Adam Price: Os gwnaiff y Prif Weinidog ganiatáu imi ddatgelu pam nad yw iechyd wedi’i gynnwys yn y cytundeb cydweithio, rwy’n fwy na pharod i gofnodion y trafodaethau hynny gael eu cyhoeddi.
Adam Price: Ond y pwynt yw, Prif Weinidog, nad oes rhaid i'r asiantaeth honno fod yn y sector preifat, nac oes, gallai fod yn y sector cyhoeddus. Nawr, a gaf i droi at fater arall y cyfeiriwyd ato eisoes, sef feto Llywodraeth y DU ar Fil diwygio cydnabod rhywedd yn yr Alban? A ydych chi'n cytuno â mi bod hyn yn creu cynsail peryglus iawn, nid yn unig o ran dyheadau eich Llywodraeth chi, yr ydym ni'n eu...
Adam Price: Byddwn yn ei annog i edrych ar y posibilrwydd hwnnw ar gyfer y flwyddyn ariannol hon hefyd. Un o'r materion eraill y gwnaethoch chi eu rhoi ar y bwrdd, a oedd i'w groesawu, oedd swyddogaeth staff asiantaeth. Nawr, gwelsom y ffigurau gan Goleg Brenhinol y Meddygon sy'n dangos mai £260 miliwn oedd cyfanswm y bil yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. A ydych chi'n derbyn rhesymeg yr undebau y...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Gyda'r newyddion am streic yr athrawon ar 1 Chwefror a methiant y trafodaethau gyda'r undebau iechyd yr wythnos diwethaf, mae streiciau'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn lledu ac yn dyfnhau. Beth yw strategaeth y Llywodraeth, Prif Weinidog, i atal y gaeaf hwn o anfodlonrwydd rhag parhau i'r gwanwyn ac i'r haf? Ai eich polisi yw eich bod chi'n mynd i gynnig y taliad untro y...
Adam Price: A gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i'n diweddaru ni ynglŷn â ffordd osgoi arfaethedig a hir-ddisgwyliedig Llandeilo? Mi oedd y dudalen sydd yn crynhoi statws y prosiect ar wefan y Llywodraeth yn addo y byddai'r Llywodraeth yn argymell opsiwn a ffafrir o blith y pedwar opsiwn oedd yn weddill fel rhan rhan o ymgynghoriad WelTAG cam 2 erbyn gaeaf y llynedd....
Adam Price: Ond mae'r broses adolygu cyflogau wedi arwain at doriad degawd o hyd, mewn termau real yng nghyflogau staff ein GIG. Felly, mae'r system wedi torri, ac nid wyf yn ymddiheuro am ddal y Llywodraeth i gyfrif a gofyn iddi ddatgan beth yw eich egwyddorion democrataidd eang. A ni yma yw llais staff y GIG. Rydym ni wedi bod ar y llinellau piced yn siarad â nhw. Rydym ni'n gwneud y pwyntiau maen nhw...
Adam Price: Ond mae'r defnydd cynyddol o dreth incwm er mwyn amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rhag cyni Torïaidd yn safbwynt sosialaidd hirsefydlog yr ydym yn ei arddel yn y blaid hon, ac mae'n rhywbeth yr oeddech chi'n arfer credu ynddo hefyd. Fe wnaethoch gydnabod, yn eich sylwadau ddoe, y cwymp mewn ymddiriedaeth ym mhroses y corff adolygu cyflogau. Sut ydych chi'n bwriadu ailadeiladu'r ymddiriedaeth...
Adam Price: Diolch, Llywydd. O ran cyflog y GIG, Prif Weinidog, rydym wedi amcangyfrif, yn seiliedig ar ffigurau yr ydych chi wedi'u rhannu â ni, y gallech fforddio o leiaf 3 y cant o ddyfarniad cyflog ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon. Nawr, rwy'n deall bod y Gweinidog iechyd wedi dweud nad yw'n cydnabod y ffigurau hynny, felly a allwn ni gymryd yn ganiataol y bydd y dyfarniad cyflog yr ydych chi'n...
Adam Price: Dwi wedi clywed llu o achosion tebyg i rai Mabon ap Gwynfor yn fy ardal i: un etholwraig arhosodd dros 17 awr tu allan i'r adran frys mewn ambiwlans gyda symptomau o strôc; etholwr arall, anabl, a fu'n aros am 12 awr tu allan i'r adran frys am wely, oherwydd iddo gwympo; a hyd yn oed un dyn yn teithio nôl ac ymlaen i'r adran frys ac argyfwng i roi blancedi a bwyd i'w fam oedrannus oherwydd...
Adam Price: 8. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfer pobl sy'n byw yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ58876
Adam Price: O ran y sefyllfa sy'n ein hwynebu, wrth gwrs, mae llawer o'r pwysau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu hefyd yr un pwysau y mae llywodraeth leol eu hunain yn mynd i'w hwynebu, fel y cyfeiriwyd ato eisoes. A byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, pe baem yn cael rhyw synnwyr oddi wrth y Llywodraeth o ran yr hyn yr ydych chi'n ei gredu nawr—. Yn amlwg fe welwn ni fanylion setliad llywodraeth...
Adam Price: Go brin fod swyddi anoddach ar hyn o bryd mewn gwleidyddiaeth na bod yn Weinidog cyllid, mewn unrhyw Lywodraeth yn y byd, felly rwy'n credu bod Rebecca Evans yn haeddu'n dealltwriaeth ni yn hynny o beth. Gan ei bod hi, fel pob Gweinidog cyllid, yn wynebu heriau cymhleth, anodd, cyfnewidiadau sydd wir wrth wraidd unrhyw broses o osod cyllideb, wedi ei gwneud yn anoddach wrth gwrs ar hyn o bryd...
Adam Price: Rwy'n credu ei bod hi'n syfrdanol eich bod chi'n ymosod ar y Torïaid yn San Steffan pan ydych chi'n gwneud yn union yr un fath yng Nghymru trwy wrthod siarad am gyflogau gyda'r undebau. Rwy'n anghytuno'n athronyddol gyda'r Prif Weinidog: nid wyf i'n gweld bod buddsoddi mewn gwell cyflog ac amodau i'r gweithlu mewn gwirionedd yn dargyfeirio arian allan o'r GIG; mae'n fuddsoddiad yn nyfodol...
Adam Price: Dydyn nhw ddim wedi cymryd £400 miliwn allan o'r GIG, maen nhw wedi ei fuddsoddi yng ngweithlu'r GIG ac wedi cydnabod, heb gynnal ysbryd y gweithlu hwnnw mewn gwirionedd, yna ni fyddai GIG, oherwydd, mewn gwirionedd, pwy sydd yno i'w ddarparu? Nawr, mae Rishi Sunak wedi dweud y byddai codiad cyflog yn unol â chwyddiant i holl weithwyr y sector cyhoeddus yn costio £28 biliwn; mae'r...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Dros y dyddiau diwethaf, mae Ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid Lafur yn San Steffan, Wes Streeting, wedi cyfeirio at gynnig y Coleg Nyrsio Brenhinol ac Unsain i ohirio streiciau, pe bai Ysgrifennydd iechyd y DU yn barod i drafod cyflogau. Mae hwnnw'n gynnig sy'n rhy dda i'w wrthod, ond dyna mae'r Torïaid yn ei wneud yn San Steffan, a dyna'r ydych chi'n ei wneud yng Nghymru....
Adam Price: A gaf i droi at—[Torri ar draws.] Ie, rwy'n gwybod. A gaf i droi at faterion cyfansoddiadol? Roedd maniffesto'r Blaid Lafur yn 2017 yn cynnwys ymrwymiad i ddatganoli plismona i Gymru. Fe wnaeth comisiwn Silk, a sefydlwyd gan weinyddiaeth dan arweiniad y Ceidwadwyr, ei argymell yn 2014. Fe wnaeth comisiwn Thomas eich Llywodraeth eich hun argymell datganoli plismona a chyfiawnder yn eu...
Adam Price: Dwi yn siomedig, mae'n rhaid i mi ddweud, gyda'r ymateb cychwynnol rydyn ni wedi'i gael gan y Prif Weinidog y prynhawn yma, oherwydd rwy'n credu mi oedd yna gydnabyddiaeth wrth i'r ffigurau gael eu cyhoeddi 10 mlynedd yn ôl ein bod ni mewn sefyllfa o argyfwng, a bod rhaid gweithredu. Hwnna oedd wedi arwain wedyn at y drafodaeth drawsbleidiol tu ôl i'r nod o filiwn o siaradwyr. Felly, mi...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Mi fyddwch chi wedi gweld ffigurau'r cyfrifiad sydd yn dangos cwymp pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a'r cwymp sylweddol sydd wedi bod yng ngharfanau'r bobl ifanc rhwng tair a 15 oed sy'n medru'r iaith. Mae hyn yn dangos, onid yw hi, fod elfen ganolog o bolisi Llywodraeth Cymru, sef datblygu addysg Gymraeg ar draws Cymru, yn methu. Deng mlynedd yn ôl, fe...
Adam Price: Felly, rydych chi wedi newid eich barn ers yr haf, pan ddywedoch chi: 'Enillodd yr SNP...etholiad ar y sail y bydden nhw'n ceisio refferendwm arall. Sut gellir gwarafun hynny i bobl yr Alban?' A gofynnwyd yn uniongyrchol i Anna McMorrin a oedd hi'n barod i ymrwymo i ddatganoli cyfiawnder, ac nid oedd hi'n fodlon rhoi'r ymrwymiad hwnnw. Nawr, a gaf i droi at y canlyniadau i Gymru yn sgil y...
Adam Price: Yn y sgwrs a gawsoch gyda Syr Keir Starmer, a wnaeth ef ailadrodd y sylwadau a wnaeth mewn cyfweliad yn gynharach y mis hwn, a gadarnhawyd gan ei lefarydd swyddogol yn dilyn y dyfarniad yr wythnos diwethaf, na fyddai'n cytuno i refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn dilyn yr etholiad cyffredinol nesaf? Onid gwarafun democratiaeth yw hynny? Ac ar y thema honno, beth ydych chi, Prif Weinidog,...