Canlyniadau 61–80 o 8000 ar gyfer speaker:Mark Drakeford

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rhwyll mewn Llawdriniaethau (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Diolch i Jack Sargeant am ei ddiddordeb parhaus yn y pwnc hwn. Gwn ei fod wedi cyfeirio o'r blaen at waith ei etholwr a'r gwaith ymgyrchu y mae hi wedi'i wneud, a'i fod wedi cael sicrwydd gan y Gweinidog Iechyd ar y pryd ein bod yn disgwyl, ac yn wir wedi gweld, gostyngiad sylweddol yn nifer y gweithdrefnau rhwyll y wain sy'n cael eu cyflawni yng Nghymru. Er nad oes gwaharddiad llwyr arnyn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rhwyll mewn Llawdriniaethau (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Rhaid i fyrddau iechyd ddefnyddio canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar ddefnyddio rhwyll er mwyn rhoi dewisiadau triniaeth addas i gleifion. Dylai cynlluniau gofal adlewyrchu dewisiadau ar sail gwybodaeth, wedi'u cyd-gynhyrchu rhwng clinigwyr a chleifion.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Siarter Gofalwyr Di-dâl (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Rwy'n cytuno â Peter Fox fod yr hawl a sefydlwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 bod gan ofalwyr di-dâl hawl i asesiad—mae'n hawl cyfreithiol sydd ganddyn nhw ac nad yw'n rhywbeth sy'n gras a ffafr gan unrhyw un arall—yn hawl bwysig iawn a sefydlwyd yn y Senedd hon. Mae'r strategaeth a'r cyllid sydd y tu ôl iddi yno i wneud yn siŵr bod yr hawl yna'n gallu...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Siarter Gofalwyr Di-dâl (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Mae'r adroddiad blynyddol cyntaf ar weithredu'r strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, gan gynnwys y siarter, yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae'n cynnwys ystod o gamau ymarferol—y cynllun seibiant byr a'r grant cymorth gofalwyr, er enghraifft—i gefnogi gofalwyr di-dâl.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Amser Aros Ambiwlansys (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Fy man cychwyn, Llywydd, yw bob amser, lle ceir gwersi i'w dysgu, tu mewn neu y tu allan i Gymru, yna wrth gwrs byddem eisiau eu dysgu. O fy mhrofiad hir o'r mathau hyn o drafodaethau—a does gennyf i ddim byd o fy mlaen i—yr hyn y byddwn i'n tybio yw y bydd diffiniadau gwahanol o'r hyn sy'n cael ei nodi gan ymateb categori 2, felly rydyn ni'n cyfri pethau gwahanol, ac wrth gwrs rydyn ni'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Amser Aros Ambiwlansys (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, yr ateb sylfaenol yw peidio â chael ambiwlansys yn aros fel yna, ac er bod y sefyllfa yn y gwasanaeth iechyd yn parhau i fod yn heriol iawn, mae rhywfaint o newyddion da yn y maes hwn. Drwy gymryd agwedd system gyfan y cyfeiriais ato yn fy ateb gwreiddiol, llwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, drwy weithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans, i sicrhau gostyngiad o 50 y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Amser Aros Ambiwlansys (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, rydym wedi darparu cyllid ychwanegol, wedi sefydlu rhaglen wella genedlaethol a mwy o staffio yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Pan fo byrddau iechyd yn cymryd camau system gyfan ar y cyd, mae canlyniadau clir eisoes yn cael eu gweld o ran lleihau amseroedd aros ambiwlansys y tu allan i ysbytai.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diwydiant Ynni Adnewyddadwy (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno gyda'r pwynt cyffredinol y mae Jenny Rathbone yn ei wneud. Bydd hi'n gwybod ei fod yn ddarlun dryslyd y mae deiliad tŷ unigol yn ei wynebu yn yr ardal hon, oherwydd bod dadl barhaus ac weithiau braidd yn begynol ynghylch yr hyn y dylai dyfodol gwresogi domestig fod. Ar y naill law, mae yna arbrofion yn digwydd ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diwydiant Ynni Adnewyddadwy (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Wel, dwi ddim wedi cael cyfle i ddeall y pwynt penodol y mae Llyr Gruffydd wedi’i wneud, Llywydd, so byddai’n well i fi ystyried beth fydd ar y Record y prynhawn yma. Rŷn ni eisiau—. Dwi wedi cael cyfarfod gyda Jack Sargeant jest wythnosau yn ôl i weld sut allwn ni alluogi awdurdodau lleol  gyda'r cronfa bensiwn i fuddsoddi mewn pethau sy’n mynd i fod yn rhan o’r tymor hir yma...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diwydiant Ynni Adnewyddadwy (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, diolch i Sam Kurtz am y cwestiynau ychwanegol yna. Diolch iddo am dynnu sylw at y ffaith bod cais fferm wynt Erebus wedi'i gymeradwyo nawr drwy'r holl brosesau yma yng Nghymru. Mae'n ddatblygiad pwysig iawn ac yn un sy'n dangos ein bod wedi gallu defnyddio'r broses ymgeisio symlach ac effeithiol sydd gennym nawr yng Nghymru i gyrraedd y canlyniad hwnnw, gan, ar yr un pryd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diwydiant Ynni Adnewyddadwy (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Diolch i Sam Kurtz am hynna. Mae cefnogi'r gadwyn gyflenwi, cydlynu buddsoddiad mewn gridiau a seilwaith porthladdoedd, a sefydlu datblygwr adnewyddadwy dan berchnogaeth gyhoeddus yn rhai o'r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyfleusterau Chwaraeon Modern (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Diolch i Jane Dodds am hynna. Rwy'n gwybod bod y sector hamdden, nid dim ond yng Nghymru, ond dros y ffin hefyd, yn siomedig fod pyllau nofio wedi cael eu heithrio o ran cymorth o dan gynllun disgownt newydd Bil Ynni Llywodraeth y DU. Os ydych chi'n rhedeg amgueddfa, byddwch chi'n cael cymorth gan y cynllun hwnnw, ond os ydych chi'n rhedeg lle sy'n ynni-ddwys fel canolfan hamdden, ac yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyfleusterau Chwaraeon Modern (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Wel, y ffordd orau un, Llywydd, fyddai pe na bai Llywodraeth y DU wedi defnyddio pwerau Deddf y farchnad fewnol yn uniongyrchol i ariannu Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Dyna arian a ddylai fod yma yng Nghymru, gyda phenderfyniadau yn ei gylch yn cael eu gwneud yma yng Nghymru. Yna, byddwn i'n gallu helpu'r Aelod yn llawer mwy uniongyrchol. Byddwch yn cofio'r dadleuon yn Nhŷ'r Cyffredin—ac yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyfleusterau Chwaraeon Modern (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, gan ddefnyddio cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, bydd Chwaraeon Cymru yn cefnogi 20 o brosiectau ledled Powys yn y flwyddyn ariannol bresennol drwy Gronfa Cymru Actif. Mae hyn yn ychwanegol at brosiectau cyfalaf megis y trac pwmp newydd ger Tal-y-bont ar Wysg a rhoi wyneb newydd ar y trac athletau yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, cefais gyfle i drafod gwaith adolygiad McAllister-Williams gyda Keir Starmer. Cyfeiriodd ato'n benodol yn yr araith a wnaeth i gynhadledd y Blaid Lafur, ac fe'm calonogwyd yn fawr gan y ffaith ei fod yn benderfynol o ddangos parch priodol tuag at waith y comisiwn Cymreig hwnnw, gan aros am ei argymhellion cyn penderfynu ar bolisïau a fydd yn mynd i mewn i faniffesto'r Blaid Lafur....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, roedd y cyhoeddiad a wnaeth Syr Keir Starmer dros y penwythnos yn un i'w groesawu'n fawr, sef pe bai Llywodraeth Lafur mewn grym ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf, bydd y pwerau a'r cyllid a dynnwyd i ffwrdd o Gymru yn cael eu hadfer i Gymru, fel y bydd penderfyniadau ar y penderfyniadau datblygu economaidd rhanbarthol pwysig iawn hynny yn cael eu gwneud yma yn y Senedd hon. Rwy'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n credu ei bod yn dir cyffredin ar draws pob plaid ar lawr y Senedd bod HS2 wedi'i ddosbarthu yn anghywir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac y dylid ei ddosbarthu, fel yn yr Alban, ar y sail bod yna gyllid canlyniadol Barnett. Dyna bolisi'r Llywodraeth hon. rwyf wedi mynegi'r peth sawl gwaith yma.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n dychmygu bod unrhyw blaid sy'n rhoi cynnig ger bron y Senedd yn gwneud hynny gan obeithio y byddan nhw'n perswadio pobl eraill i'w gefnogi. Mae'n peri penbleth i mi fod arweinydd yr wrthblaid eisiau mynd i ddadl â rhywun am y ffaith ein bod ni wedi cefnogi'r cynnig a gyflwynodd. Nawr, gwn fod y—[Torri ar draws.] All e ddim cymryd 'ie' fel ateb, yn wir. Felly, mae'r sawl...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Dydw i erioed wedi bod yn ymwybodol o unrhyw weithwyr yn y sector cyhoeddus sydd eisiau bod ar streic. Llywydd, y gwir amdani yw bod aelodau'r RCN wedi cael eu gwthio i fynegi eu hymateb i ddegawd o gyni, ac yna chwyddiant ar garlam o ran yr arian y mae'n rhaid iddyn nhw fyw arno bob wythnos. Ac ni fyddwch byth yn dod o hyd i Weinidog Llywodraeth Cymru a fyddai'n dweud nad yw gweithwyr y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (14 Maw 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, a gaf i ddechrau drwy gytuno gyda'r hyn ddywedodd arweinydd yr wrthblaid am ddigwyddiadau yn Abertawe ddoe? Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn brofiad hynod frawychus i eraill sy'n byw yn y cyffiniau. Ac mae arweinydd yr wrthblaid yn iawn, on'd yw e—rydyn ni'n disgwyl i'n gwasanaethau brys redeg tuag at leoedd sy'n llawn perygl y bydd pobl eraill yn dianc rhagddyn nhw, ac maen...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.