Hefin David: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr economi werdd yng Nghymru? OAQ(5)0070(EI)
Hefin David: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau a ddarperir yn Ysbyty Ystrad Fawr? OAQ(5)0069(HWS)
Hefin David: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad cleifion i'r ganolfan gofal arbenigol a chritigol arfaethedig?
Hefin David: Rwyf wedi ystyried yn ofalus rai o'r sylwadau a wnaed heddiw, ac, wrth wrando ar Jeremy Miles, nid y Cymoedd gorllewinol yn unig sy’n bwysig, ond y Cymoedd gogleddol hefyd. Mae cymunedau fel Deri, Brithdir, Tir-phil, Pontlotyn a Rhymni o ddifrif yn bodoli yn etholaeth fy nghyfaill ym Merthyr Tudful a Rhymni— etholaeth Dawn Bowden—ond bydd pobl Bargoed yn llawer mwy cyfarwydd â'r...
Hefin David: A gaf fi ymyrryd yno, os gwelwch yn dda?
Hefin David: Rwy’n credu y dylai Gareth Bennett fod yn ofalus iawn o’r hyn y mae’n ei ddweud, gan nad oedd y rhan fwyaf o gynghorwyr yn gwybod dim am y sefyllfa gyda’r cyflogau yng Nghaerffili. Nifer o aelodau’r cabinet a dirprwy arweinydd Plaid Cymru a oedd yn rhan o’r pwyllgor oedd hynny, a phan ddaeth y mwyafrif o’r aelodau i wybod, fe ymddiheurodd yr arweinyddiaeth Lafur a gwrthdroi’r...
Hefin David: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio ardrethi annomestig yng Nghymru?
Hefin David: Dim ond pwynt—wyddoch chi, rydych yn dweud nad yw pethau wedi newid ers 1999, ond a fyddech yn cydnabod y gallai’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a gynlluniwyd yng Nghymru, a aned yng Nghymru ac a gyflwynwyd yng Nghymru yn gallu cael yr effaith honno? A fyddech yn derbyn hynny?
Hefin David: Ydw, rwy’n cytuno’n llwyr â hynny, ac mae’n ymddangos bod yr Aelod dros Ogledd Caerdydd wedi cael sylwadau tebyg iawn i’r rhai rwyf fi wedi’u cael. Felly, os ydym yn mynd i bleidleisio gyda’r Llywodraeth heddiw, byddwn yn awgrymu ein bod yn gofyn i’r Gweinidog roi rhywfaint o sicrwydd yn ei hymateb fod y materion hyn yn mynd i gael sylw a chael eu monitro’n agos, a bod yr...
Hefin David: Rwy’n derbyn y pwynt, ac rwy’n meddwl bod y Bil awtistiaeth drafft yn werth edrych arno. Y pwynt rwy’n ei wneud, mewn gwirionedd, yw na ddylai’r angen am ddeddfwriaeth gael ei ddiystyru, a bod angen ymchwilio’r Ddeddf honno ymhellach. Rwyf wedi cynnal trafodaethau gyda thrigolion yr effeithir arnynt gan awtistiaeth yn fy nghymuned, ac sy’n effeithio ar eu teuluoedd, ac rwyf wedi...
Hefin David: Mae fy mhrofiad o waith wedi cael ei gyffwrdd gan awtistiaeth. Fel darlithydd prifysgol, roeddwn yn dysgu myfyriwr a dreuliodd ddosbarth cyfan yn edrych ar sgrîn cyfrifiadur heb roi unrhyw sylw i mi, ac rwy’n cofio bod hyn wedi codi fy ngwrychyn. Ar ddiwedd y sesiwn, cyn i mi allu siarad â’r myfyriwr mewn gwirionedd, daeth ataf a dweud, ‘Roeddwn i’n gwerthfawrogi eich addysgu chi...
Hefin David: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd undebau llafur mewn cymdeithas sifil yng Nghymru?
Hefin David: Mae ein cenedl fel cyrchfan i dwristiaid yn hanfodol wrth hyrwyddo Cymru i’r byd, a’n treftadaeth yw ein hanes byw, rhywbeth pendant o’n gorffennol y gall ein plant ryngweithio ag ef. Mae yna asedau hanesyddol mawr yng Nghaerffili. Mae gennym y castell consentrig mwyaf yn Ewrop, heneb restredig gradd II yng nghastell Rhiw’r Perrai, sydd angen gwaith, a Llancaiach Fawr, maenordy...
Hefin David: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i gefnogi’r sector treftadaeth yng Nghymru? OAQ(5)0048(EI)
Hefin David: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddatgan buddiant fel darlithydd gwadd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Yn wir, ddydd Sadwrn, 10 Medi, roeddwn i yno yn addysgu myfyrwyr gweithredol MBA—grŵp bach iawn, iawn o fyfyrwyr rhan-amser, a oedd wedi eu hariannu’n helaeth gan eu sefydliadau. Pan oeddwn i’n gweithio’n llawn amser—pan oeddwn i’n uwch ddarlithydd—byddwn i’n aml yn addysgu...
Hefin David: Diolch i chi am ganiatáu i mi gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Mae’r iaith Gymraeg yn fater pwysig. Tybed a fyddai wedi bod yn well treulio ychydig mwy o amser ar y mater hwn na’r hanner awr a ddyrannwyd. Rydym yn trafod gadael yr UE eto—mae fel ‘groundhog day’. Cytunaf â’r egwyddorion sy’n sail i’r cynnig hwn, ond teimlaf efallai na fydd yn llwyddo i gyflawni ei fwriad yn...
Hefin David: Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i lyfrgelloedd i’w groesawu, yn enwedig yng Nghaerffili. Rydym ni wedi gweld y datblygiad llyfrgelloedd yng Nghaerffili a Bargoed, ac mae llawer o waith yn cael ei wneud yn Ystrad Mynach ar hyn o bryd. Roedd gennyf ddiddordeb, hefyd, yn nhystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i'r pwyllgor cyfathrebu yr wythnos diwethaf, pan...
Hefin David: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i wasanaethau llyfrgell yng Nghymru? OAQ(5)0141(FM)
Hefin David: Lywydd, dylwn ymddiheuro i’r Siambr, oherwydd, pan gyflwynais y cwestiwn hwn, nid oeddwn yn sylweddoli y byddem yn cael nid un ond dwy ddadl ar adael yr UE ar ddiwrnod y gwrthbleidiau. Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Gorffennaf 2015, fe gofiwch i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei bod yn awyddus i weld nifer y bwydydd Prydeinig a ddiogelir o dan gyfraith Ewropeaidd yn cynyddu o 63 i 200. O’r...
Hefin David: 9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiau posibl y bleidlais yn refferendwm yr UE ar gefnogaeth i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru? OAQ(5)0031(ERA)