Canlyniadau 761–780 o 4000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Meh 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Nid wyf i'n anghytuno ag unrhyw beth y mae Joyce Watson yn ei ddweud. Rwy'n credu ei fod yn greulon, rwy'n credu ei fod yn anfoesol, rwy'n credu ei fod yn aneffeithiol, rwy'n credu ei fod yn ddrud, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi gwneud y safbwyntiau hynny yn glir iawn yn y llythyr ar y cyd â Llywodraeth yr Alban ar 19 Mai. Mae'n gwbl groes i'n hymagwedd cenedl noddfa sydd...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Meh 2022)

Lesley Griffiths: Roedd yn sicr yn siomedig iawn gweld y gorlenwi ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn y gogledd dros y penwythnos. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog yn sicr wedi dweud wrth Trafnidiaeth Cymru am wneud pob ymdrech i ganolbwyntio adnoddau ar y gwasanaethau prysurach. Wrth gwrs, roedd gêm bêl-droed ryngwladol ddydd Sadwrn, felly rwy'n siŵr bod llawer mwy o bobl yn teithio i lawr o'r gogledd....

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Meh 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Cododd Mike Hedges dri mater, yr un cyntaf ynghylch arholiadau a fydd yn cael eu cynnal yr haf hwn. Yn amlwg, mae wedi bod yn gyfnod eithaf anodd i'n dysgwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwy'n credu bod dysgwyr wedi gorfod addasu ac ymdopi â threfniadau newydd sy'n aml yn heriol o ganlyniad i'r aflonyddwch sylweddol hwnnw yr ydym ni wedi ei gael i addysgu a dysgu. Rwy'n gwybod bod...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Meh 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Rydych chi wedi gwneud y peth iawn drwy ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog, sydd, fel yr ydych wedi ei ddweud, yn gwrando ar eich cwestiwn, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n ymateb cyn gynted ag y gall wneud hynny. Rwy'n ymwybodol bod gwasanaeth mentora cymheiriaid i bobl heb waith wedi'i ddarparu gan gyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Yn anffodus, bydd yr arian hwnnw yn dod i ben, ac mae'r...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Meh 2022)

Lesley Griffiths: Roedd hwnnw yn sicr yn gwestiwn hir iawn i'w ofyn am ddatganiad. Mae'n ddrwg gen i glywed y bu'n rhaid i chi fynd i ysbyty y Faenor. Yn amlwg, rydych chi'n nodi llawer o faterion a fydd wedi codi pryderon, yn enwedig gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a fydd wedi clywed eich cwestiwn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn mynd i'r lleoliad iechyd cywir pan fydd...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Meh 2022)

Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae gen i ddau newid i'r agenda heddiw: bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud datganiad maes o law ar gostau byw, ac mae'r datganiad ar ddiogelwch adeiladau wedi ei dynnu yn ôl. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Meh 2022)

Lesley Griffiths: Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, ac, yn amlwg, mae peidio â chael ateb o fis Ionawr yn annerbyniol. Hwn yw'r portffolio mwyaf, mae'n amlwg, yn y Llywodraeth; serch hynny, rwy'n derbyn eich pwynt chi'n llwyr, yn arbennig felly os ydych chi wedi mynd ar drywydd hynny. Yn bersonol—. Rwy'n credu mai 17 diwrnod gwaith yw'r ffigwr ar hyn o bryd, ac rwyf i o'r farn fod hynny'n...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Meh 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf chi ynghylch gwasanaethau offthalmoleg—ac, yn arbennig, roeddech chi'n sôn am ddirywiad macwlaidd gwlyb—yn amlwg, mater i'r bwrdd iechyd yw sicrhau bod y triniaethau yn cael eu rhoi mewn da bryd. Rwy'n llwyr gydnabod pwysigrwydd hynny. Fe wnaf yn sicr ofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ysgrifennu atoch chi os oes ganddo unrhyw wybodaeth...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Meh 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Fe fydd yna ddatganiad gan Lywodraeth Cymru cyn toriad yr haf.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Meh 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Wel, byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud wrth ateb Andrew R.T. Davies fod rhywfaint o darfu wedi bod o ran Trafnidiaeth Cymru. A chytunaf i â'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ynghylch diffyg gwybodaeth. Nid yw'n costio llawer i sicrhau bod gwybodaeth ar gael, ac rwy'n credu y bydd Trafnidiaeth Cymru yn dysgu o'r diffyg gwybodaeth a welodd teithwyr dros y penwythnos....

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Meh 2022)

Lesley Griffiths: Rwy'n credu fod Alun Davies yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid ledled sector y lluoedd arfog i nodi deugain mlynedd ers gwrthdaro'r Falklands, ac, wrth gwrs, yn cydnabod yr aberth a gafodd ei wneud gan lawer o bersonél y lluoedd arfog yng Nghymru. Gwn i—rwy'n credu mai dydd Sul diwethaf ydoedd—fod y Dirprwy Weinidog Partneriaeth...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Meh 2022)

Lesley Griffiths: Wel, nid wyf i'n credu bod hyn yn ymwneud â diffyg tryloywder. Rwy'n ymwybodol bod gwybodaeth wedi'i chasglu drwy Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ac nid wyf i'n credu y dylai hynny gael ei ystyried yn anhryloyw o gwbl. Yn amlwg, mae Gweinidogion Cymru wedi gweithio'n agos iawn ac wedi buddsoddi ecwiti drwy Fanc Datblygu Cymru yn yr A465, ac mae'r buddsoddiad yn brif gonglfaen, mewn...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Meh 2022)

Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae gen i un newid i'r agenda heddiw. Yn hytrach na datganiad ar COVID-19, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd...

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (25 Mai 2022)

Lesley Griffiths: Yn ffurfiol.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru: Diwydiant Amaethyddol Sir Drefaldwyn (25 Mai 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cefnogi’r diwydiant amaethyddol yn rhanbarth Powys drwy roi dros £63 miliwn o daliadau cynllun y taliad sylfaenol i ffermwyr. Mae ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor hollbwysig i gannoedd o fusnesau yn yr ardal.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru: Diwydiant Amaethyddol Sir Drefaldwyn (25 Mai 2022)

Lesley Griffiths: Wel, credaf ein bod wedi cael llawer o gwestiynau ynglŷn ag amaethyddiaeth heddiw, felly rwy’n credu fy mod wedi nodi’r gefnogaeth sydd gennym ar waith yn glir iawn. Dychwelaf at yr hyn roeddwn yn ei ddweud ynglŷn â pham nad yw’r Ceidwadwyr yn deall llywodraeth. Felly, mae Aelodau eraill o'ch grŵp wedi gofyn i mi, 'A gawn ni edrych ar y Bil amaethyddiaeth'—mae Andrew R.T. Davies...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru: Gwrtaith Amaethyddol (25 Mai 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Rydym yn sicr yn cydnabod ansicrwydd y cyfnod hwn am amryw o resymau i'r sector amaethyddol yn ei gyfanrwydd, a soniais fod fy swyddogion yn mynychu grŵp monitro'r farchnad amaethyddol, a dyna lle rydym yn monitro'n agos iawn yr hyn sy'n digwydd yn ein sector ni yma yng Nghymru wrth gwrs. Cyfarfûm â ffermwr—ni allaf gofio ai yn y Siambr neu mewn pwyllgor lle y trafodais hyn—a...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru: Gwrtaith Amaethyddol (25 Mai 2022)

Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru yn monitro argaeledd a chost yr holl fewnbynnau amaethyddol yn fanwl drwy grŵp monitro marchnad amaethyddol y DU a thasglu gwrtaith y DU. Mae'r dadansoddiad presennol yn dangos nad oes unrhyw broblemau gyda'r cyflenwad gwrtaith yng Nghymru, ond gall anwadalrwydd prisiau nwy arwain at amrywiadau pellach yn y prisiau.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru: Cynhyrchiant Amaethyddol (25 Mai 2022)

Lesley Griffiths: Yn anffodus, nid wyf mor optimistaidd â Janet Finch-Saunders nad yw Llywodraethwr Banc Lloegr yn gywir. Yn anffodus, mae'r holl dystiolaeth a welwn yn dynodi cynnydd sylweddol, ac mae arnaf ofn fod hyd yn oed Gweinidogion Llywodraeth y DU yn codi eu hysgwyddau pan soniwch am brisiau bwyd cynyddol, ac ymddengys eu bod yn meddwl mai dyna sy'n mynd i ddigwydd. Soniais am y £227 miliwn a...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru: Cynhyrchiant Amaethyddol (25 Mai 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae Cyswllt Ffermio yn darparu rhaglen drosglwyddo gwybodaeth, cyngor arbenigol ac arloesedd, ac mae'n cynorthwyo busnesau fferm i leihau costau a sicrhau'r arbedion effeithlonrwydd mwyaf posibl. Ar 1 Ebrill, cyhoeddais becyn cymorth gwerth dros £227 miliwn dros y tair blynedd ariannol nesaf i gefnogi gwytnwch yn yr economi wledig.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.