Alun Davies: Prif Weinidog, ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n cymryd tipyn o wyneb i Geidwadwr feirniadu'r gwasanaeth iechyd gwladol? Un o'r problemau yr ydym ni wedi'u gweld dros y degawd diwethaf yw sut mae cyni wedi rhwygo'r galon allan o'n gwasanaethau cyhoeddus. Fe rwygodd Brexit y galon allan o'n heconomi. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud i ddathlu 75 mlynedd ers i Aneurin Bevan sefydlu'r...
Alun Davies: Pa effaith ariannol y mae'r argyfwng costau byw wedi'i chael ar bobl oedrannus?
Alun Davies: O, dewch. Mae'n rhaid inni wybod pam na all y Llywodraeth gyflwyno busnes.
Alun Davies: Diolch yn fawr.
Alun Davies: Lywydd, fe wneuthum ofyn yn ystod y ddadl ar hynny—
Alun Davies: Dyna ni. Rydych chi wedi clywed y Prif Weinidog yn ateb y ddadl y prynhawn yma, ac roeddwn i'n teimlo ei fod wedi gwneud cynnig hael iawn ynglŷn â gweithio fel Senedd gyda'n gilydd ar y materion hyn. Oni fyddai'n fuddiol i'r Senedd hon bellach pe bai'r gwrthbleidiau'n trafod rhai o'r cynigion y mae'r Prif Weinidog wedi'u gwneud heddiw gydag ef, yn hytrach na gwthio'r mater hwn y prynhawn...
Alun Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Alun Davies: Rwy'n derbyn y pwynt a wnewch am gyni. Yn amlwg, fe fyddech chi a minnau'n cytuno ac yn gallu treulio gweddill y prynhawn yn cytuno arno. Ond mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau hefyd gyda'r materion hyn, a cyllidebau Llywodraeth Cymru yw'r cyllidebau rydym yn eu trafod yma heddiw, ac felly rwy'n credu ei bod yn bwysig fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei rôl ei hun wrth fynd i'r afael...
Alun Davies: —fod bechgyn a merched yn cael y cyfle i fod yn sêr y dyfodol. Diolch.
Alun Davies: Rwyf am ddechrau fy sylwadau lle gorffennodd Tom Giffard. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor ac ysgrifenyddiaeth y pwyllgor am yr holl waith a wnaethant ar gynhyrchu'r adroddiad hwn. Roedd yn un o'r ymchwiliadau pwyllgor dymunol hynny gan eich bod bob amser yn dysgu pethau ar bwyllgorau, ac mae gwrando ar brofiadau bywyd gwahanol bobl bob amser yn rhan bwysig o ddysgu am effaith, neu...
Alun Davies: Rwyf bob amser wedi sefyll—ac fe fyddwch chi, wrth gwrs, fel Ceidwadwr, yn gyfarwydd â gwaith Edmund Burke, tad Ceidwadaeth fodern. A'r hyn a ddywedodd yn glir iawn yn ei araith i etholwyr Bryste oedd y dylai Aelod etholedig fod yn ffyddlon i'r bobl a gynrychiolir ganddo, nid yn unig drwy ei waith ond hefyd drwy gyfleu'r hyn y mae'n ei gredu. A dyna rwyf fi wedi'i wneud, a byddaf yn parhau...
Alun Davies: Hoffwn ddechrau drwy gytuno'n gryf â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y pwynt am ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau. Rwy'n credu y bydd y niwed a wnaed gan Brexit yn drychineb nid yn unig i'n cenhedlaeth ni ond i genedlaethau'r dyfodol, a gobeithio y bydd pob plaid wleidyddol yn cydnabod hynny. Nid wyf yn disgwyl i'r Gweinidog roi ateb i mi ar y pwynt hwn, ond rwy'n gobeithio ei...
Alun Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Alun Davies: Fe wnaethoch chi dreulio'r cwestiynau cyllid yn pwysleisio pwysigrwydd y swm o arian sydd ar gael i lywodraeth leol. Nid wyf yn dadlau â hynny. Mae'n ymddangos eich bod bellach yn dadlau bod cyfanswm yr arian yn llai pwysig na materion eraill. Pwy yw'r Peter Fox go iawn?
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn hyn, Lywydd. Wrth roi ateb da a llawn iawn i fy nghwestiwn cynharach, cyfeiriodd y Gweinidog at Aelod arall, Cefin Campbell, mewn perthynas â chyflawni rôl weithredol o fewn y Llywodraeth. Rydym i gyd yn deall y cytundeb cydweithio, ac fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rwy'n llwyr gefnogi'r cytundeb cydweithio. Fodd bynnag, nid oes gan Aelodau yn y Siambr hon...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Er gwaethaf ymdrechion gorau'r Blaid Geidwadol y prynhawn yma, bydd unrhyw un sydd ag unrhyw ddealltwriaeth sylfaenol neu unrhyw ddealltwriaeth ariannol o gwbl yn deall y toriadau sy'n cael eu gwneud yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, eleni ac yn y dyfodol. Fodd bynnag, yr hyn a welwn yw gwasanaethau cyhoeddus sy'n wynebu toriadau flwyddyn ar...
Alun Davies: 7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith datganiad yr hydref Llywodraeth y DU ar waith byrddau gwasanaethau cyhoeddus? OQ58773
Alun Davies: Roeddwn i'n un o'r bobl lwcus a gefnogodd Norton's Coin ar 100:1 yng Nghwpan Aur Cheltenham 1990. Yn anffodus, nid oeddwn yn Cheltenham—roeddwn ym Mangor—ond mae'n deg dweud ein bod wedi cael noson dda iawn ar sail y bet 100:1 honno, ac fe helpodd fi i gwympo mewn cariad â'r gamp. Rwyf newydd archebu fy nhocyn ar gyfer rasys Tingle Creek yn Sandown ddechrau mis Rhagfyr, a byddaf yn mynd...
Alun Davies: Rwy'n cofio trafod hyn gyda Ieuan Wyn Jones ymhell cyn 2011, ac Angela Burns oedd yn arwain y gwaith ar hynny ar y pryd. Felly, mae hyn yn mynd yn ôl flynyddoedd lawer. Ond nid wyf yn ceisio bwrw bai yn y ffordd rydych yn ceisio'i ddisgrifio yma, oherwydd rwy'n credu bod methiant, methiant systemig, yn y system sy'n darparu band eang. Ac er y gallwn bwyntio bysedd ar ein gilydd yn y Siambr...
Alun Davies: Janet, Janet, Janet, peidiwch—