Canlyniadau 61–80 o 900 ar gyfer speaker:Angela Burns

10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Lluoedd Arfog (11 Tach 2020)

Angela Burns: Mae'r newyddion heddiw'n sôn am y rhyfeloedd newydd—Affganistan ac Irac—ac mae ein helusennau a'n Llywodraethau'n ceisio ailadeiladu'r bywydau ifanc presennol sydd wedi'u clwyfo, a chefnogi'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid mewn rhyfeloedd diweddar. Rwyf am sôn am gyn-filwyr y rhyfeloedd anghofiedig—pobl fel fy nhad, oherwydd mae'n cynrychioli hanfod y dynion a'r menywod cyffredin...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dealltwriaeth y Cyhoedd o Wleidyddiaeth (10 Tach 2020)

Angela Burns: Diolch am eich ateb i Delyth Jewell, Prif Weinidog, ond, wrth gwrs, dim ond rhan o'r ateb yw'r cyfryngau. Mae addysg yn chwarae rhan hanfodol, a chyda'r etholfraint yn cael ei hymestyn i gynnwys pobl ifanc 16 oed yn etholiad cyffredinol nesaf Cymru, mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn cael golwg wrthrychol, deg a chytbwys ar y rhan bwysig y mae gwleidyddiaeth yn ei chwarae ym mywydau pob un...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Blaenoriaethau ar gyfer Iechyd Meddwl ( 4 Tach 2020)

Angela Burns: Diolch i chi am hynny, ac yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud croeso i'r rôl? Rwy'n credu ei bod yn wych fod yna ffocws penodol ar iechyd meddwl, yn enwedig ar hyn o bryd. Roeddwn yn falch eich bod wedi sôn yn eich ateb am y gwaith rhynglywodraethol a thrawsadrannol oherwydd credaf fod cynnydd da wedi'i wneud gyda chymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr coleg a phrifysgolion, y darperir ar eu cyfer...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: COVID-19 mewn Ysbytai ( 4 Tach 2020)

Angela Burns: Weinidog, gwrandewais ar eich ateb i Vikki Howells gyda diddordeb. Byddwch yn gwybod fy mod wedi mynegi fy mhryderon ynghylch cywirdeb a dibynadwyedd casglu data ar dderbyniadau i ysbytai oherwydd COVID sawl gwaith yn barod eleni, gan ei bod yn hanfodol i'n dealltwriaeth o'r clefyd ein bod yn deall pwy sydd â COVID ac yna’n marw o COVID wedi hynny, a phwy, yn anffodus, sy’n marw pan nad...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Blaenoriaethau ar gyfer Iechyd Meddwl ( 4 Tach 2020)

Angela Burns: 3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag iechyd meddwl ar gyfer gweddill tymor presennol y Senedd? OQ55804

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cysylltiadau Rhynglywodraethol ( 3 Tach 2020)

Angela Burns: Prif Weinidog, rwy'n credu, mewn gwirionedd, na fyddaf yn gofyn y cwestiwn yr oeddwn i'n mynd i'w ofyn, ond rwyf i'n credu bod angen i mi fynd ar drywydd y sylwadau a wnaed gan yr Aelod blaenorol. Rydym ni i gyd yn cydnabod ein bod ni mewn byd anodd iawn. Rydym ni i gyd yn deall bod llawer o bobl yn dianc i'n glannau am bob math o resymau, boed hynny oherwydd eu bod yn eithriadol o dlawd, neu...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Gwasanaethau Addysg Digidol (21 Hyd 2020)

Angela Burns: Diolch, Lywydd. Weinidog, gwrandewais ar eich ymateb i Joyce Watson yn ofalus iawn, a'r mater penodol rwyf eisiau ei godi yw'r plant sydd i fod, neu'r myfyrwyr sydd i fod yn sefyll arholiadau y flwyddyn nesaf. Mae cryn dipyn o rieni wedi lleisio pryderon mai eu plant hwy yw'r rhai y teimlant y dylent fod yn cael eu—maddeuwch i mi am ddefnyddio'r gair 'blaenoriaethu', ond, oherwydd yr elfen...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Endometriosis (14 Hyd 2020)

Angela Burns: Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am awgrymu y dylem gynnal y ddadl hon, oherwydd mae hwn yn fater eithriadol o bwysig sy'n effeithio ar gynifer o bobl. Un o'r pwyntiau a wnaeth Jenny ar y dechrau un yw nad mater menywod yn unig yw hwn, ond mewn gwirionedd mae'n rhywbeth sy'n effeithio'n fawr ar y dynion ym mywydau'r menywod sydd â'r salwch cronig a gwanychol hwn. Roeddwn am ddarllen y...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (14 Hyd 2020)

Angela Burns: Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod prosiectau datblygu gwledig a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cynnig gwerth am arian?

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Cydraddoldeb Rhywiol (13 Hyd 2020)

Angela Burns: Fel y gwyddoch chi, dydd Sul oedd Diwrnod Rhyngwladol y Ferch, ac mewn llawer lle yn y byd mae merched yn dal yn nwydd, i'w defnyddio, i'w cam-drin ac i'w masnachu. Mewn llawer lle, Gweinidog, byddwch yn gwybod nad yw merched yn cael fawr o addysg, eu bod yn beichiogi'n rhy ifanc, yn teimlo mai perthnasau treisiol yw eu hunig ddewis, o dan bwysau i briodi, yn dioddef anffurfio eu horganau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwerth am Arian (13 Hyd 2020)

Angela Burns: Ymateb diddorol, ac rwy'n gofyn y cwestiwn hwn gan fod nifer o feysydd lle nad yw'n ymddangos bod gwerth am arian i drethdalwyr Cymru. Mae'r cynllun rheoli cynaliadwy yn nodi'n eglur mai ei nod yw cefnogi gweithredu ar y cyd sy'n gwella adnoddau naturiol. Mae'r cynllun newydd gael dyraniad pellach o £3 miliwn, er gwaethaf y ffaith mai dim ond £6 miliwn o'i ddyraniad blaenorol o £25 miliwn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwerth am Arian (13 Hyd 2020)

Angela Burns: 6. Sut mae'r Prif Weinidog yn sicrhau bod gwariant Llywodraeth Cymru yn cynnig gwerth am arian? OQ55711

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Cydraddoldeb Rhywiol (13 Hyd 2020)

Angela Burns: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru? OQ55712

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Effaith Pandemig COVID-19 ar Bobl ifanc ( 6 Hyd 2020)

Angela Burns: Prif Weinidog, tynnodd adroddiad gan Barnardo's yn gynharach eleni sylw at yr argyfwng sy'n wynebu maethu, gyda chynnydd o 45 y cant i nifer y plant sydd angen gofal maeth yng Nghymru, ac eto, i'r gwrthwyneb, gostyngiad o 51 y cant i'r gofalwyr maeth sydd ar gael oherwydd y pandemig. Yn amlwg, gallwn ni i gyd werthfawrogi'r problemau y mae hyn wedi eu codi o ran gallu dod o hyd i ofalwyr...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwerth am Arian i Drethdalwyr (30 Med 2020)

Angela Burns: Roedd y pwyllgor yn ddamniol yn ei gondemniad o Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn contractau roedd wedi'u cytuno ar gyfer gwerthu pren. Tynnwyd sylw at ganfyddiadau'r archwilydd cyffredinol fod y contractau'n newydd, yn arwain at sgil-effeithiau ac yn ddadleuol, ac atgyfnerthodd y farn fod yna ansicrwydd a oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydymffurfio ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus a rheolau...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwerth am Arian i Drethdalwyr (30 Med 2020)

Angela Burns: Mae'r dystiolaeth yn glir ac yn ddiamwys: mae dros £1 biliwn wedi'i wastraffu gan lywodraethau Llafur olynol yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf. Nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth a ydynt ynghlwm wrth Blaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol—mae'r gwastraff yn parhau. Fel y byddaf yn ei ddangos yn ystod y cyfraniad hwn, mae gormod o brosiectau, polisïau a chynlluniau'n ei chael hi'n...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwerth am Arian i Drethdalwyr (30 Med 2020)

Angela Burns: Diolch, Lywydd. Mae'r cynnig a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw yn glir iawn: peidiwch â gwastraffu arian y trethdalwyr. Ac mae'r cynnig yn glir oherwydd mai'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r blaid sy'n deall gwir werth arian y trethdalwyr—arian y mae pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi gweithio'n galed i'w ennill—y gwaith caled sydd y tu cefn iddo a'r gobaith y mae'n ei roi am ffordd o...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Unigrwydd Ymhlith Pobl Hŷn (30 Med 2020)

Angela Burns: Ddirprwy Weinidog, dywedant mai'r lle  mwyaf unig i fod ynddo yn aml iawn yw mewn torf ac fe fyddwch yn gwybod am adroddiad y comisiynydd pobl hŷn a gyhoeddwyd yn gynharach ar gartrefi gofal ac unigrwydd, ynysigrwydd, yr holl waharddiadau cyffredinol rydym yn eu cael mewn cartrefi gofal a pha mor anodd yw hi gyda'r holl gyfyngiadau symud. Cyn inni fynd ar y trywydd hwnnw eto, sut y gall...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (30 Med 2020)

Angela Burns: Diolch am eich ateb i Mr McEvoy ac am eich atebion blaenorol i'r un neu ddau o gwestiynau diwethaf, gan fod y cyfan yn ymwneud â’r un thema. Ond credaf mai'r gwir rwystr rhag gallu darparu a chyflawni targed Cymraeg 2050 yw'r anhawster o gael mwy o athrawon sy'n siarad Cymraeg. Mae arnom angen mwy ohonynt, ac mae arnom eu hangen yn yr holl wahanol ardaloedd yng Nghymru. Ceir rhai rhannau o...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Profiadau Ymwelwyr (29 Med 2020)

Angela Burns: Prynhawn da, Prif Weinidog. Maddeuwch i mi os byddaf yn torri ar draws unrhyw beth yr ydych chi wedi ei ddweud eisoes; yn anffodus, nid oedd y cyfieithiad yn gweithio ar fy nghyfrifiadur. Darperir llawer o'r profiadau i ymwelwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gan fusnesau microdwristiaeth, boed nhw'n eco-gabanau coed yng nghoedwigoedd Sir Gaerfyrddin neu'n safleoedd gwersylla a...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.