Carl Sargeant: Mae’r Aelod yn iawn i godi’r materion hyn ar ran ei etholaeth a llu o rai eraill ledled Cymru. Mae Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg yn ddwy ran bwysig iawn o’n rhaglenni trechu tlodi a chymorth i deuluoedd. Byddaf yn ceisio sicrhau eu bod yn parhau yn y dyfodol.
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gefnogaeth. Gwneuthum amcan bras o Aelodau a allai fod yn gefnogol i’r ddeddfwriaeth, wrth inni symud ymlaen, a chredaf ein bod ar y trywydd iawn o ran hynny ar hyn o bryd. Gobeithiaf y gallwn barhau â’r ddeialog honno. Mae’r Aelod yn iawn ynglŷn ag amddiffyn pobl ifanc. Mae llu o ddeddfau eisoes ar waith, ond nid yw’r gwaith wedi ei gyflawni eto ac mae’n...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod dros Aberafan. Mae strategaeth tlodi plant 2015 yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer trechu tlodi plant ledled Cymru. Maent yn cynnwys ffocws ar y blynyddoedd cynnar a chynyddu cyflogadwyedd. Rwyf hefyd yn archwilio cyfleoedd i fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a lleihau eu heffaith ar gyfleoedd bywyd plant.
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei sylwadau. Rwy’n bwriadu dechrau trafodaethau gyda phob plaid i weld sut y gallwn ddod o hyd i ffordd ymlaen gyda’n gilydd drwy hyn. Fy man cychwyn yw darparu rhaglen rhianta cadarnhaol, gyda golwg gyfannol i deuluoedd, a chefnogaeth i bobl ifanc, o ran cynnig gwell i Gymru, ac ochr yn ochr â hynny, byddwn yn cynnwys y ddeddfwriaeth y soniodd yr Aelod amdani.
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Er mwyn cydlynu’r gwaith hollbwysig hwn yn y Llywodraeth, rydym wedi sefydlu tîm rhianta pwrpasol, a fydd yn gyrru’r agenda hon. Mae fy swyddogion eisoes wedi dechrau ar y broses o ymgysylltu â rhieni a rhanddeiliaid eraill er mwyn llywio datblygiad y ddeddfwriaeth hon. Rwy’n dymuno bod yn gynhwysol yn y broses hon ac rwy’n siŵr y bydd gan yr...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ein bwriad i ddatblygu deddfwriaeth, ar sail drawsbleidiol, a fydd yn cael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Rwyf wedi cyfarfod â Chomisiynydd Plant Cymru yn ddiweddar a byddaf yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys Aelodau’r Cynulliad, wrth i’r mater hwn symud ymlaen.
Carl Sargeant: Diolch. Rwyf wedi cael y llythyr gan yr Aelod sy’n rhoi cefnogaeth lawn i gais neuadd bentref Rhaglan, ac roeddech yn iawn i ddweud eu bod wedi cael swm sylweddol o arian gan y Loteri Fawr ar gyfer cynllunio. Mae’r rhaglen cyfleusterau cymunedol yn gynllun grantiau cyfalaf sy’n darparu hyd at £500,000 ar gyfer prosiectau a arweinir gan y gymuned i wella cyfleusterau cymunedol sy’n...
Carl Sargeant: Byddaf yn gwneud datganiad yn fuan y mis nesaf ynglŷn â’r is-adran cymunedau a’n gweledigaeth ar gyfer y cyfleoedd i gymunedau ar draws Cymru, a fydd yn fwy manwl o ran sut rydym yn gweld trechu tlodi yn ymddangos ar frig ein hagenda. Gwnaeth yr Aelod ddatganiad cyffredinol iawn am yr hyn sydd heb weithio gyda chyllid Ewropeaidd, ond ni roddodd unrhyw fanylion i mi ynglŷn â’r hyn...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Gall dod ag ystod o wasanaethau a sefydliadau at ei gilydd mewn canolfannau cymunedol wella’r modd y darperir gwasanaethau a mynediad cwsmeriaid.
Carl Sargeant: Rwy’n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt diddorol iawn. A bydd yr Aelod yn ymwybodol o’i chyd-Aelodau yn y Llywodraeth hefyd yn hyrwyddo ac yn gwario peth o’r arian Ewropeaidd ledled Cymru dros nifer o flynyddoedd yn flaenorol. I mi, a’r pwynt pwysig roedd yr Aelod yn ceisio ei wneud, rwy’n credu, oedd na ddylem godi ofn ar bobl o ran yr hyn sy’n mynd i ddigwydd—dylem fod yn...
Carl Sargeant: Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn, ac mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn, o ran trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, ynglŷn â sut a phryd rydym yn disgwyl gweld cyllid yn cael ei gyflwyno. Hyd yn hyn, nid ydym wedi cael fawr o arwydd, na fawr o lwc gyda hynny, ond mae’n pwyso’n galed iawn ar y DU. Rydym wedi gwneud rhai asesiadau o effeithiau gadael yr UE, yn enwedig...
Carl Sargeant: Mae gennym fforwm ffydd, fforwm rwy’n gadeirydd arno, ochr yn ochr â’r Prif Weinidog. Rydym yn gweithio ar y gallu i helpu diwylliannau i newid o’r tu mewn, yn hytrach na dweud wrthynt beth y dylai pobl fod yn ei wneud. Mae’n rhaid i ni weithio gyda sefydliadau cydymdeimladol sy’n gallu gweithio a gweithredu o fewn y diwylliant neu’r ffydd. Rydym yn cael peth llwyddiant ond mae...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rydym wedi deddfu yng Nghymru mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod a chamfanteisio rhywiol. Mae gennym raglen ar y cyd gyda’r GIG sy’n ymwneud ag anffurfio organau cenedlu menywod—a sefydliadau trydydd sector eraill. Mae’n flaenoriaeth yn fy adran i wneud yn siŵr bod diogelwch ein cymunedau ac unigolion yn cael eu cynnal a byddaf yn parhau i...
Carl Sargeant: Nid oes gennyf unrhyw ffigurau ar gyfer yr Aelod heddiw, ond fe ysgrifennaf at yr Aelod gyda manylion pellach. Fel y dywedais yn gynharach, mae hwn yn faes cymhleth iawn o ran yr hyn y credir ei fod yn dderbyniol yn gymdeithasol yn rhai o’r cylchoedd hyn. Mae’n amlwg nad yw’n dderbyniol. Nid ydym yn credu hynny. Ac rydym yn gweithio gyda sefydliadau trydydd sector—mae’n ddrwg...
Carl Sargeant: Nid wyf yn twyllo fy hun ynglŷn â pha mor gadarnhaol yw’r ffrwd gyllido ar gyfer Cefnogi Pobl ac mae ei heffaith yn fawr o ran y dull ‘atal’ o ddarparu gwasanaethau. Mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet yn cydnabod hynny hefyd a dyna pam ein bod wedi gwneud ein gorau o dan y Gweinidog blaenorol hefyd i ddiogelu cymaint o gyllideb Cefnogi Pobl ag y bo modd. Ond ni allwn barhau yn yr un...
Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar iawn am gwestiwn yr Aelod. Nid wyf yn amau ei uniondeb yn dwyn hyn i fy sylw heddiw, ond yr hyn rwyf am ei ddweud wrth yr Aelod yw bod yn rhaid rheoli ein buddsoddiadau yn strategol ar sail ein cyllidebau sy’n lleihau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud, a’r hyn rydym wedi ei wneud yng Nghymru, yw diogelu’r gyllideb Cefnogi Pobl, pan...
Carl Sargeant: Byddaf.
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’r ffordd amhleidiol y llwyddodd i’w ofyn hefyd. Rwy’n credu efallai fod llawer o Aelodau’r Siambr hon yn gyfarwydd â’r enghreifftiau y mae’r Aelod yn eu nodi. Rwy’n credu mai’r hyn rydym yn awyddus iawn fel Llywodraeth i’w wneud yw sicrhau bod ein ffrydiau cyllido yn mynd tuag at y budd mwyaf i’n cymunedau mwy o faint, gan weithio gyda...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rwy’n credu’n gryf mewn ymgysylltiad cymunedol effeithiol wrth gynllunio a darparu gwasanaethau lleol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynnu fod cyrff cyhoeddus yn dangos cydweithrediad ac ymwneud wrth gyflwyno’r nodau llesiant. Mae’n rhaid cynnwys cymunedau mewn llywodraeth leol a sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am gydnabod bod y weinyddiaeth Lafur flaenorol yng Nghynulliad Cymru wedi buddsoddi mewn ardaloedd ledled Cymru, gan gynnwys Bae Colwyn. Bûm yno gyda’r Aelod, yn wir, i weld y llwyddiant mawr hwn, a hefyd mae llefydd fel y Rhyl ac ardaloedd eraill yng ngogledd Cymru wedi derbyn symiau sylweddol o gyllid. Rwy’n credu ein bod ar hyn o bryd yn ystyried camau nesaf y...