Vikki Howells: Heddiw yw Diwrnod Twristiaeth y Byd, fel y byddwch yn gwybod rwy’n siŵr, Brif Weinidog, ac mae mor bwysig ein bod yn tynnu sylw at yr hyn sy'n cael ei gynnig ym mhob rhan o'n gwlad i ymwelwyr. Mae atyniadau yn fy etholaeth fy hun, Cwm Cynon, fel distyllfa wisgi Penderyn a digwyddiadau unigryw fel rasys ar y ffordd Nos Galan, sy'n coffáu Guto Nyth Brân. Felly, sut y mae Llywodraeth...
Vikki Howells: 2. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer codi nifer y twristiaid sy'n ymweld â Chymru? OAQ(5)0156(FM)
Vikki Howells: Diolch, Lywydd. Bydd llawer o gyd-Aelodau yma yn y Siambr yn ymwybodol fy mod, tan fis Mawrth eleni, yn athrawes amser llawn. Yn sicr, fe fwynheais fy 16 mlynedd yn yr ystafell ddosbarth, ond fy atgofion gorau o’r swydd oedd yr amser a dreuliwyd y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Wrth ddweud hyn, nid cyfeirio rwyf at y gwyliau hir honedig y mae athrawon yn ei gael, sydd gyda llaw, gallaf...
Vikki Howells: Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, yn eu tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i’w blaenoriaethau ar gyfer tymor y Cynulliad hwn, yn rhestru’n gryno y manteision i addysg person ifanc o gyswllt o’r fath â’r awyr agored. Nid wyf am ailadrodd y rhestr, ond rwyf am sôn am rai enghreifftiau sy’n atgyfnerthu fy nealltwriaeth hun o fanteision y math hwn o ddysgu. Mae...
Vikki Howells: Gyda golwg ar ADY.
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Roedd addysgu yn yrfa dewis cyntaf i mi ac rwyf wedi treulio 16 mlynedd gwerth chweil yn y dosbarth. Rwy'n gwybod, o fy mhrofiad fy hun o weithio gyda rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon fel mentor myfyrwyr fy hun, pa mor bwysig ydynt o ran sicrhau bod addysgu’n parhau i fod yn yrfa dewis cyntaf, a hefyd pa mor fuddiol ydyw i athrawon...
Vikki Howells: Arweinydd y tŷ, roedd hi’n dda ymuno â chi a llawer o ACau Llafur eraill y tu allan i'r Senedd yr wythnos ddiwethaf i gefnogi menywod o bob rhan o Gymru sy'n protestio yn erbyn y newidiadau annheg i drefniadau pensiwn menywod sydd, yn syml, wedi eu gwthio arnom gan Lywodraeth y DU. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei hasesiad o’r effaith y mae’r newidiadau hyn wedi eu...
Vikki Howells: Yn ddiweddar, cysylltodd etholwr â mi a oedd wedi cael ei heffeithio gan ddementia cynnar, a chynghorwyd iddi roi’r gorau i weithio a gwneud cais am daliadau annibyniaeth bersonol. Roedd fy etholwr yn ofidus a theimlai nad oedd yn cael ei gwerthfawrogi gan fod ei hasesiad wedi canolbwyntio’n llwyr ar ei gallu corfforol yn hytrach na’i hanghenion iechyd meddwl. A ydych yn cytuno,...
Vikki Howells: Cyfarfûm yn ddiweddar â ffermwr yn fy etholaeth a oedd wedi clirio tir i greu coetir newydd o dan gynllun Glastir. Fodd bynnag, roedd yn cael problemau oherwydd bod y tir wedi ei oresgyn ers hynny gan Jac y Neidiwr, sy’n broblem ar bob rhan o dir ei fferm, ac roedd yna bosibilrwydd hefyd ei fod wedi lledaenu i lawr y bryn o un o safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, roeddwn yn meddwl...
Vikki Howells: Diolch, Lywydd. Tri chwestiwn cyflym ichi, Ysgrifennydd y Cabinet: yn gyntaf, ac ystyried arwyddocâd y fasnachfraint rheilffyrdd a’r prosiect metro ar gyfer Cymoedd y de, tybed pa ystyriaeth yr ydych wedi ei rhoi i leoli tîm Trafnidiaeth Cymru yn y Cymoedd? Yn ail, mae'r prosiect metro yn cynnig y cyfle i ailgysylltu cymunedau sydd wedi colli eu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. A...
Vikki Howells: Gall addysg i oedolion gyflawni swyddogaeth hanfodol i dorri'r cylch tlodi. Dyna oedd y neges o wobrau addysg oedolion Ysbrydoli! y mis diwethaf, pryd y cyflwynais y wobr newid gyrfa oes. Bydd adeilad £22 miliwn newydd Coleg y Cymoedd yn Aberdâr yn cynnig lleoliad dyheadol ar gyfer addysg oedolion, ond yr her hefyd yw sicrhau darpariaeth addas o gyrsiau o ansawdd da i ddysgwyr. Sut mae...
Vikki Howells: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddull Llywodraeth Cymru o gynyddu cyfleoedd i gymryd rhan mewn addysg oedolion yng Nghymru? OAQ(5)0113(FM)
Vikki Howells: Brif Weinidog, rydym ni’n ymwybodol o bwysigrwydd dewisiadau ffordd o fyw iach i leihau'r risg o ganser, felly mae'n dda gweld o ganlyniadau arolwg iechyd Cymru 2015 bod nifer yr ysmygwyr yng Nghymru wedi gostwng o 26 y cant i 19 y cant o’r boblogaeth, sydd hefyd yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi rhagori ar ei tharged ar gyfer lleihau cyfraddau ysmygu. Mae'r Bil iechyd cyhoeddus a...
Vikki Howells: Diolch. Cyfarfûm yn ddiweddar â fy etholwr ysbrydoledig, Mia Thorne, sydd ond yn naw oed, ac sy’n llysgennad dros Caudwell Children Wales. Yn ystod ein trafodaeth, mynegodd Mia bryderon ynglŷn ag anghysondebau mewn rheoliadau adeiladu, er enghraifft o ran lled drysau fel bod defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gallu llywio o gwmpas eu cartref eu hunain. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn...
Vikki Howells: Diolch. Mae Dechrau’n Deg wedi cael effaith drawsnewidiol ar fywydau degau o filoedd o blant ledled Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth, sef Cwm Cynon, yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad. Fodd bynnag, gwn fod pryderon wedi’u mynegi ynglŷn â’r sail ddaearyddol ar gyfer dyrannu’r cymorth. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd...
Vikki Howells: Diolch. Mae perygl llifogydd i eiddo yn Abercynon, Aberaman, Cilfynydd, Cwm-du ac Ynysboeth yn fy etholaeth wedi cael ei leihau drwy raglen lliniaru llifogydd gwerth miliynau o bunnoedd Rhondda Cynon Taf, a ariennir gan raglen gyfalaf y cyngor, arian Llywodraeth Cymru a chyllid datblygu rhanbarthol Ewrop. A ydych chi’n cytuno y gallai’r cynlluniau hyn i ddiogelu cartrefi a theuluoedd rhag...
Vikki Howells: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddulliau Llywodraeth Cymru o atal llifogydd yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0007(ERA)
Vikki Howells: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y ddarpariaeth Dechrau’n Deg yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0010(CC)
Vikki Howells: 13. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod tai yng Nghymru yn diwallu anghenion pobl anabl? OAQ(5)0009(CC)
Vikki Howells: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Roedd hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth o Sgrinio Serfigol yr wythnos diwethaf, sef prosiect ar draws Ewrop gyfan i godi ymwybyddiaeth o swyddogaeth sgrinio i fynd i'r afael â chanser ceg y groth. Er bod cyfraddau marwolaeth yn gostwng ar gyfer canser ceg y groth, roedd gostyngiad bach hefyd i’r nifer a gafodd eu sgrinio, ac rwy'n arbennig o bryderus bod un o...