Delyth Jewell: I ddechrau, hoffwn i groesawu cyhoeddiad y Llywodraeth ynglŷn â'u partneriaeth newydd gydag NBCUniversal, a'u penderfyniad i ymestyn PYST. Mae'r ddau beth yma yn newyddion da, ond, yn anffodus, dyma'r unig gyhoeddiadau newydd yn y datganiad sydd yn cynnwys unrhyw fath o fanylder. Mae pob dim arall yn y cyhoeddiad un ai'n annelwig neu'n datgan beth sydd eisoes yn digwydd yn y diwydiannau...
Delyth Jewell: Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Dechreuaf gyda materion yr ydym ni'n cytuno arnyn nhw. Fe hoffwn i ategu eich geiriau o ddiolch i staff Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus sydd wedi bod yn gweithio mor ddiwyd i baratoi Cymru ar gyfer y posibilrwydd trychinebus o Brexit heb gytundeb. Gwerthfawrogir eu gwaith caled. Cytunaf â chi hefyd ei bod hi'n gywilyddus bod adnoddau'n cael eu...
Delyth Jewell: Diolch i'r Gweinidog am ei hateb. Wrth gwrs, gallai'r adnoddau a wariwyd ar gynllunio 'dim bargen' fod wedi cael eu gwario ar y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru a'n hysgolion, sy'n galw allan am fuddsoddiad, pe bai Llywodraeth San Steffan wedi negodi cytundeb synhwyrol, yn debyg i’r hyn a nodwyd ym Mhapur Gwyn Plaid Cymru/Llywodraeth Cymru ar y cyd, 'Diogelu Dyfodol Cymru', a...
Delyth Jewell: 1. Pa adnoddau ariannol a ddyrannwyd hyd yn hyn gan Lywodraeth Cymru wrth baratoi at Brexit heb gytundeb? OAQ53726
Delyth Jewell: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi ysgrifennu at David Lidington i geisio sicrhau swyddogaeth statudol ar gyfer y Llywodraethau datganoledig yn negodiadau'r dyfodol, ond rwyf yn ei chael hi'n syfrdanol mai dim ond nawr y ceir y cadarnhad hwn, bedwar diwrnod ar ôl yr oeddem ni i fod i adael yr UE. Dylai'r Llywodraeth fod wedi cyhoeddi...
Delyth Jewell: Ar 20 Mawrth, cyfarwyddodd Llywodraeth Cymru y Cynulliad hwn i ysgrifennu at y pwyllgor Ewropeaidd atal artaith i godi pryderon Imam Sis a'r streicwyr newyn Cwrdaidd eraill ar y llwyfan rhyngwladol. Mae Imam, sy'n byw yng Nghasnewydd, yn awr ar ei ganfed a saith diwrnod o streic newyn. Mae'r sefyllfa bellach yn ddifrifol iawn. Mae'n ddybryd. Mae'n fater brys mawr. Sylwaf nad yw'r cynnig, er...
Delyth Jewell: Diolchaf iddo am ei ateb. Prif Weinidog, mae eich plaid wedi datgan sefyllfa o argyfwng hinsawdd erbyn hyn. Os bydd Llywodraeth Cymru yn datgan hyn yn swyddogol, hi fydd y Llywodraeth gyntaf yn y byd i wneud hynny. A gaf i ofyn: a yw datgan argyfwng newid yn yr hinsawdd yn golygu na fydd y Llywodraeth yn gallu bwrw ymlaen â'i chynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4, ac, os nad ydyw, beth yn...
Delyth Jewell: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd? OAQ53743
Delyth Jewell: Gweinidog, nawr bod y dewisiadau sydd ar gael yn culhau, byddwn yn gwerthfawrogi eglurder o ran pa mor bell fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i fynd er mwyn osgoi sefyllfa 'dim cytundeb'. Bydd cyfres o bleidleisiau dangosol yn San Steffan yr wythnos hon, a bydd ASau Plaid Cymru yn rhoi blaenoriaeth i gynnal pleidlais y bobl fel yr unig ffordd gynaliadwy o ddatrys yr argyfwng. Ond mae ein ASau...
Delyth Jewell: Ni wnaethoch dderbyn ymyriad gennyf fi, Darren. Nid wyf am gymryd un gennych chi. Lywydd, hoffwn gloi'r ddadl drwy esbonio bod Imam a'r lleill sydd ar y streic newyn hon wedi'u hysgogi yn eu gweithredoedd gan eu hawydd i roi llais i Mr Öcalan wedi iddo gael ei amddifadu o'i lais ei hun. I wneud hynny, maent yn barod i aberthu eu bywydau—nid eu bod yn dymuno gwneud hynny. Ychydig wythnosau...
Delyth Jewell: Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Mae'r Aelodau wedi siarad yn deimladwy iawn o blaid y cynnig. Rwy'n cytuno gyda Bethan nad yw ond yn iawn i'r Siambr hon fynegi ein llais ar faterion rhyngwladol, yn enwedig pan fyddant yn ymwneud â dinesydd Cymreig. Soniodd Mick Antoniw am y cysylltiad personol y mae'n ei deimlo gyda'r Cwrdiaid, a diolch iddo am ei eiriau teimladwy dros ben. A...
Delyth Jewell: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl ar y cynnig hwn heddiw. Mae'n fater pwysig i mi mewn dwy ffordd, yn rhannol oherwydd fy mod yn llefarydd ar faterion rhyngwladol, ond hefyd oherwydd bod Imam Sis, sydd wedi ein hysbrydoli i gyflwyno'r ddadl heddiw, yn byw yng Nghasnewydd, sydd yn fy rhanbarth. Rwy'n rhagweld y bydd gan Aelodau ar ochrau eraill y Siambr safbwyntiau gwahanol...
Delyth Jewell: Weinidog, rhaid imi ddweud nad wyf yn deall pam y mae Llafur Cymru yn sefyll yn etholiadau'r Cynulliad os nad oes gan y blaid unrhyw awydd ffurfio polisi cydlynol ar fater mawr y dydd pan fyddant mewn Llywodraeth. Fe fyddwch yn gwybod bod yr UE wedi dweud nad yw ond yn fodlon caniatáu estyniad i erthygl yn 50 os yw diben gwneud hynny'n gwbl glir, ac mae hynny'n galw am amserlen sy'n gwneud...
Delyth Jewell: Weinidog, a ydych chi'n bersonol yn credu fod y Gweinidog iechyd yn iawn i alw am yr ail bleidlais?
Delyth Jewell: Weinidog, rydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn cymeradwyo Mr Gething am ei ddewrder, ac am fod yn barod i roi ei swydd yn y fantol er mwyn sefyll dros beth sydd orau i Gymru, ac i'r DU gyfan. Wrth gwrs, er mwyn gallu cynnal refferendwm, neu'n wir o ran safbwynt Prif Weinidog Cymru ynghylch dod i gytundeb, bydd angen ymestyn erthygl 50. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym am ba hyd y cred...
Delyth Jewell: Nododd Bethan y byddai Brexit yn creu sioc ariannol fwyaf ein hoes i dreftadaeth a'r celfyddydau, ac rwy'n cytuno gyda hynny, ac i waethygu'r effaith ariannol honno, bydd ein pobl ifanc a'n plant yn tyfu fyny heb gael yr un cyfleoedd ag y mae eraill wedi'u cael, ac mae honno'n sioc fwy sylfaenol i'n henaid fel cenedl. Mae'n peri pryder mawr i mi, mae hwn yn fater sy'n agos at fy nghalon innau...
Delyth Jewell: Oherwydd hynny, mae Plaid Cymru'n credu'n gryf ei bod hi'n hanfodol bod Cymru yn parhau gyda chynllun Erasmus+, beth bynnag sydd yn digwydd yn y dyfodol o ran ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Pan roddodd yr Athro Claire Gorrara o Brifysgol Caerdydd dystiolaeth i'r pwyllgor ar y pwnc hwn, cyn imi ymuno, dywedodd hi ei bod hi'n disgrifio'r cynllun hwn fel un sy'n gwbl greiddiol i les...
Delyth Jewell: Buaswn yn cytuno i'r carn â'r hyn y mae fy nghyd-Aelod Bethan Sayed wedi'i ddweud. Mae Bethan, ynghyd ag Aelodau ar bob ochr, wedi siarad am yr effaith drychinebus y gallai Brexit ei chael ar y celfyddydau, ar ddiwylliant ac ar dreftadaeth. Hoffwn edrych ar hyn o'r safbwynt arall, sef y ffordd y mae diffyg sylw a buddsoddiad i'r celfyddydau wedi arwain yn rhannol at Brexit. Yn benodol,...
Delyth Jewell: Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Mae cyn-löwr wedi cysylltu â fy swyddfa i fynegi pryderon y gall pobl fod yn dioddef o niwmoconiosis yn ddiarwybod iddynt oherwydd gweithdrefnau diagnostig hen ffasiwn, ac y gall fod yn anodd gwneud diagnosis o niwmoconiosis oherwydd bod y symptomau sy'n gysylltiedig ag ef, fel pesychu a thrafferthion anadlu, yn gallu bod yn arwydd o amrywiaeth eang o...