Alun Davies: Fel chi, Brif Weinidog—roedd y modd y trechwyd Llywodraeth y DU neithiwr yn Nhŷ'r Cyffredin yn wirioneddol hanesyddol. Rwy'n cytuno â'ch dadansoddiad, a phe bai gan y Prif Weinidog unrhyw ymdeimlad o ddyletswydd tuag at y wlad, byddai wedi ymddiswyddo y bore yma o ganlyniad i hynny. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd Tŷ'r Cyffredin yn pasio pleidlais o ddiffyg hyder yn Llywodraeth y Deyrnas...
Alun Davies: Fel eraill, hoffwn innau groesawu fy nghyd-Aelod i'w swydd newydd. A gaf i ofyn am ddatganiad ar ddarparu system metro de Cymru? Rydym wedi gweld a chlywed amserlenni ar gyfer cyflwyno gwasanaethau newydd ar lawer o reilffyrdd y Cymoedd sy'n gwasanaethu Blaenau'r Cymoedd, ond rydym yn dal i aros yng Nglynebwy i glywed am y gwasanaethau newydd ar reilffordd Glynebwy. Rydym ar ddeall y bydd...
Alun Davies: Mark Drakeford.
Alun Davies: Rwy'n meddwl bod Jenny Rathbone, fel y bydd yn ei wneud yn aml iawn, wrth gwrs, wedi nodi'r brif her sy'n ein hwynebu. Rwy'n ddiolchgar i chi, Jenny, am eich cefnogaeth i'r dull yr ydym ni'n ei arddel, ond rydych chi yn llygad eich lle: cawn ein beirniadu am ein camau gweithredu ac nid ein hareithiau, ac rwyf i yn sicr yn cydnabod hynny. Ond gadewch i mi ddweud gair am y dull yr wyf i wedi'i...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Ogledd Caerdydd am ei chefnogaeth, a gwn ei bod wedi bod yn ymgyrchydd ar y materion hyn am flynyddoedd lawer ac wedi ysgogi'r ddadl ar lawer o'r materion hyn dros gyfnod sylweddol o amser. Hoffwn ddechrau drwy gytuno ar y pwynt cyffredinol y mae hi'n ei wneud ynghylch poblogaeth y carchardai. Yn y 13 mis yr wyf i wedi bod yn swydd hon, rwyf wedi ymweld â phob...
Alun Davies: Dirprwy Lywydd, gadewch imi ateb y cwestiwn olaf yn gyntaf. Yr ateb yw 'ydw'. Yr ateb yw 'ydw'. Rwy'n gwahodd yr Aelod dros y Rhondda i geisio consensws ac i chwilio am gyfleoedd i weithio gyda'n gilydd yn hytrach nag edrych am raniadau rhyngom. Rwy'n credu bod gennym ni gyfle gwirioneddol yn y fan yma. Amlinellodd yr Aelod yn dda iawn nifer o adroddiadau beirniadol am y gwasanaeth carchardai...
Alun Davies: Rwyf yn ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am eu cwestiynau, ac rwy'n credu, eu cefnogaeth gyffredinol i'r datganiad hwn a'r dull o weithredu yr ydym yn ei fabwysiadu. Dechreuodd yr aelod dros Ogledd Cymru ei sylwadau drwy gwestiynu a oedd hwn yn ddull gwahanol o gwbl, ac yna, er mwyn cynnal ei achos, dyfynnodd o ddogfen gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a oedd yn amlinellu'r angen am ymagwedd penodol...
Alun Davies: Mae ein cynigion presennol ar gyfer troseddau ieuenctid felly yn blaenoriaethu mwy o atal cynnar a gweithgareddau dargyfeirio, gan gyrraedd pobl iau hyd yn oed yn gynharach, cyn eu bod mewn perygl o droseddu. Byddwn yn datblygu ymhellach ein dulliau o weithredu o ran dargyfeirio cyn y llys a chynyddu'r gefnogaeth i ddull wedi ei lywio gan drawma ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc mewn perygl...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael gwneud y datganiad hwn y prynhawn yma ac wrth wneud hynny, hoffwn ddechrau drwy fynegi fy niolch personol i'r holl bobl hynny sydd wedi gweithio gyda mi i ddatblygu a phrofi'r glasbrintiau ar gyfer troseddwyr ifanc a throseddwyr sy'n fenywod dros fisoedd lawer. Mae'r bobl sydd yn y system cyfiawnder troseddol ymhlith y rhai mwyaf...
Alun Davies: Sylwais ar sylwadau arweinydd Cyngor Sir Penfro ar y materion hyn mewn papur newydd yn ddiweddar. Hoffwn ddweud wrtho, ac wrth yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, fod Cyngor Sir Penfro wedi gwneud nifer o benderfyniadau ar lefelau'r dreth gyngor dros nifer o flynyddoedd gan wybod yn iawn beth fyddai canlyniadau'r penderfyniadau hynny. A mater i etholwyr sir Benfro, nid mater i mi, yw...
Alun Davies: Ar 9 Hydref, cyhoeddais y setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2019-20. Ar 20 Tachwedd, cyhoeddodd y Llywodraeth y bydd arian pellach ar gael ar gyfer llywodraeth leol. Bydd y setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi ar 19 Rhagfyr.
Alun Davies: Un o'r rhesymau pam fy mod yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldebau o dan y cyfamod oedd er mwyn darparu adnoddau i'r rheng flaen pan fo'u hangen. Felly, byddwn yn gwario adnoddau sylweddol ar gefnogi'r rhwydwaith o swyddogion cyswllt awdurdod lleol ledled Cymru, sy'n darparu cymorth ar gyfer holl bersonél y lluoedd arfog, mewn perthynas â thai ac mewn ffyrdd eraill...
Alun Davies: Na wnaf.
Alun Davies: Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi lansio'r llwybr cyflogaeth mewn partneriaeth â grŵp arbenigol y lluoedd arfog sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector, yn ogystal ag elusennau milwrol, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n darparu opsiynau i gyn-filwyr a'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfog o ran ble y gallant ddod o hyd i gymorth a...
Alun Davies: Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol ar wella gwasanaethau a chymorth ar gyfer cyn-filwyr, sy'n cynnwys y rheini sy'n byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn cytuno bod fy natganiad diweddar ar y materion hyn yn adlewyrchu hynny.
Alun Davies: Er gwaethaf ymdrechion yr Aelod o'r Rhondda, credaf ein bod, mewn gwirionedd, yn cytuno ar lawer mwy nag y byddai hi'n ei gredu o bosibl. Mae'r Llywodraeth hon yn gwbl ymrwymedig i ddatganoli plismona a chyfiawnder troseddol i'r lle hwn—
Alun Davies: —ac i greu ymagwedd gyfannol tuag at bolisi. Ar gais yr heddlu, rydym wedi creu bwrdd plismona i Gymru, a gyfarfu am y tro cyntaf fis diwethaf, ac rydym yn gweithio'n dda gyda'r heddlu. Rwyf wedi cyfarfod â'r Swyddfa Gartref ar nifer o achlysuron i fynd ar drywydd y materion hyn, ac rwyf wedi cyfarfod â Gweinidogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i fynd ar drywydd y materion hyn yn ogystal....
Alun Davies: Rwy'n cytuno'n gryf â chasgliadau'r Aelod dros Ganol De Cymru. Cefais gyfarfod â Charlie Taylor, cadeirydd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, yn yr ychydig wythnosau diwethaf i drafod y materion hyn gydag ef a sut yr awn i'r afael â throseddau ieuenctid. Mae'r dadansoddiad a ddisgrifiodd yr Aelod yn gwbl gywir a chredaf ei fod yn argyfwng sy'n rhaid i ni roi sylw iddo. Pan fydd yn darllen y...
Alun Davies: Rwyf wedi ymweld â CEM Parc a'r sefydliad troseddwyr ifanc yn y carchar, ac rwyf wedi trafod y materion hyn gyda'r cyfarwyddwr yno. Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi wedi cadarnhau bod yna ddadansoddwyr rheoli ymddygiad yn y Parc sy'n gweithio i leihau'r lefelau o hunan-niweidio a thrais yn y carchar. Fodd bynnag, credaf fod angen i ni fynd ymhellach na hyn. Credaf fod angen...
Alun Davies: Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio fy mod wedi comisiynu'r gwaith o ddatblygu glasbrintiau ar gyfer cyfiawnder ieuenctid ac ar gyfer troseddwyr benywaidd. Rwyf wedi rhannu'r glasbrintiau hyn gydag aelodau o'r Cabinet, ac rwy'n gobeithio, Lywydd, y byddaf yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ystod yr wythnos nesaf.