Canlyniadau 61–80 o 900 ar gyfer speaker:Julie Morgan

4. Cwestiynau Amserol: Plant a Phobl Ifanc sy'n Derbyn Gofal ( 6 Gor 2022)

Julie Morgan: Mae ein deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio llety sy'n diwallu anghenion pobl ifanc â phrofiad o ofal yn unol â'u cynllun llwybr. Nid yw'n darparu ar gyfer lleoliadau heb eu rheoleiddio, ond gall fod adegau pan ddefnyddir y rhain fel ateb brys, a rhaid i ddarparwyr gael eu cymeradwyo i'r safonau gofynnol.

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Haf o Hwyl 2022 (28 Meh 2022)

Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn, Buffy Williams, am y cwestiwn hwnnw. Rydym ni'n cael trafodaethau helaeth gyda'r awdurdodau lleol ynglŷn â ble y dylai'r gweithgareddau hyn gael eu cynnal, ar gyfer pwy y dylen nhw fod, a gallaf i eich sicrhau chi bod hynny'n digwydd rhwng swyddogion yn Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, ac mae hynny yn sicr yn parhau. Felly, rydym ni'n ymwneud yn helaeth â'r...

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Haf o Hwyl 2022 (28 Meh 2022)

Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn, Vikki Howells, am y cwestiwn pwysig iawn hwnnw, a diolch am eich cefnogaeth i'r gweithgareddau a'r ffordd y maen nhw wedi tyfu. Rydym ni'n arbennig o awyddus i gynnwys plant sy'n ffoaduriaid mewn gweithgareddau chwarae, a dyna un o'r negeseuon yr ydym ni wedi'u hanfon at yr holl ddarparwyr sy'n darparu gweithgareddau yn ystod yr haf—yr hoffem ni iddyn nhw drefnu...

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Haf o Hwyl 2022 (28 Meh 2022)

Julie Morgan: Ie, diolch i Jenny Rathbone am y pwynt pwysig iawn hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hi ein bod ni eisiau i bob plentyn gael y cyfle i gael hwyl a gallu mynd at weithgareddau yn ystod gwyliau'r haf. Fel y dywedais i eisoes, mae'r canllawiau i awdurdodau lleol ar gyfer yr Haf o Hwyl yn gofyn iddyn nhw drefnu gweithgareddau mewn lleoliadau hygyrch ac yn caniatáu i rai costau trafnidiaeth gael...

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Haf o Hwyl 2022 (28 Meh 2022)

Julie Morgan: Diolch. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth i'r Haf o Hwyl. Mae'r cwestiwn o ran a all pawb gael mynediad atyn nhw yn amlwg yn rhywbeth yr ydym ni'n ymdrin ag ef. Mae'n bwysig iawn bod yr awdurdodau lleol, yn yr hyn y maen nhw'n ei ddatblygu, yn ystyried drwy'r amser a all pobl gyrraedd lleoedd. Rwy'n sylwi i chi sôn am y swm bach sydd ar gael ar gyfer trafnidiaeth. Rwy'n credu mai'r nod yw...

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Haf o Hwyl 2022 (28 Meh 2022)

Julie Morgan: Diolch i Gareth Davies am y sylwadau hynny, ac rwy'n falch ei fod yn croesawu'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Rwy'n falch o allu ymateb i'r pwyntiau y mae'n eu gwneud. Hoffwn i wneud y pwynt bod y gwerthusiad annibynnol yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth, a chyflwynodd y ffigur o 167,500 o blant a gafodd eu cyrraedd gan y rhaglen. Felly, rwy'n credu y gallwn ni dderbyn hwnnw fel ffigur dilys,...

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Haf o Hwyl 2022 (28 Meh 2022)

Julie Morgan: Diolch, Dirprwy Lywydd. A diolch am y cyfle i ddod yma heddiw i siarad ag Aelodau am ein cynlluniau i gefnogi plant a phobl ifanc ledled Cymru i gael haf o hwyl.

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Haf o Hwyl 2022 (28 Meh 2022)

Julie Morgan: Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod ni, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wedi ariannu Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc wrth iddyn nhw wella o effeithiau'r pandemig. Gan weithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr ledled Cymru, rydym ni wedi gallu darparu gweithgareddau di-rif am ddim i gefnogi lles cymdeithasol ac emosiynol plant a phobl ifanc rhwng dim a 25 oed ledled...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Meh 2022)

Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn. Ni allaf ond siarad am yr hyn yw ein polisi yma, a'n polisi yma yw peidio â mabwysiadu cynigion Ymddiriedolaeth WAVE. Rwyf wedi cyfarfod ag Ymddiriedolaeth WAVE, cefais gyfarfod hir gydag Ymddiriedolaeth WAVE, rwyf wedi trafod gyda hwy'n fanwl pam nad ydym yn cefnogi eu cynigion. Credaf eu bod yn deall pam, oherwydd ein bod yn uchelgeisiol, ac nid ydym yn credu y gallwn...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Meh 2022)

Julie Morgan: Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Rydym wedi gwrthod argymhellion WAVE am nad ydym yn credu y gallwch ddweud mai dim ond 70 y cant o blant y byddwch yn eu helpu a bod 30 y cant nad ydych yn eu helpu—rydym am helpu 100 y cant o blant. Felly, rwy'n siŵr bod y bwriadau sy'n sail i argymhellion WAVE yn rhai da iawn, ond ni allwch ddweud eich bod yn gwrthod 30 y cant o'r plant—na allwch helpu....

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Meh 2022)

Julie Morgan: Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Nid wyf yn credu bod angen ymchwiliad arall arnom yng Nghymru ar hyn o bryd. Credaf y gallwn ddysgu o'r ymchwiliadau sydd wedi digwydd ac yn sicr, rydym yn astudio'r ymchwiliad yn Lloegr. A chredaf fod llawer o bwyntiau yn yr ymchwiliad yn Lloegr sy'n debyg iawn i'r math o...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gweithwyr Cymorth Gofal (15 Meh 2022)

Julie Morgan: Mae hwn yn fater pwysig iawn. Yn amlwg, rydym yn croesawu unrhyw gamau sydd wedi bod mewn perthynas â'r dreth ar danwydd a byddem yn croesawu camau pellach. Unwaith eto, mae'n hanfodol bwysig fod gan ofalwyr, yn enwedig mewn lleoedd fel Ceredigion, fynediad at danwydd oherwydd mae'n gwbl angenrheidiol iddynt allu teithio i'r gwaith i helpu pobl sy'n agored i niwed. Felly, credaf fod arnom...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gweithwyr Cymorth Gofal (15 Meh 2022)

Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Jane Dodds. Yn sicr, gwyddom fod y pwysau ariannol y mae Jane yn ei ddisgrifio yn rhywbeth sy'n effeithio ar bawb yn y gymuned, ac yn benodol ar ofalwyr. Rwy'n siŵr bod Jane yn cyfeirio at ofalwyr a gofalwyr di-dâl hefyd. Gwn fod y gost o deithio rhwng gwahanol ymweliadau sy'n rhaid iddynt eu gwneud yn rhoi straen enfawr ar eu hadnoddau. Os caf...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gweithwyr Cymorth Gofal (15 Meh 2022)

Julie Morgan: Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn atodol hwnnw. Yn amlwg, rwy'n cytuno ag ef ynglŷn â phwysigrwydd gofal cymdeithasol i bobl allu byw yn eu cartrefi eu hunain a byw bywydau hapus a chyflawn. Fel y gŵyr yr Aelod, rydym wedi sefydlu fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sy'n cynnwys cyflogwyr, undebau a chyrff eraill, a gwnaethant ein cynghori ar sut i gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol. Eu...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gweithwyr Cymorth Gofal (15 Meh 2022)

Julie Morgan: Rydym yn cefnogi amrywiaeth o fentrau recriwtio. Rydym wedi cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal a byddwn yn gwneud gwelliannau pellach i delerau ac amodau. Rydym yn llwyr gefnogi dulliau ar y cyd gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd i wella llif cleifion o ysbytai i wasanaethau gofal yn y gymuned.

6. Dadl ar ddeiseb P-06-1249: Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru (25 Mai 2022)

Julie Morgan: Diolch, ac rwy'n croesawu'r ddadl hon y prynhawn yma a diolch i'r Aelodau am eu sylwadau. Fel y dywedodd Jack Sargeant yn ei gyflwyniad, mae heddiw'n amserol gan ein bod ar hyn o bryd yng nghanol Mis Ymwybyddiaeth Syndrom Tourette, a gorau po fwyaf o ymwybyddiaeth y gallwn ei godi. Rwyf wedi cyfarfod yn ddiweddar, yr wythnos ddiwethaf mewn gwirionedd, â Helen a chyda rhieni eraill i blant ag...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu Anableddau Dysgu (24 Mai 2022)

Julie Morgan: Diolch i Hefin David am y cyfraniad yna ac am yr holl waith y mae wedi'i wneud yn y maes hwn ac mewn meysydd cysylltiedig eraill. Gyda'r llwybrau cyfochrog, mae hynny yn achosi problemau ac mae'n achosi oedi, felly mae'r cynllun gweithredu eisiau datblygu gwasanaethau anabledd dysgu gwell ac integredig i blant a phobl ifanc yn holl feysydd dysgu cynnar, ysgolion, iechyd a gofal cymdeithasol,...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu Anableddau Dysgu (24 Mai 2022)

Julie Morgan: Diolch yn fawr am y cwestiynau yna. Yn sicr, mae unigolion ag anableddau dysgu yn dueddol o gael clefyd anadlol a chlefyd y galon, diabetes, problemau cyhyrysgerbydol a chyflyrau'r ystumog, gan gynnwys rhai mathau o ganser, ynghyd â'r hyn y mae'r Aelod wedi tynnu sylw ato. Mae unigolion sydd â syndrom Down yn debygol o ddatblygu dementia yn ifanc—tua 30 mlwydd oed. Felly, mae'r...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu Anableddau Dysgu (24 Mai 2022)

Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, am y cyfraniad yna. Mae'n wych clywed am Sant Teilo ac am Goleg Pen-y-bont ar Ogwr. Rwyf i wedi cael etholwyr o fy ardal i fy hun sydd wedi mynychu Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, ac, yn wir, rwy'n credu ei fod yn lle rhagorol. Rwy'n credu mai pryder ac ofn pob teulu yw'r hyn sy'n mynd i ddigwydd ar ôl i'r colegau ddod i ben, ac un o'r blaenoriaethau sydd...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu Anableddau Dysgu (24 Mai 2022)

Julie Morgan: Diolch i Rhun ap Iorwerth am y pwyntiau yna. Rwy'n credu bod rhai ohonyn nhw wedi'u gwneud yn dda iawn. O ran y manylion, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol, o ran cynllun gweithredu, a fydd â'r manylion, y bydd cyfle i Aelodau weld hynny. Caiff ei fonitro gan Grŵp Cynghori'r Gweinidog, sydd, fel y dywedais i, â chynrychiolaeth dda o bobl ag anableddau dysgu sydd â phrofiad bywyd. Rwy'n...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.