Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Pasiodd y Cynulliad y Ddeddf lefelau staff nyrsio y llynedd gyda’r addewid y byddai’r ddeddfwriaeth newydd hon yn darparu mesurau diogelu ar gyfer diogelwch cleifion ac yn rhoi diwedd ar sefyllfaoedd lle y mae nyrsys yn teimlo nad oes ganddynt ddigon o amser i ofalu am gleifion yn iawn. Ar hyn o bryd mae eich Llywodraeth yn ymgynghori ar y canllawiau...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gellir cymharu gorwariant y byrddau iechyd lleol â’r symiau mawr a werir ar nyrsys asiantaeth. Y llynedd, roedd y GIG yng Nghymru yn gwario £2.5 miliwn bob wythnos ar staff asiantaeth, a fydd yn ddi-os yn cael ei dorri y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, yn syml iawn, nid oes gennym staff parhaol ar gael i wneud yn iawn am y diffyg, felly gofal cleifion...
Caroline Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad cleifion Cymru at dreialon clinigol yng Nghymru?
Caroline Jones: Prif Weinidog, mae Llywodraethau Ceidwadol a Llafur yn San Steffan, a chlymbleidiau Llafur, Plaid a Rhyddfrydol olynol yma yng Nghymru, wedi methu â chaniatáu cyllid digonol ar gyfer gofal cymdeithasol. O ganlyniad i—[Torri ar draws.] O ganlyniad i ddegawdau o danariannu, rydym ni’n nesáu at argyfwng mewn gofal cymdeithasol, ac er gwaethaf y ffaith fod ein poblogaeth yn heneiddio’n...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu’r newyddion fod de Cymru yn mynd i gael carchar newydd o bosibl. Fel rhywun sydd wedi gweithio yn y gwasanaeth carchardai ers blynyddoedd lawer, rwy’n gwybod yn iawn am y problemau gyda gorlenwi, sy’n creu amgylchedd anniogel ar gyfer carcharorion a staff. Bydd cael carchardai ychwanegol yn ne Cymru yn caniatáu i fwy o garcharorion gael eu cadw...
Caroline Jones: Weinidog, mae rhai o’r adroddiadau yn y cyfryngau ar y mater hwn wedi bod yn eithaf annifyr. Mae gweld merched ifanc yn colli wythnosau o’u haddysg bob blwyddyn oherwydd eu cyfansoddiad biolegol, ac yn byw mewn tlodi, yn annerbyniol. Weinidog, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi’u cael â sefydliadau yn y DU a’r Undeb Ewropeaidd...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Andrew Blakeman a'i dîm am y modd agored a thryloyw y maen nhw wedi ymwneud â'r adolygiad ac am eu hargymhellion ardderchog. Rydym i gyd yn derbyn nad oes arian diderfyn ar gael i’r GIG; fodd bynnag, rydym hefyd i gyd yn derbyn, ar adegau, mai triniaeth newydd nad yw'n gyffredinol yn...
Caroline Jones: Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am yr ateb yna. Rwyf wedi bod yn ymdrin ag etholwr y bu’n rhaid i’w gadair olwyn fynd i mewn i gael ei hatgyweirio. Fe’i gadawyd heb gadair addas arall, gan fod hon yn gadair bwrpasol, am dros ddau fis ac nid yw wedi llwyddo i gysylltu ag unrhyw un i gael y newyddion diweddaraf. Dim ond ar ôl i mi gysylltu â phrif weithredwr y bwrdd iechyd lleol y...
Caroline Jones: Brif Weinidog, yn anffodus, mae'r naratif ynghylch cysgu ar y stryd wedi bod yn gwbl wenwynig. Yn hytrach nag ystyried pobl sy'n cysgu ar y stryd fel eneidiau truenus, anffodus sy’n gorfod dod o hyd i loches mewn drysau siopau gan wynebu hypothermia a newyn, mae llawer wedi eu hystyried a’u brandio fel tramgwyddwyr a phla i’w waredu o’n strydoedd mawr. Brif Weinidog, a ydych chi’n...
Caroline Jones: 8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl anabl i barhau'n aelodau gweithgar o'u cymunedau? OAQ(5)0520(FM)
Caroline Jones: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Hoffwn ddweud ein bod, ar hyn o bryd, yn edrych yn unig ar ddau bwynt gwefru yn Nhŷ Hywel, ond yn amlwg, fe welwn pa mor llwyddiannus fydd hyn, ac mae gennym ddiddordeb mewn edrych ar hyn yn gadarnhaol a lleihau ôl troed allyriadau carbon. Rydym yn awyddus i fwrw ymlaen â’r syniad hwn, felly gyda chynnydd, byddwn yn rhagweld y byddem yn edrych ar...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i’r Aelod unwaith eto am holi ynglŷn â cherbydau trydan. Hoffwn ddweud y bydd angen i ni fynd drwy’r broses gaffael briodol, a bydd hyn yn cymryd peth amser. Ond yn dilyn yr arolwg a anfonwyd allan ym mis Chwefror, cafwyd ymateb mwy cadarnhaol i gerbydau trydan, ac rydym wedi ymateb yn unol â hynny. Hoffwn ddweud ein bod yn gobeithio ac yn bod yn gadarnhaol y bydd hyn yn...
Caroline Jones: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Hoffwn ddweud, yn dilyn fy ymateb i’ch cwestiwn ar y mater hwn ym mis Hydref, rwy’n falch o allu cadarnhau fod trefniadau ar y gweill i osod dau bwynt gwefru ar yr ystad. Bydd y rhain yn defnyddio system cerdyn talu wrth ddefnyddio/cerdyn allwedd a fydd yn caniatáu ar gyfer gwefru cerbydau trydan ar y safle a chynllun taliad hawdd i’r defnyddiwr....
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua £300 miliwn y flwyddyn i Ddinas a Sir Abertawe ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus i bobl Abertawe. Yn yr Arolwg Cenedlaethol Cymru diweddaraf, roedd nifer y bobl a oedd yn teimlo bod Dinas a Sir Abertawe yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel ychydig dros 50 y cant. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn credu bod hyn yn...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, dyma’r achos diweddaraf o danseilio diogelwch data i daro ein gwasanaeth iechyd, ac mae’r achos penodol hwn yn drychinebus i'r staff dan sylw. Er nad oedd unrhyw ddata cleifion wedi ei gynnwys ar yr achlysur hwn, mae'n tynnu sylw at bryderon llawer o bobl na ellir ymddiried yn y GIG i gadw gwybodaeth bersonol. Yn gynharach y mis hwn, cafodd cyn nyrs ei diswyddo...
Caroline Jones: Arweinydd y tŷ, mae'r ailbrisio ardrethi busnes yn rhoi ein stryd fawr mewn perygl. Mae llawer o fusnesau bach yn wynebu cynnydd anferth i’w biliau ardreth, ac eto nid yw eu trosiant yn cynyddu. I lawer, yr unig ddewis arall yw chwilio am adeiladau rhent â gwerth trethiannol llai oddi ar y stryd fawr, ac efallai mai hwn fydd y pennog gyda phwn a fydd yn torri asgwrn cefn y ceffyl i...
Caroline Jones: Mae UKIP yn llwyr gefnogi’r cynnig sydd ger ein bron heddiw. Mae Cronfa’r Teulu yn darparu gwasanaeth gwerthfawr iawn i deuluoedd sydd â phlant anabl ac mae’n anffodus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu torri cyllid y gronfa. Mae colli £5.5 miliwn o Gronfa’r Teulu yng Nghymru yn golygu nad yw miloedd o deuluoedd yn cael y math o gefnogaeth y mae teuluoedd yng ngweddill y DU...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gynnig y ddadl hon heddiw. Mae sicrhau canlyniadau iechyd gwell i blant a phobl ifanc yn un o’r tasgau pwysicaf sy’n ein hwynebu yn y Cynulliad hwn. Mae Cynulliadau blaenorol a Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith i wella iechyd plant, ond nid yw’n ddigon yn ôl y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn eu hadroddiad blynyddol ar...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cymru wedi bod yn arloeswr mewn cymaint o faterion, felly mae’n fwy siomedig byth ein bod yn llusgo’n bell ar ôl gweddill Prydain ar fater diddymu ffioedd asiantau gosod. Mae ffioedd asiantaethau gosod yn ei gwneud bron yn amhosibl i lawer o deuluoedd fynd i mewn i’r sector rhentu preifat ac yn cynyddu’r galw am dai cymdeithasol. Ysgrifennydd y Cabinet,...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae strôc, yn anffodus, yn effeithio ar lawer gormod o bobl yng Nghymru—ac mae’n bosibl atal y rhan fwyaf ohonynt. Yma yng Nghymru, mae tua 7,000 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn. Mae un o bob wyth strôc yn arwain at farwolaeth o fewn y 30 diwrnod cyntaf, ac mae un o bob pedwar yn arwain at farwolaeth o fewn y flwyddyn...