Ken Skates: A gaf innau hefyd ddiolch i Jayne Bryant am godi'r mater pwysig hwn heddiw? Trefnydd, roeddwn i yng Nghoedpoeth, cymuned yr ydych chi'n gyfarwydd â hi, yn ddiweddar iawn, ar batrôl am fore llawn gyda'r heddlu lleol yno. Cefais fy syfrdanu gan faint maen nhw'n ei wybod am y cymunedau yr ydym ni'n eu gwasanaethu a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. A wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i bob un o'n...
Ken Skates: Mae galar a thristwch yn emosiynau hynod bwerus—yn anhygoel o bwerus. Maen nhw'n gallu uno pobl, er hynny, ar adegau o anghytuno a dod â phobl at ei gilydd. Mae'n digwydd ar hyn o bryd wrth i bobl fynegi eu tristwch a'u galar am Ei Mawrhydi'r Frenhines, ac, fel y nododd Sam Rowlands, yn ei bywyd, roedd gan y Frenhines allu heb ei ail i uno pobl, bob amser nid yn unig ar adegau o...
Ken Skates: Prif Weinidog, bu cynnydd sylweddol, sydd i'w groesawu'n fawr yn ddiweddar yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth ar gyfer iechyd meddwl mewn ysgolion, a fydd yn helpu llawer o bobl ifanc yn Nyffryn Clwyd a thu hwnt. Gwyddom mai gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion sy'n gyfrifol am atal salwch meddwl ac ymyrraeth gynnar yn y ffordd fwyaf effeithiol. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo...
Ken Skates: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt metro'r gogledd?
Ken Skates: Diolch, Weinidog. Mae'n dda iawn clywed hyn, gan y byddech yn cytuno, rwy’n siŵr, fod twristiaeth yn hanfodol bwysig i economi Cymru, ond wrth gwrs, gyda’r cynnydd sydyn mewn unedau hunanddarpar, mae perygl y bydd rhai trefi a phentrefi yn darparu mwy ar gyfer ymwelwyr nag ar gyfer preswylwyr. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi’i godi gyda mi gan drigolion pryderus yn Llangollen ar sawl...
Ken Skates: 3. Pa effaith a gaiff newid dosbarthiad eiddo hunanarlwyo at ddibenion treth ar drigolion mewn cymunedau sydd â mwy a mwy o lety hunanarlwyo? OQ58249
Ken Skates: Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.
Ken Skates: Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am y datganiad hwn heddiw? Rwy'n credu bod hyn unwaith eto yn amlygu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu cyfleoedd bywyd i blant sy'n derbyn gofal. Dau gwestiwn byr. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r holl gyngor a amlinellwyd gennych chi a fydd ar gael i'r rhai sy'n gadael gofal ynghylch materion ariannol. A wnewch chi roi sicrwydd i'r Aelodau mai'r cynghorwyr...
Ken Skates: Weinidog, diolch am eich ateb. Mae hwnnw'n newyddion gwych, ac mae'r £20 miliwn hwnnw wedi cyfrannu'n helaeth at wella nid yn unig ystadau ysgolion, ond cymunedau'n gyffredinol. Byddwn yn hynod ddiolchgar pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a fy etholwyr yn Ne Clwyd am y cynnydd sy'n cael ei wneud yn benodol yng nghymuned Brymbo, yng ngogledd yr etholaeth, lle byddai ysgol...
Ken Skates: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi yn Ne Clwyd drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? OQ58198
Ken Skates: Hoffwn innau ddiolch i'r Cadeirydd, i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor, i'r tîm clercio ac i'r ymchwilwyr am y gwaith a gyflawnwyd. A hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol am ei gwaith arloesol, am herio llunwyr polisi yn gyson ac yn adeiladol, ac am fod yn ffyrnig o annibynnol. Hoffwn sôn yn gryno am argymhelliad 1, os caf. Fel y gwelwch yn...
Ken Skates: Wel, diolch, Prif Weinidog, mae hynny'n gymorth enfawr i fy etholwyr i, ond a fyddech chi'n cytuno nad yw cynnig y Canghellor i aelwydydd sy'n wynebu'r argyfwng costau byw yn ddigon ac, yn wir, ei fod yn sarhaus, o gofio ei fod i gael ei dalu o'r toriad i gredyd cynhwysol y llynedd? Gellid bod wedi cynnig cymaint mwy i aelwydydd sydd o dan bwysau pe na bai'r Canghellor wedi colli £11 biliwn...
Ken Skates: 3. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i bobl yn Ne Clwyd yn sgil yr argyfwng costau byw presennol? OQ58196
Ken Skates: Mewn gwirionedd, Rhun, mae'n agos iawn, ond credaf, yn gyntaf oll, mai'r hyn y mae angen inni ei wneud yw edrych ar effaith ad-drefnu yn y tymor byr. Mae Betsi Cadwaladr yn wynebu ôl-groniad enfawr ar hyn o bryd, byddai angen inni ddeall cyn inni adolygu ac arfarnu manteision posibl ad-drefnu yn hirdymor—. Credaf fod angen inni gael gwybod beth y gallai'r effaith fod yn y tymor byr o ran y...
Ken Skates: Gwnaf, wrth gwrs.
Ken Skates: Nid oes amheuaeth mai'r ddarpariaeth iechyd yw'r mater unigol mwyaf sy'n peri pryder i bobl yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd, a hynny o gryn dipyn. Ac er y byddai'r mwyafrif llethol o bobl yn y rhanbarth yn sicr yn cymeradwyo ymdrechion rhyfeddol a diflino'r gweithlu gofal iechyd, mae cryn bryder ynghylch y modd y caiff gwasanaethau eu darparu a chanlyniadau. Nawr, mae cynnig y Ceidwadwyr yn...
Ken Skates: Weinidog, rydych yn haeddu clod aruthrol am eich gwaith ar gyflwyno hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl yn nhymor blaenorol y Senedd; maent yn amhrisiadwy i filoedd lawer o bobl yma yng Nghymru. Beth yw eich asesiad o hawliau pobl anabl a llesiant pobl anabl ers 2010, o ganlyniad i fesurau Llywodraeth y DU? Yma yng Nghymru, pa fath o ddefnydd y credwch y gallwn ei wneud o bartneriaeth...
Ken Skates: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi digwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru?
Ken Skates: Yn groes i'r duedd, ni enillais i erioed gystadleuaeth am y wisg orau, ond rwy'n gobeithio y gallai hynny newid yr wythnos nesaf yn nathliadau'r Jiwbilî Blatinwm yn Rhiwabon. Hoffwn i ddechrau, serch hynny, drwy ddweud cymaint o bleser yw cyfrannu at y ddadl hon a chefnogi'r cynnig, a diolch i bob sefydliad yn Ne Clwyd sydd wedi trefnu ystod mor amrywiol o ddigwyddiadau ar gyfer dathlu'r...
Ken Skates: Diolch, Llywydd. Ydy yn wir. Roeddwn i wrth fy modd o glywed ymateb y Prif Weinidog i fy nghwestiwn i ychydig yn gynharach, ond byddwn i'n ddiolchgar hefyd pe byddai datganiad yn dod pe byddai Wrecsam yn ennill y cais i fod yn ddinas diwylliant, yn amlinellu manylion y gefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru, yn ariannol ac fel arall, oherwydd nid oes unrhyw amheuaeth na fydd y cyngor lleol yn...