Canlyniadau 61–80 o 2000 ar gyfer speaker:Llyr Gruffydd

4. Datganiadau 90 Eiliad (11 Ion 2023)

Llyr Gruffydd: Pan wnaeth Gareth Bale ei ymddangosiad cyntaf i’w wlad, fel eilydd yn erbyn Trinidad a Tobago nôl yn 2006, roedden ni yn gwybod, onid oedden ni, fel cenedl, fod gennym ni dalent arbennig, ond doedd neb, dwi ddim yn meddwl, wedi rhagweld mor eithriadol fyddai ei gyfraniad a'i yrfa bêl-droed: torri record y byd, wrth gwrs, am ffi trosglwyddo pan aeth e i Real Madrid, ac yno fe enillodd e...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Amrywiaeth mewn Democratiaeth — Canlyniadau Arolwg (10 Ion 2023)

Llyr Gruffydd: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Dwi'n meddwl mai diolch yw'r hyn sydd angen inni ei wneud ar y cychwyn, sef diolch, wrth gwrs, i'r unigolion hynny sydd wedi rhoi eu hunain ymlaen i fod yn lladmeryddion dros eu cymunedau, er dwi'n siŵr efallai nad ydyn nhw'n teimlo mai dyna yw e yn aml iawn, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni o orfod torri gwasanaethau ac yn y blaen. Yn sicr, does neb...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Gaeaf y GIG (10 Ion 2023)

Llyr Gruffydd: Rŷch chi'n dweud yn eich datganiad, Weinidog, bod 12 y cant o gapasiti gwelyau yr NHS nawr wedi ei lenwi oherwydd delayed discharges, ac mewn ymateb i hynny, wrth gwrs, rŷch chi'n dweud eich bod chi wedi sicrhau 500 gwely cymunedol ar gyfer step-down care. Yn amlwg, mae hynny i'w groesawu. Mi fyddai'n dda gwybod ble mae'r rheini, gyda llaw. Fel Aelod yn y gogledd, mi fyddwn i â diddordeb...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Amseroedd Aros am Driniaeth (14 Rha 2022)

Llyr Gruffydd: —drwy'r sector preifat sydd, wrth gwrs, i fod ar gael iddyn nhw ar yr NHS?

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Amseroedd Aros am Driniaeth (14 Rha 2022)

Llyr Gruffydd: Mae etholwraig wedi cysylltu â mi sydd yn nyrs ddeintyddol. Mae hi’n dioddef o carpal tunnel syndrome yn ei dwy law. Yn amlwg, mae hynny’n effeithio ar ei gallu hi i wneud ei swydd. Mae hefyd yn effeithio ar ei lles a’i ansawdd bywyd ehangach hi. Nawr, dywedwyd wrthi cyn yr haf y byddai hi yn gorfod aros 12 mis am driniaeth, ond dim ond os oedd hi’n achos brys. Mi gafodd hi gadarnhad...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net (14 Rha 2022)

Llyr Gruffydd: Wel, diolch am y cadarnhad hynny oherwydd rydyn ni gyd yn cydnabod ei bod hi'n anodd iawn symud ymlaen gyda'r agenda yma heb gael gweithlu sydd wedi'i ymbweru â'r sgiliau i wireddu nifer o'r interventions sydd eu hangen ar gyfer cyrraedd sero net. Mi wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd bwysleisio i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn ddiweddar ei bod hi'n methu tanlinellu'n...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net (14 Rha 2022)

Llyr Gruffydd: 7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu sgiliau sero net arfaethedig y Llywodraeth? OQ58886

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Amseroedd Aros am Driniaeth (14 Rha 2022)

Llyr Gruffydd: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag amseroedd aros am driniaeth yng ngogledd Cymru? OQ58885

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (13 Rha 2022)

Llyr Gruffydd: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg?

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith — 'Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd' ( 7 Rha 2022)

Llyr Gruffydd: Ie. Diolch yn fawr am hynny. [Chwerthin.] Rwy'n meddwl mai'r pwynt a wnaed gan Huw, mewn gwirionedd—interim, ie; amhrisiadwy, na. Rydym eisiau dweud diolch o galon wrth yr asesydd interim am y gwaith y mae'n ei wneud. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr.

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith — 'Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd' ( 7 Rha 2022)

Llyr Gruffydd: Mae e'n bwynt pwysig: nid cerydd o'r asesydd sydd fan hyn—i'r gwrthwyneb, yng ngoleuni'r capasiti a'r adnoddau sydd ar gael iddi, mae hi'n gwneud cymaint ag y gallem ni ddisgwyl a mwy, felly diolch iddi hi am hynny. Ond dwi jest eisiau cloi drwy ddweud wrth gwrs y byddwn ni fel pwyllgor yn parhau i graffu ac i fod yn anniddig tan i ni weld bod deddfwriaeth yn dod ymlaen, ac, wrth gwrs, fel...

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith — 'Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd' ( 7 Rha 2022)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r drafodaeth. Diolch yn arbennig i'r Gweinidog am ei hymateb cadarnhaol, nawr, wrth ymateb i'r ddadl, ond hefyd wedi'i adlewyrchu yn y ffaith bod yr argymhellion wedi'u derbyn yn llawn—rŷn ni'n gwerthfawrogi hynny.

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith — 'Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd' ( 7 Rha 2022)

Llyr Gruffydd: Rwy'n mynd i ddweud hyn mewn ffordd gadarnhaol—peidiwch â meddwl fy mod yn ceisio gwneud pwynt ehangach—ond dylai cael cefnogwr Bexit yn cwyno am golli llywodraethiant amgylcheddol yr UE ac amddiffyniadau amgylcheddol yr UE gael ei weld fel peth cadarnhaol, Weinidog, oherwydd rydym yn y sefyllfa rydym ynddi—wyddoch chi, nid ydym yn ailedrych ar hynny—ond mae'n dangos bod yna...

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith — 'Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd' ( 7 Rha 2022)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ar ddechrau’r chweched Senedd, cytunodd y pwyllgor i graffu ar weithrediad parhaus y mesurau interim diogelu’r amgylchedd sydd gennym yma yng Nghymru. Bydd yr Aelodau’n cofio, rwy’n siŵr, fod y mesurau hyn wedi’u rhoi ar waith i fynd i’r afael â phryder eang am y bwlch llywodraethu amgylcheddol sydd ar ddod yng Nghymru yn dilyn ymadawiad y DU...

9. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) ( 6 Rha 2022)

Llyr Gruffydd: Mae'r Bil yma, fel rŷn ni newydd glywed, wrth gwrs, wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn ystod ei daith drwy'r Senedd, ond mae e hefyd wedi bod ychydig yn ddadleuol oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi mynnu defnyddio proses graffu gyflym ar ei gyfer. Nawr, dwi ddim yn awgrymu bod gweithdrefnau'r Senedd wedi cael eu camddefnyddio, ond mae'r hyn rŷn ni wedi'i weld ymhell o fod yn arfer da....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gofal Iechyd Preifat ( 6 Rha 2022)

Llyr Gruffydd: Diolch ichi am eich ateb. Dwi eisiau rhannu gyda chi brofiad etholwraig i fi. Mae hi'n nyrs ac mae hi'n dioddef â phroblem twnnel carpal ar ei dwy law. Mae hynny, wrth gwrs, yn achosi'r dwylo i chwyddo, mae e'n dod â phoen llosgi a phoen yn saethu lan y fraich at y penelin, ac mae hynny, wrth gwrs, gan mai nyrs deintyddol yw hi, yn cael effaith ar ei gallu hi i weithio. Mae e hefyd, wrth...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gofal Iechyd Preifat ( 6 Rha 2022)

Llyr Gruffydd: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd cynyddol o ofal iechyd preifat gan gleifion sy'n aros am driniaeth ar y GIG? OQ58843

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid — 'Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE' (30 Tach 2022)

Llyr Gruffydd: A gadewch i ni gymharu'r hyn sydd gennym a'r hyn sydd gennym, yw'r hyn rwy'n ceisio ei ddweud, oherwydd mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn gysyniad gwleidyddol digydwybod, wedi'i daflu at ei gilydd ar frys i lenwi gwagle a adawyd ar ôl yn sgil Brexit, gan orfodi, i bob pwrpas, ail-greu'r olwyn a oedd eisoes yno. Roedd gan Lywodraeth Cymru fframwaith, a gyd-ddatblygwyd dros nifer o...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.