Suzy Davies: A gaf fi ategu sylwadau David Rees a'r diolch a roddodd? Rwy'n credu ein bod i gyd wedi rhyfeddu at yr ymateb i hyn, yn enwedig gan y gymuned. Mae unrhyw un sydd wedi bod drwy brofiad o lifogydd yn gwybod pa mor ofidus ydyw, a phan fydd gennych gymaint o ddŵr brwnt, mae'n wirioneddol dorcalonnus. Mae'r awdurdod lleol hwn, wrth gwrs, wedi gorfod ymdrin â llifogydd Aberdulais y llynedd, a...
Suzy Davies: Mae Mike Hedges wedi bod yn codi hyn yn ein cyfarfodydd wythnosol gyda'r bwrdd iechyd lleol cyhyd ag y gallaf gofio, felly rwy'n falch ein bod yn cael cyfle i'w drafod heddiw. Fodd bynnag, nid dyma'r unig waith mawr yng Ngorllewin De Cymru sydd wedi bod yn ymdrin â niferoedd mawr; rydym wedi cael newyddion anodd gan Tata a chan Amazon hefyd, sydd hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer yr...
Suzy Davies: Mae Gorllewin De Cymru eisoes yn dioddef ei ergydion economaidd ei hun, yn anad dim o ganlyniad i ba mor agored yw’r cadwyni cyflenwi sy'n bwydo i mewn i'r sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden sydd bellach yn fregus iawn. Weinidog, rydych wedi cydnabod y bregusrwydd hwnnw gyda chymorth ariannol wedi'i glustnodi i lawer o fusnesau rheng flaen, ond wrth gwrs, ni fyddant yn prynu stoc nac...
Suzy Davies: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wella cryfder ac ansawdd mynediad band eang i gartrefi yng Nghymru lle mae pobl yn gweithio neu'n dysgu?
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Weinidog, am y datganiad yma. Rwyf wedi bod yn dweud bod dewis iaith yn ddewis anymwybodol yn aml, yn bersonol iawn, ac yn bownd o barhau er gwaethaf unrhyw bolisi os dydyn ni ddim yn wynebu hynny. Felly, rwy'n falch o weld y symudiad hwn tuag at well ddealltwriaeth o le iaith mewn deinameg deuluol. Ac wrth edrych ar argymhellion y polisi, dwi'n troi at yr ail, y ddeinameg...
Suzy Davies: A gaf i ddiolch i'r grŵp cynghori dylunio a chyflawni hefyd? Dydw i ddim yn tybio eu bod wedi disgwyl gwneud y gwaith hwn. Credaf fod yr angen am eich cyhoeddiad yr wythnos diwethaf a'r datganiad hwn heddiw, Gweinidog, yn dangos pa mor agos ydym ni at y dibyn gydag addysg ar hyn o bryd, ac rwy'n gwybod eich bod yn gwneud penderfyniadau y byddai'n well gennych beidio â'u gwneud. Felly, nid...
Suzy Davies: Diolch am hynny. Gobeithio y byddwch chi'n gallu rhannu unrhyw ddata newydd sy'n dangos cynnydd cyflawniad ar bolisi 2050, gan gynnwys unrhyw syniadau newydd sy'n gweithio nad ydym ni wedi'u hystyried o'r blaen. Nawr, hoffwn i glywed yn arbennig am unrhyw gynnydd ar brentisiaethau iaith Gymraeg, a sut i brif-ffrydio mwy o sgiliau Cymraeg mewn prentisiaethau cyfrwng Saesneg. Byddwn ni yn...
Suzy Davies: Diolch am hynny. Rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd, ond roeddwn i'n meddwl a oes gyda chi unrhyw ddiddordeb mewn prentisiaethau safon gradd, er enghraifft, i athrawon sy'n dod o gefndiroedd galwedigaethol gwahanol yn hytrach na thrwy'r system rŷm ni'n ei gweld ar hyn o bryd. Efallai fod hynny'n rhywbeth i'w ystyried. Hoffwn symud ymlaen nawr at rywbeth arall. Bron yn syth ar ôl dechrau'r...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Gweinidog, mae nifer yr athrawon sy'n siarad neu sy'n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi parhau yn weddol sefydlog ers sawl blwyddyn erbyn hyn. Mae Estyn yn disgrifio ceisiadau eleni am hyfforddiant i athrawon cychwynnol fel ymchwydd, er bod Cyngor y Gweithlu Addysg yn llai hyperbolic ac yn dipyn bach mwy realistig na hynny. Pam na wnaeth mwy o'r...
Suzy Davies: Mae’n ddigon posibl y gallai’r cwestiwn hwnnw fod wedi codi gan fod cymaint o bwyslais wedi’i roi ar weithwyr gofal cymdeithasol mewn cartrefi gofal. Mae gennyf gwestiwn am y rheini sy'n rhoi gofal personol i blant mewn ysgolion. Credaf y gallwn gytuno nad oedd y cyfathrebu ynghylch blaenoriaethu'r unigolion hyn yn wych—gwnaethoch gyfaddef hynny i bob pwrpas yr wythnos diwethaf,...
Suzy Davies: A gaf i ddechrau hefyd drwy ddiolch i Meilyr am y gwaith rhagorol y mae ef wedi'i wneud fel y prif arolygydd, a dweud diolch iddo am fod mor rhwydd gweithio gyda ef ac am iddo fod mor agored wrth gael ei holi? Mae'n sicr yn gwneud gwahaniaeth o ran ein helpu ni i graffu ar waith Estyn. Hoffwn i ddiolch i Estyn yn gyffredinol am ei waith parhaus yn helpu ein hysgolion a'n colegau a lleoliadau...
Suzy Davies: Iawn, wel, diolch am hynny. Fe wnes lanast o'r blaenlythrennau hynny i ddechrau hefyd. Iawn, wel, rydych yn 'awyddus iawn'; fe gymeraf hynny fel datganiad cadarnhaol, felly. Hoffwn fynd yn ôl, os caf, at gysondeb ansawdd a maint yr addysgu ar-lein. Rwy'n gwybod ein bod wedi siarad amdano gryn dipyn heddiw, ond tybed a allech ddweud wrthym beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn i'r £29 miliwn a...
Suzy Davies: Iawn, wel, rwy'n edrych ymlaen at weld rhywfaint o weithgarwch mewn perthynas â'r profi hwnnw; fel y dywedais, roedd wedi mynd ychydig yn dawel. Weinidog, yn amlwg fe fyddwch yn gwybod fy mod yn cefnogi'r syniad o flaenoriaethu brechiadau i grŵp ar wahân o staff ysgol ar ôl i'r pedwar grŵp sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan risg marwolaeth gael eu trin yn llawn. Mae'r awgrymiadau...
Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch ichi am yr atebion hynny i Bethan Sayed hefyd, Weinidog—roedd hynny'n ddefnyddiol iawn. Hoffwn ddechrau gydag ysgolion yn cau. Yn amlwg, dywedwyd wrthym dro ar ôl tro fod ysgolion eu hunain yn amgylcheddau risg isel iawn, er bod yr amrywiolyn hwn yn fwy heintus na'r fersiwn flaenorol. Mae adroddiad diweddaraf y gell cyngor technegol yn nodi eto mai ymddygiad...
Suzy Davies: Tybed a allech roi syniad i ni ble yn y gyllideb y gallem ddod o hyd i gymorth i'r Urdd a'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig—neu EYST—sydd ill dau’n gwneud cyfraniadau hanfodol i waith ieuenctid yn fy rhanbarth, yn targedu grwpiau penodol o bobl ifanc fel rhan o waith polisi arall Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn siŵr fod pob cyngor yn edrych ar yr Urdd yn enwedig fel sefydliad a all eu...
Suzy Davies: Gweinidog, rwyf am fynd â chi yn ôl at flaenoriaethu cam 2 os caf i, gan na wnaethoch ateb cwestiwn Andrew R.T. ynglŷn â hyn. Nid wyf yn credu bod unrhyw un ohonom ni'n awgrymu y dylid ail-flaenoriaethu'r broses o gyflwyno cam 1 mewn unrhyw ffordd, ond rwy'n awyddus i wybod a ydych chi'n bersonol yn cydymdeimlo â'r ddadl y dylai staff ysgol fod o fewn y blaenoriaethu cam 2 ochr yn ochr...
Suzy Davies: Trefnydd—rwy'n edrych am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda. Mae'r cyntaf yn ddatganiad ysgrifenedig brys ar y cyd gan y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog llywodraeth leol am y dryswch gwirioneddol y mae teuluoedd yn ei brofi ynglŷn â'r ysgolion neu'r lleoliadau hyb y mae cynghorau'n eu darparu yn ystod cyfnod cau ysgolion. Mae'r tri awdurdod lleol yng Ngorllewin De Cymru yn gwneud...
Suzy Davies: Faint o staff a disgyblion ysgolion meithrin a chynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi cael canlyniad positif mewn prawf COVID-19 ers 14 Rhagfyr 2020?
Suzy Davies: Diolch, Gadeirydd, ac rwy'n cynnig ein gwelliant. Yn gyntaf oll, a gaf fi ymddiheuro i Blaid Cymru am orfod cynnwys gwelliant 'dileu popeth'? Nid wyf yn hoffi gwneud hynny, ond roedd hi'n amhosibl datglymu'r rhannau o'r cynnig roeddem yn cytuno i ryw raddau â hwy a'r rhai nad oeddem yn cytuno â hwy. Mae'r hyn y ceisiasom ei gadw ym mhwynt 4(b) ein gwelliant. Credaf fod rhywbeth i'w ddweud...
Suzy Davies: Ac am hynny rwy'n hynod ddiolchgar, Lywydd—Gadeirydd, mae'n ddrwg gennyf. Ddoe, tynnodd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood sylw unwaith eto at natur fregus plant sy'n derbyn gofal. Er bod plant sy'n derbyn gofal yn cael eu derbyn i ofal awdurdod lleol i wella eu llesiant, dywedodd fod cyfran fwy ohonynt yn gysylltiedig â throseddau camfanteisio ar blant drwy linellau cyffuriau ac felly maent...