Julie James: Diolch, Lywydd. Lywydd, mae'n gwbl amlwg fod yna rai gwirioneddau economaidd sylfaenol sy'n anhysbys i feinciau'r Torïaid. Nid yw twf economaidd a gweithredu ar yr hinsawdd yn amcanion sy'n gwrth-ddweud ei gilydd; byddai'r niwed economaidd mwyaf yn deillio o fethiant i atal newid hinsawdd direolaeth. Mae'r cydbwysedd y mae'n rhaid inni geisio ei sicrhau yn un sy'n osgoi polisïau sydd, drwy...
Julie James: Diolch, Llywydd. Rwy'n cydnabod yn llwyr siom yr Aelodau at y diffyg amser i graffu ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol hyn. Fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, rydym ni'n siomedig iawn bod Llywodraeth y DU wedi dewis cyflwyno gwelliannau hwyr fel hyn, ac yn wir, rydym ni'n gwybod nawr, wedi dewis cyflwyno gwelliannau pellach yn y Cyfnod Adrodd. Felly, efallai y bydd angen i mi...
Julie James: Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Bil ar lefel y DU yw hwn sydd â'r bwriad o ddiwygio'r modd y caiff darparwyr tai cymdeithasol eu rheoleiddio yn Lloegr. Mae darparwyr tai cymdeithasol o Loegr yn berchen ar tua 500 o gartrefi yng Nghymru, neu'n eu rheoli; felly, bydd y newidiadau a gynigir gan y Bil hwn yn cael effaith ar bobl sy'n byw yn y cartrefi hyn, gan y bydd y Bil yn newid y ffordd...
Julie James: Diolch, Cefin. Y polisi yw y dylid gosod ceblau trawsyrru trydan o dan y ddaear lle bo modd, nid yn unig mewn tirweddau dynodedig, ond lle bo modd. Weithiau, nid yw'n bosibl, hyd yn oed mewn tirwedd ddynodedig. Nid ydym am i neb gloddio ein mawndiroedd, er enghraifft. Felly byddem yn disgwyl i ddatblygwyr ddod o hyd i'r llwybr gorau. Weithiau, nid y llwybr byrraf fydd hwnnw, ac yna ceir...
Julie James: Diolch, Cefin. Mae angen ateb strategol arnom i ddiweddaru ein seilwaith grid i gyflawni ein hymrwymiadau sero net a rhoi mynediad at drafnidiaeth a gwres glân i bobl. Mae'r polisi cynllunio cenedlaethol yn nodi'r sefyllfa a ffafrir gennym, sef y dylai llinellau pŵer newydd fod o dan y ddaear lle bo modd a bod disgwyl i ymgysylltiad â'r cyhoedd liniaru eu heffaith mewn mannau eraill.
Julie James: Diolch, Delyth. Rwy'n deall y rhwystredigaeth yn llwyr, ac mae'n cael ei theimlo'n ddwfn mewn nifer o gymunedau. Yr anhawster yw bod hon—fel y gwn eich bod chi'n gwybod—yn broses led-farnwrol. Nid yw'n ymwneud â barnu beth sydd orau; mae'n ymwneud â dilyn proses led-farnwrol. Nid wyf yn mynd i siarad am gais unigol; nid yw'r manylion gennyf o fy mlaen. Ond yn gyffredinol, mae'r...
Julie James: Diolch, Mike. Nid wyf yn cytuno y byddai'n caniatáu i gamau gael eu rhoi ar waith. Rydym yn ymwybodol iawn o'r adeiladau hynny. Mae'r ddau ohonynt ar y cam arolwg ymwthiol; mae un ohonynt wedi'i gwblhau. Mae un o'r adeiladau heb ofyn inni dalu am arolwg roeddent eisoes wedi'i gael. Rwy'n fwy na pharod i drafod y manylion gyda chi os ydych am gyfarfod â mi yn ei gylch. Hoffem iddynt ddechrau...
Julie James: Os yw awdurdod cynllunio lleol yn gwrthod cais am ganiatâd cynllunio, gall yr ymgeisydd apelio at Weinidogion Cymru. Mae cyfraith gynllunio yn ei gwneud yn ofynnol i apeliadau cynllunio gael eu penderfynu yn unol â'r cynllun datblygu oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn dynodi fel arall.
Julie James: Ar y cynllun cefnogi lesddeiliaid, pan wnaethom ei lansio ym mis Mehefin y llynedd, dywedais y byddem yn parhau i'w adolygu bob tri mis, ac rydym wedi parhau i wneud hynny. Rydym wedi adolygu a llacio'r meini prawf cymhwysedd bob tro er mwyn cyrraedd ystod ehangach o bobl. Nawr, rydym wedi cynnwys cost gynyddol ynni yn y ffactorau caledi sy'n cael eu hystyried, ac rydym wedi caniatáu i...
Julie James: Diolch, Joel. Fel y dywedais, rydym yn ymwybodol iawn o beth yw'r sefyllfa ar bob safle. Rydym yn deall beth fu'r anawsterau. Mae gan y safleoedd sy'n weddill i gyd, y rhai nad ydynt wedi'u cwblhau eto, naill ai strwythur rheoli cymhleth ac mae wedi cymryd peth amser inni gael yr holl gydsyniadau yn eu lle ar gyfer yr arolygon ymwthiol—rwy'n credu bod gennym bob un ond dau o'r rheini yn eu...
Julie James: Diolch yn fawr, Rhys. Cyfarfûm â Lucy Frazer. Yn anffodus, newidiodd swyddi'n eithaf buan wedyn. Nid wyf yn mynd i gymryd hynny'n bersonol. Bydd rhaid imi geisio cyfarfod â'r Gweinidog tai newydd cyn gynted ag y gwn i pwy fyddant. Rwy'n cyfarfod â Michael Gove yn rheolaidd yng nghyfarfodydd y grŵp rhyngweinidogol lefel uwch lle rydym yn trafod y materion hyn hefyd, ond nid wyf wedi cael...
Julie James: Diolch, Rhys. Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill mewn perthynas â diogelwch adeiladau. Rwy'n ymgysylltu â fy nghymheiriaid yn Llywodraeth y DU a'r gwledydd datganoledig drwy gyfarfodydd y grŵp rhyngweinidogol, lle rwy'n trafod materion sy'n cynnwys diogelwch adeiladau.
Julie James: Diolch, Huw. Lywydd, mae perygl y bydd angen imi draddodi darlith awr yn ateb i bob un o'r cwestiynau hyn. Nid wyf am fod yn ormod o dreth ar eich amynedd. Digon yw dweud, Huw, ein bod eisoes wedi cyhoeddi y byddwn yn gwneud cwmni datblygu ynni sy'n eiddo i'r wladwriaeth. Rhan o bwynt hynny yw adeiladu safleoedd enghreifftiol gyda llawer o berchnogaeth gymunedol a manteisio ar yr adnoddau...
Julie James: Nid oeddwn yn hollol siŵr ble mae'r ffin. Mae'n brosiect rhagorol, ac un o'r pethau y buom yn eu trafod pan oeddem yno—cefais y fraint o'i agor, felly mae bellach yn pweru'r ysbyty, gan helpu gyda'u hôl troed carbon a'u hynni—ond un o'r pethau mawr amdano yw bod ganddo brosiect perthi ac ymylon o'i amgylch ar gyfer coed, a phlannwyd gweirglodd fioamrywiol oddi tano. Beth sydd beidio...
Julie James: Diolch, Natasha. Yn amlwg, nid wyf am wneud sylwadau ar brosiectau unigol gan mai fi yw'r Gweinidog cynllunio hefyd, felly fe wnaf sylwadau cyffredinol am hynny. Yn amlwg, rydym am weld prosiectau ynni solar, ochr yn ochr â llu o bethau eraill yn y farchnad ynni adnewyddadwy. Rydym yn dymuno gweld cymaint â phosibl o ganlyniadau gwahanol o brosiectau ynni. Felly, mae gennym ddiddordeb...
Julie James: Diolch, Natasha. Yn 2021, cynhyrchodd prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru yr hyn sy'n cyfateb i 55 y cant o’n defnydd o drydan. Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’n hadolygiad o dargedau ynni’n dangos bod cyfres o brosiectau ar y gweill i gyflawni ein targed ar gyfer 2030, llwybr uchelgeisiol ond credadwy at ein targed arfaethedig o 100 y cant erbyn 2035.
Julie James: Felly, mae'n rhaglen amlochrog yn y bôn, ac felly, yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw graddnodi'r gyllideb hyd at y pwynt lle rydym yn gwneud y gwaith cyweirio. Felly, fe welwch ein bod yn gwario llai ar ddechrau'r rhaglen gan ein bod yn cynnal arolygon. Rydym wedi gwneud rhywfaint o waith cyweirio. Rydym yn amlwg wedi gwneud gwaith cyweirio ar adeiladau cymdeithasol sy'n bodloni'r meini...
Julie James: Ydw, rwy'n ymwybodol iawn o hyn hefyd. Mae un o'r asiantau rheoli mwyaf wedi bod yn fy ngweld yn ddiweddar iawn. Mae llawer iawn o bobl yn fy etholaeth yn wynebu'r broblem hon, felly rwy'n ymwneud â'r mater yn lleol hefyd. Weithiau, mae'n anodd gwahanu diogelwch yr adeilad oddi wrth faterion sy'n ymwneud ag adeiladwaith, a all fod yn gymhleth hefyd. Felly, rydym yn edrych i weld a allwn...
Julie James: Ydw, Janet, rwy'n ymwybodol iawn o ddatganiadau amrywiol Michael Gove. Cyfarfûm yn ddiweddar iawn â’r Gweinidog tai ar y pryd, sydd bellach yn Weinidog dros ddiwylliant, y cyfryngau a chwaraeon, rwy’n credu—mae’n anodd dal i fyny—i siarad am hyn. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod gyda Michael Gove hefyd, ond nid wyf wedi cael un ers ei ailymgnawdoliad. Mae'r rhaglen yma bron yn union yr...
Julie James: Ie, diolch, Janet. Felly, yn benodol, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid grant yn ddiweddar i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddatblygu achos busnes llawn ar gyfer Llandudno, yn seiliedig ar gynnal a gwella’r amddiffynfa bresennol o goblau ar draeth y gogledd. Nid yw'r opsiwn i ailgyflenwi tywod yn darparu unrhyw fudd ychwanegol o ran llifogydd, a byddai'n costio llawer mwy i'r...