Mark Reckless: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu Trafnidiaeth Cymru gan ei bod bellach wedi cymryd rheolaeth dros fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau? OQ56015
Mark Reckless: 6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith cronfa ffyniant gyffredin y DU ar y setliad datganoli? OQ55988
Mark Reckless: 7. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch effaith proses Brexit ar pa mor gyflym y caiff brechlynnau COVID-19 gymeradwyaethau rheoleiddiol? OQ56016
Mark Reckless: Hoffwn weld adeiladau ffordd liniaru'r M4 fel yr addawyd, ond canolbwyntiaf yn fy sylwadau ar yr adroddiad. Mae gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gyfrifoldebau gwahanol yma drwy'r gyfraith, ond tybed a yw'n ddull gwell i gael tîm prosiect ar y cyd, lle mae'r ddwy ochr yn ariannu hynny ac yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu ateb y cytunwyd arno, fel gyda Crossrail, lle gwelsom yr Adran...
Mark Reckless: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal ynghylch cytundeb ar y berthynas rhwng yr UE a'r DU yn y dyfodol?
Mark Reckless: A oes perygl y gallai rhai o'n mesurau—tafarndai nad ydynt yn cael gweini alcohol—ac yn arbennig, gorfodi ffin i atal pobl o Loegr rhag dod i Gymru, hyd yn oed ar adegau pan oedd gennym lefelau uwch o achosion o bosibl, gael effaith dros flynyddoedd i ddod ar bobl a allai fod yn llai parod neu â llai o ddiddordeb mewn ymweld â Chymru yng ngoleuni hynny? A beth y gallwn ei wneud i geisio...
Mark Reckless: Mae'n dda clywed am ddechrau cynnar y Gweinidog heddiw. A gaf fi nodi wrtho fod nifer o fy etholwyr wedi bod mewn cysylltiad i ddweud pa mor falch ydynt fod y pedair Llywodraeth ledled y DU wedi rhannu’r un dull o fynd ati ar gyfer cyfnod y Nadolig mewn perthynas â’r cyfyngiadau COVID, a’u bod yn meddwl tybed pam na ellir cael ymateb o'r fath ar sail y DU gyfan yn fwy cyffredinol?
Mark Reckless: 4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd trafodaethau rhynglywodraethol ynghylch yr ymateb i COVID-19? OQ55979
Mark Reckless: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ynghylch rheoliadau COVID-19? OQ55978
Mark Reckless: A brawddeg gyntaf fy nghyfraniad yw, byddai'n well gennyf weld y Prif Weinidog yma yn y cnawd. Dyna fy marn i fy hun—[Torri ar draws.] Rwy'n derbyn yn llwyr—[Torri ar draws.] Mae gennyf i fy marn fy hun.
Mark Reckless: Iawn. Nawr, Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud, 'Os gallwn ni wneud hyn, fe allwn ni gyrraedd y Nadolig', ond dyna a ddywedoch chi am y cyfnod atal byr, ac ni weithiodd, oni wnaeth? A bu ychydig gormod o hunan-glod am y cyfnod atal byr hwnnw: gwnewch hynny, achub y blaen ar y sefyllfa, gan gymharu Cymru â Lloegr ynghylch gweithredu hynny, ond nid yw'n edrych fel hynny'n awr, onid yw?...
Mark Reckless: Prif Weinidog, daethoch i'r Siambr ar gyfer cwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach. Mae'n ddrwg gen i nad yw'n gyfleus i chi fod yn bresennol nawr. [Torri ar draws.]
Mark Reckless: Yn gyntaf, a gaf i ddweud diolch yn fawr iawn i Syr Wyn Williams fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru am ei adroddiad blynyddol ond hefyd am bopeth y mae ef a'i farnwyr wedi eu gwneud? Mae'r heriau wedi bod yn fwy oherwydd y coronafeirws, ond hyd yn oed mewn adegau arferol, anaml iawn y mae'r gwaith beunyddiol yn waith hyfryd, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn diolch ar goedd am yr hyn a...
Mark Reckless: Wrth edrych drwy'r fframwaith hwn, rwy'n mwynhau ansawdd y ddogfen a rhai o'r mapiau; mae'n eithaf diddorol i'w ddarllen. Ond fe wnaeth ambell beth fy nharo. Un peth yr hoffwn ei ddyfynnu. Mae'n dweud: 'Dylid gwneud penderfyniadau clir ynghylch maint a lleoliad twf drwy lunio Cynllun Datblygu Strategol'. Mae'n ddatganiad gwladoliaethol iawn. Mae'n tybio mai'r hyn a wnawn, drwy'r cynllun hwn,...
Mark Reckless: Mae tair rhan i'r cynnig hwn. Mae'r gyntaf yn nodi'r fframwaith datblygu cenedlaethol a osodwyd ar 21 Medi 2020. Mae'r ail yn nodi bod adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn rhoi cyfnod o 60 diwrnod i'r Senedd ei ystyried. Felly, mae heddiw'n 25 Tachwedd, mae'n debyg ein bod y tu allan i'r cyfnod statudol hwnnw, neu fod hynny'n dweud nad ydym yn nodi, neu, os nad ydym wedi deall y...
Mark Reckless: Felly, mae Llywodraeth Cymru bellach, yn uniongyrchol, neu o leiaf drwy Trafnidiaeth Cymru, sy’n eiddo 100 y cant i Lywodraeth Cymru, yn talu arian eithaf sylweddol i sybsideiddio gwasanaethau yn Lloegr, gan gynnwys gorsafoedd nad oes mwy na llond llaw o deithwyr yn eu defnyddio o bosibl. Yn ogystal, Trafnidiaeth Cymru yw perchennog cyfleuster yr orsaf mewn gorsafoedd eithaf mawr yn Lloegr,...
Mark Reckless: 5. Pa ddyraniadau cyllidebol ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu darparu i gefnogi Trafnidiaeth Cymru gan ei bod bellach wedi cymryd rheolaeth dros fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau? OQ55928
Mark Reckless: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y gallai myfyrwyr fod wedi syrthio ar ei hôl hi yn ystod cyfyngiadau symud sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws?
Mark Reckless: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru yn sgil y pandemig COVID-19?
Mark Reckless: Gwnaeth Alun Davies rai pwyntiau synhwyrol am ddiogelwch yr etholiad, ond yna aeth i'r agweddau ehangach ar gynllwynio ynghylch data ac arian tywyll ac etholiadau nad ydyn nhw o dan reolaeth. Oni bai ei fod yn adnabod unigolion y Centre for Welsh Studies a beth yn union y maen nhw'n ei wneud gyda'r data, yna 'mae grymoedd tywyll yn peryglu ein democratiaeth'—nid dyna fy marn i. A dweud y...