Russell George: Beth yw'r sail resymegol dros atal canslo gwasanaethau ar reilffyrdd y Cymoedd drwy ganslo gwasanaethau mewn ardaloedd eraill, sef yr hyn sy'n digwydd i bob pwrpas? A yw contract gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys gofyniad perfformiad gwahanol ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd, a pham fod gwasanaeth Bae Caerdydd yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth uwch o ran defnydd fesul uned, pan fydd...
Russell George: Mae'n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod wedi bod yn eithaf canmoliaethus tuag at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'i masnachfraint rheilffyrdd. Credaf fod cofnod ohonof yn dweud eich bod wedi bod yn arwrol o uchelgeisiol mewn perthynas â'r fasnachfraint rheilffyrdd, ond wrth wneud hynny, wrth gwrs, rydych wedi gosod y bar yn uchel, ac wrth wneud hynny rydych wedi gosod y...
Russell George: A gaf i gytuno â'r sylwadau —
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i gytuno â'r farn mai sathru'r gymuned leol dan draed yw hyn? Nid yw hyn yn gwneud unrhyw les i ddemocratiaeth leol, pan fo'r Gweinidog yn sathru barn yr awdurdod lleol a'r arolygydd dan draed hefyd. Ond a gaf i ofyn yn benodol, pan fydd y Gweinidog yn ymateb i'r gwelliant arbennig hwn, ei bod hi hefyd yn ymdrin â'r pryderon ynghylch gwaith sy'n cael ei wneud...
Russell George: Diolch. Rwy'n falch o glywed eich bod yn profi'r un rhwystredigaethau â minnau, ac mae fy rhwystredigaethau'n deillio o'r negeseuon rwy'n eu derbyn gan fy etholwyr. Rwy'n derbyn eich bod yn aros am y wybodaeth hon gan swyddogion, ond rwy'n cwestiynu pam nad yw'r wybodaeth hon eisoes ar gael, ond diolch i chi am ymrwymo i rannu'r wybodaeth honno gyda mi cyn gynted ag y bydd ar gael i chi....
Russell George: Wel, rwy'n rhannu eich rhwystredigaeth, arweinydd y tŷ. Cyflwynais gwestiynau ysgrifenedig i chi dros wythnos yn ôl. Ddoe oedd y dyddiad ar gyfer ateb, ac rwy'n meddwl tybed pam fod yna oedi. Ai'r rheswm yw eich bod eisiau osgoi craffu yn y cwestiynau heddiw? Hefyd, fe wnaethoch awgrymu yn y datganiad busnes ddoe eich bod yn aros tan y cwestiynau heddiw i wneud rhyw fath o gyhoeddiad am lot...
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ofyn i arweinydd y tŷ pam ei bod yn dal gwybodaeth yn ôl am gam 2 o gynllun Cyflymu Cymru?
Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 ym Mhowys?
Russell George: Arweinydd y tŷ, a fyddai modd ichi roi gwybod i'r Aelodau pryd yr ydych yn disgwyl gallu gwneud datganiad ar lot 2 yng ngham 2 rhaglen Cyflymu Cymru? Gwelaf eich bod chi'n gwenu wrth imi ofyn y cwestiwn. Ac, yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch pa bryd y bydd ef yn rhoi copi i'r Aelodau o'r llythyr cylch gwaith a chynllun...
Russell George: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n cytuno â chi: mae'r gwaith y maen nhw wedi ei gomisiynu yn rhoi sylfaen dystiolaeth gadarn, sef y math o waith dwys a all arwain wrth gwrs at newidiadau cadarnhaol i bolisi a chamau gweithredu'r Llywodraeth. Gadewch i ni gofio bod dros 1 filiwn o bobl yn byw yn nhrefi Cymru. Rydym ni'n clywed llawer am fargeinion dinesig, ond sut ydych chi'n teimlo y gall bargen...
Russell George: 6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r argymhellion yn adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach ar ddyfodol trefi yng Nghymru? OAQ52901
Russell George: Os felly, rwyf am ddweud yn unig fod effaith ganlyniadol enfawr ar yr economi wledig yn hyn o beth, ar siopau a busnesau lleol sy'n dibynnu ar y diwydiant ffermio. Os yw ffermio'n dod yn anghynaladwy, bydd yn cael effaith ganlyniadol enfawr a byddwch yn datgymalu'r economi leol fel y mae ar hyn o bryd.
Russell George: A gaf fi ddiolch i Angela Burns am ganiatáu imi siarad yn fyr ar hyn, gan fy mod yn cynrychioli etholaeth wledig fy hun? Credaf fod twristiaeth yn allweddol i'r economi wledig. Mae gennym dirweddau hardd eithriadol ac mae'n rhaid i ni wneud defnydd ohonynt. Ceir amrywiaeth o safbwyntiau ar saethu, ac mae fy rhai i wedi'u cofnodi, felly nid wyf am drafod hynny yn awr, ond bydd yn cael effaith...
Russell George: Yn ddiweddar, pasiodd Cyngor Sir Powys gynnig yn unfrydol a oedd yn datgan bod awdurdodau lleol yn rhy aml yn colli hyder yr etholwyr ynddynt, oherwydd eu bod yn ymddangos yn bell ac yn anatebol, a chefnogodd cynghorwyr o bob plaid y cynnig a gyflwynwyd gan gynghorydd sir Dolforwyn, Gareth Pugh. Cytunwyd bod angen gwneud rhagor i ennyn diddordeb a brwdfrydedd yr etholwyr i wneud llywodraeth...
Russell George: Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae pysgotwyr wedi bod yn cysylltu â mi ers peth amser ynglŷn â diffyg capasiti o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru i ddiogelu ein pysgodfeydd a'n llynnoedd yn y dalgylch o gwmpas canolbarth Cymru yn benodol. Nawr, dywedir wrthyf fod potsio am eogiaid yn dod yn fwy cyffredin, sydd wrth gwrs yn difetha dyfodol stoc pysgota. Priodolir y pryder yn...
Russell George: 12. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amddiffyn pysgodfeydd yng nghanolbarth Cymru? OAQ52843
Russell George: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Buaswn yn gwerthfawrogi datganiad, efallai, fel y gallwn gael gwybodaeth bendant a manwl o ran pryd y bydd y trenau'n cyrraedd, gyda dyddiadau cysylltiedig. Hefyd, gofynnais i chi am y broses dendro a'r manylebau tendro yn y cytundeb terfynol. Pe gallech roi ateb ar hynny heddiw—o ran pryd rydych yn rhagweld y bydd y rheini ar gael i'r cyhoedd er mwyn i ni...
Russell George: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn gobeithio y gallech roi atebion penodol o ran y materion amserlennu rwyf wedi'u codi heddiw. Os ydych yn gallu gwneud hynny, gwnewch hynny heddiw os gwelwch yn dda. Mae Trafnidiaeth Cymru a'r Llywodraeth wedi gwneud nifer o ymrwymiadau i deithwyr rheilffyrdd mewn perthynas â darparu trenau newydd. Fel y byddwch yn gwybod, un o'r prif...
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, nifer o wythnosau'n ôl, dywedasoch, mewn ymateb i gwestiynau a ofynnwyd gennyf fi, rwy'n credu, eich bod yn bwriadu cyfarfod â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru i drafod nifer o faterion gydag ef mewn perthynas â masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a'r gororau. Fe egluroch chi mai un o'r materion y byddech yn ei godi oedd manylion...
Russell George: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, wrth gwrs, ac yn cytuno ar yr angen am y bont newydd dros afon Dyfi, yn arbennig o ystyried y llifogydd sydd wedi cau'r bont ar nifer o achlysuron, fel y gwnaeth unwaith eto fis diwethaf ac ym mis Awst, gan amharu'n sylweddol ar y traffig. Nawr, ysgrifennais atoch yn gynharach yn yr haf ac...