Russell George: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddymuno Nadolig llawen i chi, Weinidog, ac i fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr? Nid oes un hyb llawfeddygol yn bodoli yng Nghymru. Nododd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon fod hybiau llawfeddygol yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniadau mwyaf erioed o driniaethau yn y GIG, sydd bellach yn fwy na thri chwarter miliwn o achosion yng Nghymru. Maent hefyd...
Russell George: Wrth gwrs, dylai cyllideb Cymru fod ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru'n torri ei brethyn, am ei blaenoriaethau gwariant, ond wrth wrando ar y ffeirio geiriau rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd yr wrthblaid y bore 'ma, mae'n rhaid i mi ofyn i mi fy hun pam yr ydym yn cael y ddadl hon. Yn rhy aml, rwy'n meddwl tybed pam y mae Llywodraeth Cymru'n gyson yn pwyntio ei bys at San Steffan yn...
Russell George: Weinidog, cefais wybod gan y Coleg Nyrsio Brenhinol heddiw eich bod yn dal heb gyfarfod â hwy'n benodol i drafod cyflogau nyrsys, ac nad ydych wedi cychwyn trafodaethau gyda hwy na thrwy fforwm partneriaeth GIG Cymru, sy'n hynod siomedig yn fy marn i. Yn fwyaf rhwystredig, rydych yn dal i bwyntio bys at San Steffan yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd yma. Nawr, eich...
Russell George: Prif Weinidog, yr hyn yr wyf i wedi ei nodi yw bod mwy o fy etholwyr, dros y 12 mis diwethaf yn benodol, yn dewis mynd i gael triniaeth breifat, gan eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad hwnnw nad ydyn nhw eisiau aros ar restr aros GIG mwyach, yn aml mewn poen. Ar un achlysur, fe aeth un etholwr, rwy'n gwybod, i ddyled er mwyn talu am driniaeth breifat. Nawr, mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal...
Russell George: Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei phenderfyniadau ei hun, a phenderfyniadau gwahanol iawn ar adegau, ac mae ganddi hawl i wneud hynny wrth gwrs, ond byddwn yn gobeithio y byddai'r Prif Weinidog yn derbyn y dylai fod craffu ar y penderfyniadau a wnaed, ac atebolrwydd yn eu cylch. Ac rydym yn gwybod nad yw ymchwiliad y DU yn gallu gwneud hynny. Felly, os yw'n parhau i fod mor hyderus, rwy'n...
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig y prynhawn yma a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Mae ein cynnig heddiw yn argymell y dylai'r Senedd hon sefydlu pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru a chytuno mai cylch gwaith y pwyllgor fyddai i (a) nodi ble nad yw ymchwiliad COVID-19 y DU yn gallu craffu'n llawn ar ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus...
Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar berfformiad Rhentu Doeth Cymru?
Russell George: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Defnydd cwbl briodol o amser trafod yn y Siambr y prynhawn yma. Bydd streic yn arwain at ganlyniadau dinistriol i gleifion, ac rydym yn gwybod bod chwech o'r saith bwrdd iechyd wedi pleidleisio o blaid streicio. Rwy'n credu bod hynny'n dangos cymaint y mae nyrsys eisiau i Lywodraeth Cymru wrando arnynt. Rwyf am...
Russell George: Weinidog, mae un gwelliant sydd ei angen ar yr A483 yn ymwneud â ffordd osgoi Pant-Llanymynech, y soniais amdani nifer o weithiau yn y Siambr hon, ac fe fyddwch yn gwybod fy mod yn awyddus iawn i weld y ffordd osgoi hon, y mae rhan ohoni yn fy etholaeth, yn mynd yn ei blaen. Felly, oherwydd yr adolygiad ffyrdd ar ochr Cymru, nid wyf yn awyddus i'r cynllun hwn gael ei ohirio ymhellach. Yn ôl...
Russell George: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan Ambiwlans Awyr Cymru i bobl canolbarth Cymru a rhannau eraill o Gymru yn amhrisiadwy. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae pryder dwfn ynglŷn â chynigion i symud canolfan y Trallwng a sut y bydd hynny'n cryfhau gwasanaethau yn y canolbarth. Mae'n anodd derbyn y bydd symud hofrennydd a cherbyd ffordd ymhellach o'r canolbarth...
Russell George: 6. Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod pobl sy'n byw yng nghanolbarth Cymru yn cael mynediad digonol at wasanaethau'r GIG? OQ58705
Russell George: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rydym yn gwybod, yn yr hanner awr ddiwethaf, fel rydych wedi dweud, fod chwe o'r saith bwrdd iechyd ledled Cymru wedi ymateb i ganlyniad pleidlais streic y Coleg Nyrsio Brenhinol, ac y bydd streiciau'n digwydd yn ardaloedd y byrddau iechyd hynny. Rhaid imi ddweud, Weinidog, mae eich ymateb yn fy siomi, wrth ichi geisio gwrthod eich cyfrifoldeb. GIG sy'n cael...
Russell George: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am streic posib gan nyrsys? TQ674
Russell George: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw? Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog a chi wedi datgan droeon trwy gydol y pandemig y byddai'r wyddoniaeth yn arwain eich Llywodraeth. Rwy'n cytuno, wrth gwrs, gyda'r dull hwnnw hefyd, a sefydlodd y Llywodraeth y gell gynghori dechnegol sydd hefyd wedi derbyn argymhellion y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu, o ran pa grwpiau ddylai gael...
Russell George: Sut mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â'r ôl-groniad yn amseroedd aros y GIG am driniaeth?
Russell George: Diolch. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, a diolch yn arbennig—rwy'n credu i Gareth Davies wneud pwynt yn ei gyfraniad o ddiolch i'r tîm clercio a'r tîm ymchwil ehangach sy'n cefnogi gwaith ein pwyllgor, felly hoffwn gofnodi hynny gennyf fi hefyd. Rwy'n credu mai Rhun a Sarah a ddywedodd fod angen gwelyau cam-i-lawr, a gwnaeth Sarah, rwy'n...
Russell George: A gadewch i ni gofio hefyd nad ystadegau yn unig yw achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Y tu ôl i bob achos o oedi wrth drosglwyddo, mae yna unigolyn nad yw wedi cael y gofal a'r cymorth y maent ei angen i allu dychwelyd adref neu i symud i lety priodol. Mae hefyd yn effeithio ar aelodau teuluol a gofalwyr di-dâl, sydd yn y sefyllfa amhosibl o adael eu hanwyliaid yn yr ysbyty yn hwy...
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor yr ail ddadl ar adroddiad pwyllgor y prynhawn yma, y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol 'Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai'. Rwy'n hapus i wneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw. Fe wnaeth ein hadroddiad 25 o argymhellion ac roeddwn yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 20 yn...
Russell George: Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ystod dadl Pwyllgor Deisebau yn ddiweddar, fe ddywedoch chi, 'mae'n anghywir awgrymu y byddai ymestyn adran 25B i gynnwys pob un o'r meysydd hynny'n arwain at roi'r "tîm llawn o nyrsys" i Gymru, fel y mae'r ddeiseb yn ei roi, a hynny'n syml am nad yw'r nyrsys hynny'n bodoli ar hyn o bryd.' Yr hyn rwy'n ceisio ei gywiro, fy hun, a rhoi cyfle i chi ehangu ac...
Russell George: Weinidog, hoffwn godi mater yr oeddwn am wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol ohono. Gwnaeth un o fy etholwyr—myfyriwr o Gymru—gais i ddarparwr addysgol yn Lloegr ar gyfer cwrs hyfforddi bargyfreithwyr proffesiynol, a chawsant wybod gan y darparwr nad oeddent yn fodlon cael mynediad at y cyllid drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Nawr, nid yw hwn yn fater o bryder—. Nid yw hyn yn gyfrifoldeb i...