Paul Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol, a rhanddeiliaid yn wir, i nodi diffygion o ran sgiliau a chapasiti mewn ardaloedd lleol er mwyn bodloni gofynion newidiol y farchnad. Efallai eich bod yn ymwybodol fod EDF Renewables UK, DP Energy a Choleg Sir Benfro wedi cydweithio i ddarparu cwrs o'r enw Destination Renewables, sy'n...
Paul Davies: 6. Beth yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro am y 12 mis nesaf? OQ58334
Paul Davies: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Fel yr wyf wedi dweud droeon o'r blaen, rwy'n croesawu'n gyffredinol fwriad Llywodraeth Cymru i roi'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru, ac mae'r datganiad heddiw yn rhoi diweddariad defnyddiol i ni ynghylch rhywfaint o'r gwaith sydd wedi'i wneud yn y maes hwn. Bu rhywfaint o...
Paul Davies: Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon a siarad o blaid y ddeiseb i sicrhau bod ysbyty Llwynhelyg yn cadw ei adran damweiniau ac achosion brys. Nid y ddeiseb hon yw'r gyntaf i alw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg, a sicrhau nad ydynt yn cael eu symud ymhellach i ffwrdd. Ac eto, er i Weinidogion Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd lleol ddweud bod Llwynhelyg yn...
Paul Davies: Diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Weinidog, yn ddiweddar ymwelais â Chlwb Pêl-droed Hwlffordd gyda fy nghyd-Aelod, Laura Anne Jones, i ddysgu mwy am eu rhaglen cyn prentisiaeth, a ddarperir gan Cyflawni Mwy o Hyfforddiant. Mae'r rhaglen yn darparu cyfleoedd lleol i bobl ifanc yn sir Benfro sydd am gael gyrfa mewn addysg, chwaraeon neu hamdden, ac yn helpu i gau'r bwlch sgiliau yn y sectorau...
Paul Davies: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg alwedigaethol yn sir Benfro? OQ58214
Paul Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel y gwyddoch, ers mis Mawrth 2020, mae'r uned triniaethau dydd bediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg wedi'i symud i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin. Mae plant yn sir Benfro wedi gorfod teithio ymhellach am wasanaethau hanfodol er mwyn sicrhau bod gan Ysbyty Llwynhelyg ddigon o le ar gyfer ei ymateb COVID-19. Gan fod y pandemig yn llacio bellach, rwy'n siŵr y...
Paul Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar â Tom Sawyer, prif weithredwr newydd Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, a'i gadeirydd, Chris Martin, a buom yn trafod sut y mae'r porthladd yn arallgyfeirio ei refeniw ac yn tyfu ei bortffolio buddsoddiadau busnes mewn manwerthu, hamdden a thwristiaeth yn y rhanbarth, yn dilyn lansio Tŷ Hotels ar lannau Aberdaugleddau, ac rwy'n siŵr...
Paul Davies: Wel, wrth gwrs, rwy'n croesawu'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn digwyddiadau mawr, ond mae’n amlwg i mi fod angen strategaeth digwyddiadau mawr gadarn sy’n edrych tua’r dyfodol ar Lywodraeth Cymru. Mae dros ddwy flynedd ers i’r strategaeth ddiwethaf ddod i ben, ac er fy mod yn derbyn y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi strategaeth newydd fis nesaf, mae’n dal yn siomedig...
Paul Davies: Wel, oes, mae angen dysgu gwersi, Weinidog, ac mae angen eu dysgu yn gyflym iawn. Nawr, mae sawl digwyddiad mawr ar y gweill, gan gynnwys y digwyddiad WWE mawr ym mis Medi, y digwyddiad cyntaf o'i fath yn y DU ers 30 mlynedd, a fydd yn sicr yn denu ymwelwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Deallaf fod y digwyddiad hwn wedi cael cyllid gennych chi fel Llywodraeth Cymru. Nawr, mae'n iawn fod...
Paul Davies: Diolch, Lywydd. Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, daeth rhan o dde Cymru i stop, wrth i nifer o ddigwyddiadau mawr gael eu cynnal yng nghanol dinas Caerdydd. Nawr, roedd un adroddiad yn honni bod ciwiau 15 milltir o hyd ar yr M4 o bont Hafren i mewn i Gymru, a bu llawer o bobl yn lleisio eu rhwystredigaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n hanfodol fod gwersi'n cael eu dysgu a bod llawer...
Paul Davies: 7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yn sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OQ58161
Paul Davies: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ58162
Paul Davies: Dwi'n ddiolchgar ichi am yr ateb yna. Er mwyn darparu ynni gwynt ar y môr sy'n arnofio, ac er mwyn i Gymru wireddu'r manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sydd ar gael, mae angen diwygiadau cynllunio morol i gyflawni prosiectau cyn gynted ag sydd yn bosib. Yn wir, byddai prosesau symlach ar gyfer cynllunio morol yn helpu i sicrhau bod prosiectau fel Erebus gan Blue Gem Wind,...
Paul Davies: 8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector ynni alltraeth? OQ58160
Paul Davies: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru'r prynhawn yma? Yn gyntaf, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno datganiad ar wasanaethau offthalmoleg, yn dilyn cynnydd yn y sylwadau a gefais i oddi wrth bobl sy'n aros â thaer angen am driniaeth. Mae rhai o'r rhain yn dioddef o ddirywiad macwlaidd gwlyb ac, er nad oes...
Paul Davies: Rwyf wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon ei bod yn bwysig fod Llywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda'i gilydd, ond mae hyn yn ymwneud â datganoli go iawn, onid yw? Mae’n datganoli’r materion hyn i awdurdodau lleol, ac mae hynny’n hynod bwysig, gan y gall awdurdodau lleol flaenoriaethu’r prosiectau yn eu hardaloedd eu hunain. Dyna yw datganoli. Mae rhan olaf ein gwelliant yn...
Paul Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod y Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllid ôl-UE, ac fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae’n debyg y bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn edrych ar y mater hwn yn ddiweddarach eleni, ar ôl i’r Pwyllgor Cyllid gwblhau ei ymchwiliad. Wrth gwrs,...
Paul Davies: Mae'n bleser mawr gennyf siarad o blaid y ddeiseb arbennig hon. Nawr, trefnydd y ddeiseb hon yw Helen Reeves-Graham, sy'n un o fy etholwyr ac mae'n ymgyrchydd aruthrol dros wella gwasanaethau i bobl â syndrom Tourette yng Nghymru, ac rwy'n falch o gael pobl fel Helen yn byw yn fy etholaeth. Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, credir bod tua un o bob 100 o blant yng Nghymru yn byw...
Paul Davies: Weinidog, un o'r materion pwysicaf sy'n wynebu ffermwyr ym Mhreseli sir Benfro, wrth gwrs, yw TB mewn gwartheg. Fel y gwyddoch, mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar ar raglen Llywodraeth Cymru i ddileu TB mewn gwartheg. Un o bwyntiau allweddol yr adroddiad hwnnw yw'r angen i sicrhau bod ffermwyr, ac eraill yn wir sy'n ymwneud â dileu TB...