus i hybu economïau mwy lleol. Rwyf yn erfyn ar eich Llywodraeth i edrych ar yr esiampl y maen nhw wedi ei...
Andrew RT Davies: Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych yn ei ddweud Weinidog. Mae'r gwaith o lywodraethu'r gêm yng Nghymru yn nwylo Undeb Rygbi Cymru yn llwyr, fel y dylai fod. Ond rwy'n credu bod llawer o gefnogwyr yn bensyfrdan yn dilyn rhai o'r datblygiadau sydd wedi digwydd, ac ychydig funudau yn ôl, gwelais adroddiad newyddion yn dweud nad yw'r posibilrwydd o uno dan ystyriaeth mwyach. Ond o rygbi llawr...
Andrew RT Davies: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Lywydd. Edrychaf ymlaen at gael golwg ar y wefan. Nid oeddwn yn ymwybodol fod yna bolisi, felly edrychaf ymlaen at weld hwnnw. Ond rwy'n credu bod hwnnw'n ddarn o bensaernïaeth sydd ar goll ar ystâd y Cynulliad. Diolch byth, nid oes llawer o Aelodau wedi marw yn y swydd, ond dros y blynyddoedd mae o leiaf bedwar neu bump, rwy'n credu, wedi marw yn y swydd, ac...
Andrew RT Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae Cymru wedi bod yn gymharol lwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf wrth wneud cais am lu o ddigwyddiadau, o golff i'r rasys môr yma ym Mae Caerdydd, i ddigwyddiadau pêl-droed mawr. Un o'r camgymeriadau, fodd bynnag, oedd penderfyniad y Gweinidog blaenorol i beidio â pharhau â chais am Gemau'r Gymanwlad. Tybed a ydych wedi cael cyfle i asesu a fydd...
Andrew RT Davies: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am geisiadau yn y dyfodol ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr? OAQ53501
Andrew RT Davies: 4. A oes gan y Comisiwn unrhyw gynlluniau i sefydlu coffâd parhaol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a fu farw yn y swydd? OAQ53502