Huw Irranca-Davies: Rwy'n croesawu'r ddadl y prynhawn yma. Ni fydd o unrhyw syndod fy mod i, fel Cadeirydd pwyllgor sydd â materion cyfansoddiadol yn rhan greiddiol o'i gylch gwaith, yn cyfrannu heddiw. Fel pwyllgor, nid ydym wedi ystyried yr adroddiad yn fanwl, ond rydym wedi ei drafod yn fyr yr wythnos diwethaf cyn y datganiad heddiw. Fy ffocws y prynhawn yma fydd tynnu sylw at faterion o fewn yr adroddiad...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n nodi casgliad y comisiwn bod, 'problemau mawr gyda’r ffordd mae Cymru yn cael ei llywodraethu ar hyn o bryd', a'i fod wedi nodi 10 elfen sy'n creu pwysau uniongyrchol ar y setliad presennol. Nawr, mae'n ddiddorol bod y rhain yn ymwneud yn bennaf â'r 'berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru'— barn sy'n wir yn cyd-fynd â rhai o'n sylwadau ni fel pwyllgor yn ystod ein...
Huw Irranca-Davies: Brynle Williams, mae'n ddrwg gennyf.
Huw Irranca-Davies: Bydd y Cwnsler Cyffredinol, fel finnau, wedi bod mewn sawl protest o wahanol fathau dros y blynyddoedd. Ac mewn gwirionedd, dros y degawdau, ac yn wir dros genedlaethau a chanrifoedd yng Nghymru, gwelwyd traddodiad brwd o brotestio cyhoeddus, ac mae'n iawn mai felly y bu. O'r protestwyr cynharaf yng Nghomin Greenham a ddaeth o Gymru, gan gynnwys fy niweddar gyfaill a'm beirniad dibynadwy,...
Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw ac yn wir mae cynnydd wedi bod, gan weithio gyda phartneriaid yn y proffesiwn cyfreithiol, gyda'r Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEx), gyda cholegau a darparwyr addysg bellach dros y blynyddoedd diwethaf i gyrraedd y pwynt lle mae gennym gymhwyster cyfnod sylfaen lefel 3 yn awr a chymhwyster uwch lefel 5 o'r cymhwyster...
Huw Irranca-Davies: 2. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith yr ardoll prentisiaethau ar hyfforddiant cyfreithiol yng Nghymru? OQ59002
Huw Irranca-Davies: 5. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Bil Trefn Gyhoeddus Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ59004
Huw Irranca-Davies: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar effaith y gyllideb ddrafft ar gyfiawnder cymdeithasol?
Huw Irranca-Davies: Diolch eto, Llywydd. Fe wnaethon ni drafod hefyd y rheoliadau hyn ar 16 Ionawr, ac mae ein hadroddiad wedi'i gynnwys ar agenda'r prynhawn yma i lywio'r ddadl hon.
Huw Irranca-Davies: Mae ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys dau bwynt rhinweddau. Fe ddechreuaf gyda'r ail, a nododd na fu unrhyw ymgynghoriad ar y rheoliadau. Yn benodol, nodwyd paragraff yn y memorandwm esboniadol sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau sy'n nodi, gan fod caniatâd dros dro i aros yn gynnyrch polisi Llywodraeth y DU a gedwir yn ôl—sef mewnfudo—nid oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried yn...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe wnaethon ni drafod y rheoliadau hyn ar 16 Ionawr ac mae ein hadroddiad wedi cael ei osod er gwybodaeth i'r Aelodau yn y ddadl y prynhawn yma.
Huw Irranca-Davies: Mae ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys tri phwynt rhinwedd, a diolch yn fawr i'r Gweinidog am ddarparu ymateb amserol. Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar ein trydydd pwynt rhinwedd, ac rwy'n mynd i'w nodi fel darn bach ond pwysig iawn o gynnydd o ran y Gymraeg ac mewn gwirionedd o ran cael deddfwriaeth a rheoliadau Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Oherwydd nododd bod Llywodraeth Cymru...
Huw Irranca-Davies: Mae'n dda gweld bod cyd-Aelodau eisoes heddiw wedi bod yn codi mater effaith ymyl y dibyn ddiwedd mis Mawrth o ostyngiad y gefnogaeth i brisiau ynni ar fusnesau. Mae Vikki a Jayne Bryant wedi codi hyn. Rwy'n credu eu bod nhw'n iawn i godi effaith hyn ar bethau fel siopau manwerthu, tafarndai a chlybiau lleol, ac yn y blaen—mae hynny'n hollol iawn. Ond byddwn i'n croesawu datganiad,...
Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, diolch am yr ateb hwnnw. Os bydd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) yn mynd yn ei flaen fel y mae ar hyn o bryd, ac yn ôl yr amserlen fympwyol sydd wedi'i gosod gan Lywodraeth y DU, yna erbyn mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf, byddwn ni'n gweld miloedd ar filoedd o reoliadau sy'n cynnwys diogeliadau amgylcheddol a chyflogaeth hanfodol a llawer mwy, y mae llawer...
Huw Irranca-Davies: 6. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o effaith rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ59005
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Janet, am roi munud i mi gyfrannu mewn dadl ddiddorol iawn. Mae yna un neu ddau o gynigion cam cynnar yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer prosiectau hydrogen mewn gwirionedd, prosiectau hydrogen gwyrdd. Ac yn wir, mae'n ddigon posibl y bydd gan hydrogen ran i'w chwarae wrth bontio i economi wyrddach. Ond rwyf eisiau gwneud dau bwynt. Y cyntaf yw bod yn rhaid inni sicrhau...
Huw Irranca-Davies: Llywydd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Bil fel y cyntaf o'i fath ar gyfer y Senedd ac ar gyfer cyfraith Cymru, yn bennaf oherwydd yr effaith ymarferol y bydd yn ei chael o ran sicrhau bod cyfraith Cymru ar gael yn y ddwy iaith swyddogol, gwella hygyrchedd i'r gyfraith sy'n gymwys yng Nghymru, a chyfrannu i fynediad gwell at gyfiawnder yng Nghymru.
Huw Irranca-Davies: Mae'r Bil yn nodi dechrau cynlluniau uchelgeisiol y Llywodraeth Cymru hon i gydgrynhoi cyfraith Cymru, ac mae'n wir yn ymdrech y dylid ei chroesawu gan y Senedd hon. Diolch yn fawr iawn.
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Helo, eto. [Chwerthin.] Neil Diamond, rwy'n credu—'Hello Again'.
Huw Irranca-Davies: Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon wrth i ni, y Senedd, gynnal ein hystyriaeth gyntaf o Fil cydgrynhoi Cymreig, a gynigir gan Lywodraeth Cymru, ar gyfraith amgylchedd hanesyddol Cymru.