Mike Hedges: Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Suzy Davies am roi munud imi yn y ddadl hon? Rwyf am wneud dau bwynt cysylltiedig. Y cyntaf yw bod angen cyfnewidfeydd bysiau a threnau yn yr holl orsafoedd rheilffyrdd, ac mae angen i'r bysiau gyrraedd a gadael ar yr adegau cywir. Yn llawer rhy aml, mae bysiau'n gadael ar adeg wahanol i'r trenau, ac mae hynny'n golygu bod defnyddio bws i gyrraedd yr orsaf...
Mike Hedges: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mike Hedges: Pam y credwch mai dim ond £1.4 biliwn y bydd yn ei gostio?
Mike Hedges: Fel bob amser—os oedd rhaid i Russell George fy herio i. Ym Mhowys mae cymorth y pen yn y pedwerydd safle ar ddeg uchaf yng Nghymru a'i phroblem yw colli poblogaeth.
Mike Hedges: Y cyllid allanol agregedig chweched uchaf yw sir Ddinbych.
Mike Hedges: Gwnaf.
Mike Hedges: Oherwydd nad ydym yn cael yr arian y dylem fod yn ei gael pe byddem wedi codi o ran—[Torri ar draws.] Pe byddem wedi codi o ran ble'r oeddem 10 mlynedd yn ôl. Wrth gwrs, mae rhai yn dweud y bydd uno cynghorau yn datrys rhan o'r broblem. Ar gyfer hynny, mae gennyf ddau air—Betsi Cadwaladr—neu dri gair—Cyfoeth Naturiol Cymru. Gellir cael rhagor o arian ychwanegol—[Torri ar draws.]...
Mike Hedges: Gwnaf, yn sicr.
Mike Hedges: Wel (1) nid yw hynny'n wir, ac roeddwn yn sôn am newidiadau o flwyddyn i flwyddyn. Roedd ardrethi busnes wedi'u canoli ac yn cael eu casglu'n lleol ac yna eu hailddosbarthu gyda'r grant cynnal ardrethi yn rhan o gyllid allanol crynswth. Nawr, sut caiff yr arian ei ddosbarthu? Mae Blaenau Gwent yn cael £1,587 a Sir Fynwy yn cael £995. Ydy hynny'n deg? Wel, mae 8.8 y cant o eiddo Blaenau...
Mike Hedges: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Wel, a gaf i ddweud, ar nodyn cadarnhaol, rwyf yn falch iawn o glywed pobl newydd yn cymryd diddordeb mewn llywodraeth leol ac yn cefnogi llywodraeth leol o feinciau'r wrthblaid? Rwyf wedi arfer â Siân Gwenllian a David Lloyd yn cefnogi llywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf—felly, rwy'n falch o weld pobl eraill yn ymuno. A gawn ni edrych—? [Torri ar...
Mike Hedges: Rwy'n croesawu cynigion y gyllideb. Bydd, fe fydd yn anodd i'r Comisiwn weithio o fewn y setliad. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd ganddynt rai penderfyniadau anodd iawn i'w gwneud. Croeso i fyd gweddill y sector cyhoeddus. Ni all fod yn rhydd rhag y problemau a'r anawsterau a achoswyd gan bolisïau cyni y mae gweddill y sector cyhoeddus yn eu hwynebu. Dywedais y llynedd na allai cyllideb y...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Rwy'n un a fu'n dadlau'n hir o blaid cynllun arloesi i arbed fel modd o gael pobl i wneud rhywbeth gwahanol, sy'n gallu creu cryn fanteision. Ni fydd pob un ohonynt yn llwyddo, oherwydd pe bai pob un yn llwyddo, byddem yn ôl i fodel buddsoddi i arbed lle rydym yn gwneud y peth diogel. Ond bydd rhai ohonynt yn llwyddo, a bydd rhai ohonynt...
Mike Hedges: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod gan Lywodraeth Cymru bŵer i gyhoeddi bondiau i godi arian ar gyfer prosiectau cyfalaf mawr, megis ffordd liniaru’r M4—os ydynt yn penderfynu bwrw ymlaen â hynny—yn yr un modd ag y gall Transport for London godi bondiau, fel y gwnaethant ar gyfer Crossrail?
Mike Hedges: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gronfa arloesi-i-arbed? OAQ52896
Mike Hedges: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu y gwnaf i ddechrau drwy ddweud bod ar bob un ohonom ni ddyled o ddiolchgarwch i ddiffoddwyr tân sy'n mynd i adeiladau pan fo'r gweddill ohonom ni'n gadael. Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud ar atal tannau, ac rydych chi a'r system chwistrellu wedi eu canmol, ond mae'r gwaith enfawr a wneir gan y gwasanaeth tân o ran mynd allan a rhoi larymau mwg mewn...
Mike Hedges: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Arweinydd y tŷ, rwyf, eto, yn dychwelyd at fater sy'n effeithio ar eich etholaeth chi a minnau yn ogystal ag etholaeth sawl un o'n cyd-Aelodau, sef cau canolfan alwadau Virgin Media yn Abertawe. A gaf i ofyn am ddatganiad ar y cymorth a roir gan dasglu Llywodraeth Cymru i'r rhai sy'n chwilio am swyddi eraill? A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad ar ddatblygiadau...
Mike Hedges: A wnaiff Llywodraeth Cymru ddeddfu i sicrhau bod yn rhaid i bob eiddo sy'n cael ei adeiladu neu ei addasu ar gyfer tai dalu'r dreth gyngor yn seiliedig ar y band y maen nhw ynddo a bod unrhyw bremiwm ail gartref sy'n cael ei godi gan yr awdurdod lleol, neu'r rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer eiddo rhent yn cael eu diddymu? Oherwydd rwy'n credu bod hwn yn fwlch: mae'n rhaid iddo fod ar gael am...
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Mae'r gost o ariannu'r cynnydd i gyfraniadau pensiwn cyflogwyr athrawon yn dilyn penderfyniad San Steffan i gyflwyno cap costau, a bydd hyn yn effeithio ar gyllidebau ysgolion yn bennaf. Oni ddaw arian gan San Steffan—ac efallai y bydd arian gan San Steffan—a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo y bydd unrhyw arian a ddaw fel swm canlyniadol o'r...
Mike Hedges: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllido'r cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn athrawon? OAQ52895
Mike Hedges: Gall Ysgrifenyddion y Cabinet sy'n gyfrifol am feysydd fel trafnidiaeth, addysg a'r economi ddarparu arian i lywodraeth leol ei wario yn eu meysydd cyfrifoldeb. Pa gymorth ariannol oddi wrth aelodau eraill o'r Cabinet, o'u cyllidebau, y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn amdano i gefnogi llywodraeth leol, sydd mewn angen dybryd?