Jane Dodds: Mae GIG Cymru'n wynebu pwysau 'na ellir ymdopi ag ef', ac nid fi sy'n dweud hynny; Conffederasiwn GIG Cymru sy'n ei ddweud. Ac fe fyddaf yn onest, nid yw'n wahanol yn Lloegr, felly ni allwn dderbyn unrhyw wersi gan y Ceidwadwyr. Mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd yma i gydnabod y gallwn ni, fel gwlad fach o ddim ond 3 miliwn o bobl, wneud rhywbeth yn wahanol mewn gwirionedd. Gallwn...
Jane Dodds: Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Hoffwn fynd ar drywydd y sefyllfa yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, a gynrychiolir gennyf fi ac eraill, a thynnodd y prif swyddog tân yno sylw at ansefydlogrwydd ein gwasanaethau tân mewn ardaloedd gwledig os yw pethau'n parhau fel y maent. Ac rwy'n siŵr y byddem i gyd yn pryderu am hynny. Mae'r rhan fwyaf o staff y gwasanaeth yn y canolbarth a'r gorllewin...
Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn am y datganiad, Gweinidog. Rwy'n credu fy mod yn ymuno â'r gefnogaeth drawsbleidiol i'r cyhoeddiadau rydych chi wedi'u gwneud heddiw. Dim ond dau bwynt byr gen i, os caf i. Mae'n ymddangos yn bwysig iawn bod hyn yn ataliol ac yn adweithiol fel bod gennym yr opsiwn o ddarparu cymorth i bobl cyn, ac, yn wir, gobeithio osgoi, unrhyw dderbyniadau i'r ysbyty. Rwy'n siŵr mai...
Jane Dodds: Mae hi mor anodd, onid yw hi, siarad am hyn, ac, eto, mae hi'n gwbl hanfodol. Mae hi mor bwysig ein bod ni'n dwyn y digwyddiadau hyn i gof, y digwyddiadau erchyll hyn, a ddylai dreiddio drwy ein bywydau ni, ac ni ddylem fyth â'u hanghofio. Un peth na wnaf i fyth mo'i anghofio yw sefyll yn Kigali yn Rwanda, ar y safle lle claddwyd 125,000 o bobl. Mae hi'n anodd dychmygu bod pobl gyffredin...
Jane Dodds: Prynhawn da, Gweinidog. Rwy'n mynd i barhau â'r thema ambiwlansys ac amseroedd aros. Roedd adroddiad yn ein papur lleol, y County Times, bod cleifion o Gymru sy'n cyrraedd ysbytai Lloegr, o gofio bod y rhan fwyaf o'r cleifion ar y ffin â Lloegr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn defnyddio'r ysbytai hynny, o bosibl yn aros yn hirach oherwydd eu bod yn dod o Bowys. O ystyried bod gan yr...
Jane Dodds: Diolch am yr ateb.
Jane Dodds: Mae'n 13:30. Os yw rhywun yn ffonio 999 nawr oherwydd bod ganddo boenau yn ei frest, pryd fyddech chi'n disgwyl i ambiwlans gyrraedd? Rwy'n siŵr y gwnewch chi adnabod y cwestiwn hwnnw gan arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, Keir Starmer, i Brif Weinidog y DU. Gwrthododd y Prif Weinidog ateb yn blaen, felly rwy'n gobeithio y gallwn ni gael ateb plaen gennych chi y prynhawn yma. Ond, o...
Jane Dodds: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys? OQ59013
Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn am yr ateb.
Jane Dodds: Un agwedd ar ofal sylfaenol yr wyf i'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn gwybod fy mod i'n poeni'n fawr amdani yw dannedd, ac yn enwedig dannedd ein plant ledled Cymru. Rwy'n deall nad oes gennym ni ddata am faint o blant sy'n aros am ddeintydd y GIG mewn gwirionedd. Yr unig fyrddau iechyd yr ydyn ni wedi gallu cael data ganddyn nhw, ar ôl gofyn iddyn nhw'n benodol, oedd Powys a Chaerdydd....
Jane Dodds: 6. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal sylfaenol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58976
Jane Dodds: Ar draws y Siambr, rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud ein bod yn parchu gwasanaeth ambiwlans Cymru. Mae'n achub bywydau, ac rwy'n glir iawn y byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn heno. Mae canolfannau ambiwlans awyr y Trallwng a Chaernarfon yn darparu rhaff achub yng nghanolbarth a gogledd Cymru ar ffurf cymorth meddygol a chludiant brys. Fe wyddom fod gofal iechyd gwledig yn heriol. Ond mae angen...
Jane Dodds: Diolch i'r Ceidwadwyr ac i Russell George am osod y mater yma.
Jane Dodds: Rwy’n sefyll yma gyda fy helmed dun am fy mhen, gan fod gennyf ymagwedd radical iawn, sef nad wyf o'r farn y dylem roi cymorth i Faes Awyr Caerdydd i aros ar agor o gwbl. Yn ôl yn 2013, arweiniodd y Democratiaid Rhyddfrydol alwadau i atal Llywodraeth Cymru rhag prynu'r maes awyr gan y sector preifat. Ymddengys bod y maes awyr yn bwll diwaelod i arian trethdalwyr—arian parod a allai fynd...
Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Dwi eisiau canolbwyntio, os yw hynny'n iawn, ar y WESPs—rydych chi wedi sôn am y WESPs mewn cwestiwn arall—yn enwedig ar y rhan o'r WESPs sy'n sôn am ysgolion uwchradd a sut mae ysgolion cynradd mewn llefydd gwledig yn gallu sicrhau bod gan yr ysgolion uwchradd y rhifau o'r disgyblion i fynd i mewn i'r ysgolion uwchradd. Mae yna gydbwysedd yma, dwi'n...
Jane Dodds: 3. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r iaith Gymraeg mewn ysgolion a chymunedau gwledig? OQ58914
Jane Dodds: A wnaiff y Gweinidog ddarparu ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi feto ar unrhyw byllau glo newydd yng Nghymru?
Jane Dodds: Rwy'n teimlo rheidrwydd i ddweud stori wrthych chi sy'n gadarnhaol. Rwy'n byw mewn ardal wledig iawn. Ar 17 Rhagfyr, bu'n rhaid i mi roi fynd at fenyw a oedd wedi syrthio a chael anaf difrifol i'w phen. Gwnaethon ni ffonio'r gwasanaeth ambiwlans. Cawson ni wybod y byddai'n rhaid aros am ddwy awr. Felly, dychmygwch ein syndod pan drodd un i fyny o fewn 15 munud. Mae'n rhaid siarad am y straeon...
Jane Dodds: Prynhawn da, Gweinidog. A hefyd
Jane Dodds: pen blwydd hapus i chi hefyd.