Joyce Watson: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Joyce Watson: Diolch yn fawr iawn. Fe wnaethoch chi sôn am £227 miliwn ar gyfer llywodraeth leol, ond wrth gwrs dyna i chi'r cynllun benthyciadau £31 biliwn gan y Llywodraeth a gafodd ei drosglwyddo'n ôl. Aethon nhw ddim ar drywydd hynny, fe daflon nhw ein harian i ffwrdd. Maen nhw'n hollol ddiofal gydag arian cyhoeddus. Ac mae hynny ar ben y sgandal cyfarpar diogelu personol gwerth £200 miliwn....
Joyce Watson: Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi busnesau bach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Joyce Watson: Nid wyf eisiau, ac nid wyf yn bwriadu ailadrodd unrhyw un o'r pwyntiau y mae fy nghyd-Aelodau eisoes wedi'u gwneud, ond ar y cam hwn, mae'n bwysig diolch i'r clercod, y Cadeirydd a'r tîm clercio am ein cynorthwyo yn ein gwaith. Rwy'n credu bod problem yma y tu hwnt i lywodraethu, ac mae'n broblem sy'n ymwneud â chapasiti. Mae adroddiad yr asesydd interim yn dangos bod y galw ar y gwasanaeth...
Joyce Watson: Unwaith eto, diolch, Jack, am eich diddordeb ym mhopeth sy'n ymwneud â chydraddoldeb. Fe ofynnoch chi ddau gwestiwn. A yw'n rhywbeth parhaol? Credaf ei fod yn barhaol. Ar gynnyrch cynaliadwy, fe welwch fod cymysgedd o nwyddau eisoes ar gael yn ein cyfleusterau. Y nod yw profi’r rheini, i weld y defnydd ac anelu tuag at gynaliadwyedd o 100 y cant gyda'n cynnyrch, sydd, wrth gwrs, yn unol...
Joyce Watson: Cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywedwch. Rwy'n siŵr fod y neges ynglŷn â diweddaru’r wefan i wneud yn siŵr wedi'i chlywed. Byddwn yn cael gwared â'r 39 o beiriannau gwerthu y cyfeiriwch atynt. Maent yn costio £110 y flwyddyn yr un, a'r cyfanswm yw £4,290 y flwyddyn. Roedd y bocsys o nwyddau'n costio £1 yr un, sydd, wrth gwrs, yn llawer uwch na'r hyn y byddech yn ei dalu mewn siop....
Joyce Watson: Diolch am eich cwestiwn. Mae Comisiwn y Senedd yn ymdrechu i fod yn esiampl dda yn y modd y mae'n cyflawni ei bolisïau a'i mesurau urddas a pharch. Mae’n bleser gennyf gadarnhau, yn sgil y gwaith rhagorol gan swyddogion undebau llafur, fod y Comisiwn wedi cytuno i ddarparu nwyddau mislif am ddim ar ystad y Senedd i unrhyw un sydd eu hangen, o 2 Rhagfyr ymlaen, i hyrwyddo urddas mislif...
Joyce Watson: Diolch, Weinidog. Flwyddyn i mewn i'r broses pum mlynedd, fel y dywedwch, mae cynnydd da wedi bod, yn fwyaf arbennig yr ymgynghoriad ar deledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai. Ond o ran blaenoriaethau, a gaf fi ofyn beth yw'r sefyllfa gyda'r defnydd o gewyll bridio ar gyfer adar hela? Rwy'n gwybod bod y cynllun yn cynnwys ymrwymiad i archwilio'r dystiolaeth ynghylch eu defnydd, ond...
Joyce Watson: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r cynllun lles anifeiliaid i Gymru? OQ58798
Joyce Watson: Roedd hynny'n gyfraniad dethol iawn.
Joyce Watson: Diolch, Lywydd. Mae'n Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, a hoffwn achub ar y cyfle i ddathlu'r gwaith gwych y mae ein colegau'n ei wneud, yn helpu i gynnau gyrfaoedd entrepreneuriaid newydd. Mae Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd yn ymwneud ag annog pobl, yn enwedig pobl ifanc, i ddechrau eu busnesau eu hunain a thynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gallant ei chael o ran arloesi a datblygu...
Joyce Watson: Diolch, Lywydd. Rwyf am godi pwynt o drefn am yr ymddygiad a welsom yn y Siambr hon ychydig funudau yn ôl—ymddygiad a achosodd i un o fy nghyd-Aelodau deimlo cymaint o fygythiad nes y bu'n rhaid iddi symud oddi wrth yr unigolyn hwnnw. A hefyd roedd yr un ymddygiad yn dangos amarch enfawr i chi fel Cadeirydd y sefydliad hwn, ac felly i'r sefydliad ei hun. Rwyf wedi bod yma ers dros 15...
Joyce Watson: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ar safonau'r heddlu yng Nghymru? Gwnaethom ni ddysgu'r wythnos ddiwethaf fod Heddlu Wiltshire yn arwain ymchwiliad i gasineb at fenywod, llygredd a hiliaeth honedig yn Heddlu Gwent. Daw hynny ar gefn adroddiad damniol corff gwarchod yr heddlu ar fethiannau yn y broses fetio a oedd yn caniatáu i droseddwyr ac ysglyfaethwyr rhywiol...
Joyce Watson: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, rwyf am ddatgan y ffaith bod aelod agos o’r teulu yn aelod o’r Coleg Nyrsio Brenhinol, cyn imi siarad ynglŷn â hyn. Gŵyr pob un ohonom fod nyrsys o dan bwysau aruthrol. Gŵyr pob un ohonom hefyd y bu nyrsys ar y rheng flaen ac yn hollbwysig yn ystod y pandemig, a bod eraill wedi mynd allan bob nos Iau i gymeradwyo eu hymdrechion i geisio ein...
Joyce Watson: Rwy'n credu bod y pwynt diwethaf a wnaethoch yn un hynod bwysig. Un peth yw gwneud addewid, peth arall yw ei olygu. Ond mae dwy ochr, wrth gwrs, i'r Rhuban Gwyn, ac un yw'r holl waith sy'n cael ei wneud o gwmpas y Rhuban Gwyn, ond mae'r Rhuban Gwyn yn ymwneud ag ymdrechion i leihau nifer yr achosion o drais yn erbyn menywod a phlant. Felly, ar un ochr, byddwn yn codi ymwybyddiaeth; ar yr ochr...
Joyce Watson: Yn y gorffennol, mae'r Comisiwn wedi cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn trwy gynnal digwyddiad blynyddol yn y Senedd a thrwy godi arian drwy werthu Rhubanau Gwyn yn siopau Tŷ Hywel a'r Senedd, fel y gwnaethoch chi eich hun, Jack, ofyn amdano wrth gwrs. Ers y pandemig, mae'r Comisiwn wedi bod yn ymwybodol o'r risg uwch o achosion o gam-drin domestig, pan oedd gweithio gartref yn norm, ac mae wedi...
Joyce Watson: Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Nid wyf yn gwybod a ydych wedi cael amser neu gyfle i ddarllen ac ystyried yr adroddiad newydd gan brifysgol Manceinion ar ragfarn hiliol yn y farnwriaeth. Canfu fod gwahaniaethu'n digwydd yn arbennig tuag at ddefnyddwyr du'r llys, o gyfreithwyr i dystion i ddibynyddion, ac mae'n cefnogi canfyddiad adroddiad Lammy yn 2017. Mae hiliaeth sefydliadol...
Joyce Watson: Fel y dywedwch, Weinidog, mae gwaith gwych yn mynd rhagddo yn yr ysgolion ar berthnasoedd parchus ac iach, ac mae hynny'n hynod o bwysig. Ond mae angen inni ledaenu’r neges yn ehangach nag ysgolion a mynd â hi y tu hwnt i giatiau’r ysgol i sefydliadau fel, er enghraifft, y Sgowtiaid a chadetiaid y fyddin, clybiau pêl-droed, a mannau eraill lle mae bechgyn yn dod at ei gilydd. Felly, a...
Joyce Watson: 11. Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau bod unigolion yn cael cyfleoedd cyfartal o fewn y system gyfiawnder yng Nghymru? OQ58639
Joyce Watson: Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am yr adroddiad a’r holl bobl sydd wedi cyfrannu ato. Hoffwn ddiolch yn arbennig i fudiad Everyone's Invited am daflu goleuni ar fynychder aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Roeddwn yn falch o ddarllen bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i fabwysiadu diffiniad Estyn o aflonyddu rhywiol, fel yr argymhellir yn yr adroddiad. Fel y mae'r adroddiad yn nodi, mae...