Mr Simon Thomas: Diolch am yr ateb, ond, wyth mlynedd yn ôl, fe gyhoeddodd Peter Hain a Jane Davidson y byddai'r M4 yn dod yn briffordd hydrogen i Gymru, a byddai, erbyn hyn—ers dwy flynedd, a dweud y gwir—restr o lefydd i storio hydrogen, i ddefnyddio hydrogen, fel rhan o drafnidiaeth a oedd yn cael ei datgarboneiddio. Nid ŷm ni wedi gweld y freuddwyd yna wedi'i gwireddu ac nid ŷm ni wedi gweld nemor...
Mr Simon Thomas: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r economi hydrogen yng Nghymru? OAQ52431
Mr Simon Thomas: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mr Simon Thomas: Rwy'n ddiolchgar. Mae wedi cyffwrdd ar rywbeth pwysig iawn, nad yw wedi'i wyntyllu, fel y dywedodd yn gwbl briodol—ar wahân i gyfraniad byr gan Dai Lloyd—yn y ddadl hon. Efallai ei fod yn ymwybodol—wel, mae'n ymwybodol, rwy'n gwybod, ond roeddwn am ei gofnodi hefyd—yn ei ardal ei hun, wrth gwrs, fod yna gychwyn i rai o'r atebion i'r broblem ddeublyg hon gydag allyriadau cerbydau...
Mr Simon Thomas: Jest ar y pwynt yna—ein hatgoffa ni am ddeddfau yn y gorffennol, wrth gwrs—un sgileffaith Deddf glanhau Llundain oedd agor y plant phurnacite yng Nghwm Cynon i lanhau y glo er mwyn ei losgi yn Llundain, a phobl y Cymoedd oedd yn cael y mwg o hynny. Dyna beth mae'n rhaid inni ei osgoi, a dyna pam mae technoleg fodern mor bwysig yn hyn o beth.
Mr Simon Thomas: Gallaf fod yn wleidyddol yn awr, Gadeirydd. [Chwerthin.] Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon, sydd, wrth gwrs, yn ddadl drawsbleidiol, gyda chymorth Aelodau o bob rhan o'r Siambr ar Ddiwrnod Aer Glân, sef yfory, ac rydym ni, fel Plaid Cymru, wedi ei ddefnyddio fel ffordd dda o wneud wythnos gweithredu aer glân, ond pa ffordd bynnag yr ewch ati, gwn fod yna ddiddordeb...
Mr Simon Thomas: Diolch i Mark Reckless. Nid wyf am gael fy nhemtio i ddadl ar gyni, a gwisgo het fwy gwleidyddol, ac fe ymdriniaf yn benodol â'i gwestiynau. Credaf fod dryswch bach yma, os caf fod yn glir yn ei gylch. Roedd y gyllideb gyffredinol a ystyriodd y Pwyllgor Cyllid, ac a gyflwynodd y Comisiwn, yn cynnwys y swm hwnnw o arian ar gyfer y bwrdd taliadau, i bob pwrpas. Gan fod llai—wel, rhowch y...
Mr Simon Thomas: Diolch, Suzy Davies. Ac wrth gwrs, rwyf bob amser yn agored i gael dadl; rwy'n mwynhau dadleuon lawn cymaint â neb yma, ond roeddwn yn meddwl y byddem yn rhoi cynnig ar ffordd wahanol ar yr achlysur hwn. Fe gymeraf adborth a gweld ai dyna yw'r ffordd orau, ond mae wedi caniatáu iddi wneud ei phwyntiau, a bod yn deg. Ni allaf wneud mwy mewn gwirionedd nag ailadrodd yr hyn a ddywedais...
Mr Simon Thomas: Diolch i Mike Hedges am ei sylwadau, sydd â'r rhinwedd o fod yn gyson. Mae wedi dweud hyn yn gyson, ac mae ei sylwadau wedi bod yn gyson glir a thryloyw yn ogystal, felly diolch iddo am hynny. Nid wyf yn anghytuno ag ef, ac mae'n adlewyrchu'r pwyntiau a wneuthum yn gynharach fod yn rhaid inni weithredu fel gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ein gwariant ein hunain ac wrth osod...
Mr Simon Thomas: Diolch i Nick Ramsay am ei sylwadau. Fel yr awgrymodd, gall hon fod yn ddadl swigen i roi diwedd ar yr holl ddadleuon swigen, ond mae'n bwysig iawn mewn gwirionedd, oherwydd mae'n rhaid i'r modd y cyllidebwn ac y gwariwn ein harian ein hunain—oherwydd soniais yn y datganiad am y Comisiwn, y Comisiwn yw'r Cynulliad, wrth gwrs—felly rhaid i'r modd y gwariwn ac y cyllidebwn ein harian ein...
Mr Simon Thomas: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ers rhai misoedd bellach mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cynnal gwaith i mewn i berthynas a defnydd Comisiwn y Cynulliad o'r tanwariant sy'n deillio o benderfyniad y bwrdd taliadau. Rydym ni wedi cyhoeddi adroddiad, ond mae'r sefyllfa hefyd wedi newid yn ystod yr wythnosau diwethaf. Felly, roeddwn yn gobeithio y byddai datganiad a chwestiynau yn ffordd well o...
Mr Simon Thomas: Rydw i'n meddwl bod hynny'n ateb i'r cwestiwn blaenorol. [Chwerthin.] Mae'n bosib iawn nawr, yn rhinwedd beth mae'r Llywydd newydd ei ddweud, bydd hi ddim yn gallu ateb y cwestiwn yma, ond eto bydd hi'n gallu cyflwyno'r neges i'r ochr Comisiwn, beth bynnag, ar y bwrdd. Roeddwn i'n sylwi, yn ddiweddar iawn, fod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi ysgrifennu at bob cronfa pensiwn sector...
Mr Simon Thomas: Rwy'n diolch i'r Llywydd am yr ateb yna. Bydd hi'n ymwybodol, wrth gwrs, ei bod wedi bod yn arfer i Aelodau Cynulliad i ddefnyddio'r gallu yma i ymgysylltu ac i gwrdd â chyd-seneddwyr, nid yn unig ym Mrwsel, ond mewn gwledydd sydd yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, ac ychydig o hyblygrwydd o dan gynllun y Gymanwlad hefyd i ymweld â gwledydd mwy pell, er nad yw Malta mor bell â hynny na...
Mr Simon Thomas: Credaf y bydd hyn yn parhau am beth amser, a byddwn yn gweld realiti'r cytundeb wrth i bethau eraill ddod i'r amlwg. Un o'r pethau a fydd yn dod i'r amlwg heddiw yn San Steffan, wrth gwrs, yw'r bleidlais derfynol, yn fy marn i, i gynnal sofraniaeth seneddol ac i sicrhau mai'r Senedd, nid y Llywodraeth, sydd â'r gair olaf ystyrlon ar y cytundeb Brexit sy'n cael ei negodi a'i...
Mr Simon Thomas: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Credaf mai'r drafferth yw y gallaf weld hyn fel rhan o batrwm o ymddygiad gan nifer o Weinidogion Ceidwadol bellach, sydd, yn anffodus, yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwyluso yn hytrach na'i atal—drwy amryfusedd, efallai. Rhoddaf enghraifft arall ichi o'r hyn sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. Fel y...
Mr Simon Thomas: Diolch yn fawr, Llywydd. Fel rwyf newydd ei glywed yn ystod y sesiwn yma, mae'r cronfeydd strwythurol wedi bod yn bwysig iawn i Gymru ac i economi Cymru, ac fel rhan o baratoi tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi dechrau ar ymchwiliad i'r cronfeydd strwythurol, er enghraifft, beth ddaw yn eu lle nhw: cronfa cyfoeth ar y cyd, Horizon 2020, sydd newydd gael ei grybwyll....
Mr Simon Thomas: 2. Pa gefnogaeth y bydd y Comisiwn yn ei ddarparu i Aelodau'r Cynulliad i gynnal rhwydweithiau rhyngwladol os bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ52371
Mr Simon Thomas: Pa gyllid ychwanegol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi i'r portffolio ynni, cynllunio a materion gwledig i gefnogi datgarboneiddio'r sector cyhoeddus?
Mr Simon Thomas: Pa drafodaethau y mae Arweinydd y Tŷ wedi'u cynnal ynglŷn â sicrhau mwy o gefnogaeth i ddioddefwyr stelcio?
Mr Simon Thomas: Nid wyf i'n siŵr a wyf yn cytuno yn llwyr. Arhoswn i weld beth fydd yn digwydd yfory gyda'r fersiwn bellach o'r broses hon. Fodd bynnag, yr hyn yr oeddwn yn cyfeirio ato oedd y syniad y gall y Prif Weinidog ddweud rhywbeth mor radical â hynny mewn gwirionedd heb unrhyw ganlyniadau. Rwy'n ymddiddori'n fawr yn hyn oherwydd rwy'n gweld pethau o safbwynt San Steffan a Chymru yn y mathau hyn o...