Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Bydd fy ngrŵp yn cefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw, ac rydym yn anghytuno â chasgliadau llawer o bobl fod y Bil marchnad fewnol yn tanseilio datganoli yn llwyr. Byddwn yn dadlau i'r gwrthwyneb—heb ymagwedd synhwyrol tuag at fasnachu nwyddau a gwasanaethau rhwng y gwledydd cartref gallem weld symudiad rhydd nwyddau yn dod i ben, a allai arwain at...
Caroline Jones: Hoffwn i alw am ddatganiad brys gan y Gweinidog Addysg ynghylch addysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae llawer o rieni pryderus wedi cysylltu â mi sy'n teimlo bod y cwricwlwm newydd arfaethedig yn mynd yn rhy bell. Maen nhw hefyd yn bryderus iawn na all rhieni eithrio eu plant o wersi o'r fath mwyach. Mae miloedd o rieni'n credu'n briodol fod addysg rhyw yn dechrau ac yn gorffen yn y...
Caroline Jones: Pan godais fater y feirws newydd a oedd yn dod i'r amlwg yn Tsieina am y tro cyntaf, ynghyd â'i botensial i fygwth y tiroedd hyn, nid oeddwn yn credu na fyddem wedi cael rheolaeth arno bron i 10 mis yn ddiweddarach. Mae hyn yn ymwneud yn rhannol â'r rheolau, sy'n gallu bod yn ddryslyd iawn. Cysylltodd un etholwr â mi'n ddiweddar i ofyn pam na allai gyfarfod â ffrindiau yn gymdeithasol yn...
Caroline Jones: Weinidog, mae colli bioamrywiaeth yn un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu ein rhywogaethau. Rydym wedi colli cymaint o rywogaethau, ac mae poblogaethau bywyd gwyllt pwysicaf y DU wedi gostwng 60 y cant ers 1970, sy’n syfrdanol. Bydd y difrod ecolegol yn cael effaith aruthrol ar ddynoliaeth a'n gallu i fwydo ein hunain. Rydym eisoes wedi gweld effaith ein tresmasu ar gynefinoedd...
Caroline Jones: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae'r pandemig parhaus yn ei chael ar gynllunio awdurdodau lleol ar gyfer y gaeaf?
Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Mae Wythnos Rhyngffydd yn rhoi cyfle i ni gynyddu dealltwriaeth rhwng y crefyddau, a hefyd gyda'r rhai heb unrhyw gredoau crefyddol o gwbl. Dirprwy Weinidog, ydych chi'n cytuno mai anghydfodau rhyngffydd fu prif achos y rhan fwyaf o wrthdaro arfog, a bod cynyddu dealltwriaeth yn gwbl hanfodol er mwyn osgoi gwrthdaro a...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae'r gweithwyr dur a'u teuluoedd yn fy rhanbarth i'n pryderu llawer iawn am benderfyniad Tata i wahanu busnesau'r DU a'r Iseldiroedd. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn bwysig i ni ei gwneud yn flaenoriaeth i sicrhau bod gweithfeydd Tata yn y DU yn hunangyllidol? Mae'n rhaid sicrhau bod gan Bort Talbot swyddogaeth yn y dyfodol o ran darparu...
Caroline Jones: Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Tai ynglŷn â digartrefedd yn ystod y pandemig. Ychydig fisoedd yn ôl, dywedodd y Gweinidog fod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i roi terfyn ar gysgu ar y stryd a sicrhau bod llety brys ar gael—cam yr oeddwn i a llawer o rai eraill yn ei groesawu ar y pryd. Fodd bynnag, wrth i'r pandemig barhau i fynd rhagddo, rydym unwaith eto yn gweld...
Caroline Jones: Prif Weinidog, roedd llawer o fusnesau yng Nghymru yn teimlo bod rhaglenni cronfeydd strwythurol yr UE yn y gorffennol yn cael ei dal yn ôl gan lawer gormod o reolau a phrosesau rhy fiwrocrataidd ac, o ganlyniad, bod rhai rhaglenni wedi methu â chyflawni eu nodau datganedig, sef cynyddu ffyniant economaidd Cymru a'n pobl. Felly, Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda...
Caroline Jones: Yn gyffredinol, yn ystod y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud, cafodd tua 62,000 yn llai o gleifion lawdriniaethau yng Nghymru, o'i gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol—gadawyd 62,000 o bobl mewn poen a dioddefaint heb unrhyw ddiwedd yn y golwg. Ac nid yw pobl wedi stopio mynd yn sâl. Nid yw clefyd y galon, dementia a chanser wedi diflannu. Nid COVID-19 yw lladdwr mwyaf Cymru. Yn...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i ddegawd newydd wawrio yng Nghymru, roedd ein GIG unwaith eto'n cael trafferth gyda phwysau'r gaeaf. Nid oedd Ionawr 2020 yn anarferol. Bob gaeaf dros y blynyddoedd diwethaf, llusgodd ein GIG i stop wrth iddo gael trafferth i ymdopi â thymor anwyd a ffliw. Cafodd triniaethau nad oeddent yn rhai brys eu torri wrth i'r GIG redeg allan o welyau unwaith eto....
Caroline Jones: Ar y diwrnod hwn rydym yn coffáu'r diwrnod y distawodd y gynau yn y rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel. Yn anffodus, nid dyma oedd diwedd rhyfeloedd, ond nodwn ddiwedd y rhyfel mwyaf enbyd hwn bob blwyddyn a choffáu pawb a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd arfog drwy gydol yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain. Yn anffodus, mae angen mynd i ryfel weithiau er mwyn trechu'r drwg a...
Caroline Jones: Cynigiwyd yn ffurfiol.
Caroline Jones: Weinidog, mae'r newyddion am y brechlyn Pfizer yn addawol, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cyflawni ei botensial. Fodd bynnag, bydd cryn amser cyn y gallwn sicrhau'r bron i 6 miliwn dos sydd eu hangen. Gan droi at ymarferoldeb cyflwyno'r rhaglen, os yw'r brechlyn hwn a brechlynnau eraill yn bodloni safonau diogelwch ac effeithiolrwydd, cafwyd adroddiadau yn y cyfryngau a chylchlythyrau meddygon...
Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Mae'r pandemig wedi difetha economi fy rhanbarth, ac er y gall y feirws ddinistrio bywydau, mae'r mesurau i'w reoli wedi dinistrio bywoliaeth pobl, ac mae gormod lawer o fy etholwyr wedi colli eu swyddi a'u busnesau. Rwy'n croesawu'r gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn rhy aml o lawer, nid yw wedi bod yn ddigon. Cysylltodd un o fy...
Caroline Jones: 5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae pandemig COVID-19 yn ei chael ar fusnesau yng Ngorllewin De Cymru? OQ55827
Caroline Jones: Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â rhaglen Dechrau'n Deg. Mae rhywun amlwg ym Mhort Talbot wedi cysylltu â mi yn mynegi pryderon ynghylch hyfywedd y rhaglen i'r dyfodol. Nid yw cyfleusterau gofal plant ym Mhort Talbot wedi gweld cynnydd yng nghyfraddau eu tâl nhw am ddarparu gofal dros y pedair blynedd diwethaf, gyda llawer...
Caroline Jones: Prif Weinidog, hoffwn innau hefyd bwysleisio'r effaith y mae tân gwyllt yn ei chael ar bobl ac anifeiliaid anwes bob blwyddyn. Mae noson tân gwyllt wedi troi'n wythnos tân gwyllt yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae tân gwyllt wedi dod yn fwyfwy pwerus. Mae cyn-filwyr ac anifeiliaid anwes yn byw mewn ofn yn ystod y cyfnod hwn wrth i ardaloedd tawel ymdebygu i barthau rhyfel. Prif Weinidog,...
Caroline Jones: Weinidog, gyda Bae Abertawe yn dal i orfod rhoi mesurau rheoli heintiau ar waith yn Ysbyty Treforys, bydd nifer y bobl sy'n aros am driniaeth yn parhau i gynyddu, gan waethygu sefyllfa sydd eisoes yn enbyd yng nghyswllt amseroedd aros gormodol am driniaeth. Cyn y pandemig, roedd bron i 6,500 o bobl eisoes yn aros dros 36 wythnos am driniaeth. Felly, gyda thriniaethau cyffredin yn cael eu...
Caroline Jones: Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud mai dim ond pan fydd popeth arall wedi methu y dylid defnyddio cyfyngiadau symud ac y dylid eu hosgoi. Bydd y niwed y bydd y mesurau hyn yn ei achosi i iechyd, cyfoeth a lles pobl yn ddifrifol, ac rydym yn gweld nifer syfrdanol o fusnesau yn methu, niferoedd di-ri o bobl yn colli eu swyddi, niferoedd enfawr o bobl ifanc methu â dod o hyd i waith, ac addysg...