Lee Waters: Wel, byddai’n well gennyf beidio, Lywydd. Mae'r holl synau cefndirol hyn yn mynd â sylw rhywun—gofyn cwestiwn pan nad yw'n fodlon gwrando ar yr ateb.
Lee Waters: Touché, Lywydd. [Chwerthin.] Roedd yn anodd clywed yr wybodaeth ychwanegol roedd Natasha Asghar yn ceisio'i darparu. Y ffaith amdani yw, y cwestiwn sylfaenol y mae angen inni ofyn i'n hunain yw a ydym yn credu y dylai Cymru gael maes awyr. Os credwn y dylai Cymru gael maes awyr, mae methiant yn y farchnad, felly nid yw’r sector preifat ynddo’i hun yn mynd i ddarparu’r maes awyr hwnnw....
Lee Waters: Wel, mae'r lefel o anwybodaeth yn syfrdanol, a dweud y gwir, ynglŷn â'r realiti sy’n ein hwynebu. Nid oes gan y sector preifat ddiddordeb mewn maes awyr nad yw'n gwneud arian. Ychydig iawn o feysydd awyr, ledled y byd, sy’n gwneud arian, a hoffwn herio Natasha Asghar i roi enghreifftiau i mi o feysydd awyr y mae’n credu y dylem eu modelu, o bob rhan o’r byd, sy’n gwneud elw....
Lee Waters: Iawn. Wel, rwy'n gwrthod y disgrifiad hwnnw'n llwyr. Bu gostyngiad sylweddol yn y galw am wasanaeth bws T9, fel y dylai’r Aelod wybod, fel llawer o wasanaethau bysiau ar draws y diwydiant bysiau, ledled y wlad, i bob llywodraeth. Nid yw lefelau teithwyr wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig, felly mae'n rhaid inni wneud penderfyniad ymarferol ynglŷn â'r lle gorau i roi’r cymhorthdal,...
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn. Wel, ni welodd unrhyw un hyn yn dod gan ei fod yn benderfyniad gan y cwmni, yn wyneb yr hyn a alwyd ganddynt yn amodau macro-economaidd, i dynnu’n ôl o’r maes awyr; maent wedi tynnu'n ôl o feysydd awyr eraill hefyd. Mae'r diwydiant cyfan yn wynebu pwysau sylweddol oherwydd chwyddiant a chostau cynyddol ynni. A hefyd, mae hedfan yn sector a chanddo fodel busnes...
Lee Waters: Ie, diolch, ac mae Russell George yn llygad ei le fod rhai anawsterau wedi bod ar reilffordd y Cambrian. Mae’r system reilffordd gyfan ledled y wlad wedi cael hydref anodd. Bydd y trenau newydd yr ydym yn eu cyflwyno ar reilffordd y Cambrian y flwyddyn nesaf yn gallu cludo mwy o deithwyr. Bydd mwy o gapasiti, ac wrth gwrs, bydd eu hamlder yn cynyddu i bob awr. Roeddem wedi gobeithio eu...
Lee Waters: Ie, diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £800 miliwn ar fflyd newydd o drenau a fydd yn gwasanaethu teithwyr ledled Cymru. Bydd hyn yn gwella cyfleusterau a chyfforddusrwydd teithwyr, ac mae’r trenau newydd sbon hyn bellach yn rhedeg yng ngogledd Cymru, a byddant yn cael eu cyflwyno ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru eleni a’r flwyddyn nesaf.
Lee Waters: Rwyf wedi cael fy nghalonogi yn fawr gan y gwaith yng Nghasnewydd, yn Abertawe ac yng Nghaerdydd ar gynnig teithio am ddim ar fysiau ar gyfnodau penodol, ac mae wedi gweithio. Mae gennym ddata bellach i ddangos ei fod yn llwyddiannus ac mae digon o dystiolaeth ryngwladol hefyd, o Dunkirk i nifer o ddinasoedd ledled y byd lle mae teithio ar fysiau am ddim yn effeithiol. Y gwir amdani, er...
Lee Waters: Yn sicr, a byddwn i'n hapus iawn i friffio Aelodau ac annog Aelodau i gymryd rhan mewn cyfarfod bord gron eu hunain gyda mi ar unrhyw syniadau sydd ganddyn nhw i helpu i lywio ein ffordd o feddwl. Yn y bôn, mae hyn yn rhan o strategaeth trafnidiaeth Cymru. Rydym ni'n amlinellu rhai meddyliau cychwynnol, gan edrych ar enghreifftiau eraill yn rhannau eraill o'r DU ac ar y cyfandir sut y mae...
Lee Waters: Wel, rwy'n cytuno'n llwyr bod hyblygrwydd yn allweddol yn y fan yma, ac wrth i ni wneud y gwaith gyda Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdodau lleol sy'n nodi lle mae rhwydwaith bysiau gorau posibl yn mynd, bydd lle ar gyfer gwasanaethau safonol wedi'u hamserlenni a bydd lle i wasanaethau cyflenwol, hyblyg, sy'n ymateb i'r galw. Fel mae Huw Irranca yn gwybod, rydyn ni wedi bod yn treialu'r...
Lee Waters: Wel, diolch i Carolyn Thomas am barhau i hyrwyddo bysiau. Mae wedi bod yn fater polisi sydd wedi'i esgeuluso yn rhy hir, a ddim yn cael ei ystyried yn ffasiynol, ac rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni newid hynny, ac mae hi'n gwneud gwaith gwych yn arwain y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus i'r perwyl hwnnw. Mae'r cwestiwn o sut bydd y toriadau yn effeithio yn un perthnasol a...
Lee Waters: Mae'n ddrwg gen i, allwch chi fy nghlywed i nawr?
Lee Waters: Mae'n ddrwg gen i.
Lee Waters: Ydw, yn amlwg dydw i ddim yn gwybod ar ba bwynt y colloch chi fi, a dydw i ddim yn mynd i osod prawf i weld pwy oedd yn talu sylw, oherwydd byddwn i'n siomedig gyda'r canlyniad, rwy'n siŵr. [Chwerthin.] Felly, soniais i am y pwynt ar dlodi trafnidiaeth—dydw i ddim yn siŵr a gafodd hynny ei gofnodi—sy'n hollbwysig. Mae'r mater o ddiogelwch menywod, y soniodd Delyth Jewell amdano, yn...
Lee Waters: Maddeuwch i mi. Ydych chi'n cael trafferth fy nghlywed i?
Lee Waters: Wel, diolch am y gyfres yna o gwestiynau a oedd wedi'u targedu'n dda. Felly, fel rwy'n dweud, mae angen i ni wneud defnyddio bysiau yn beth normal eto. Roedd yn arfer bod yn normal. Mae wedi stopio bod yn normal. Nid yw dros hanner y bobl byth yn defnyddio bws. Trwy ddiffiniad mae'n rhywbeth nad oes gan lawer o bobl unrhyw brofiad ohono, ac mae hynny'n beth hanfodol ar gyfer newid os ydym ni...
Lee Waters: Diolch am y cwestiynau yna. Mae yna lawer ohonyn nhw, ac fe wnaf fy ngorau i'w hateb, ond rwy'n croesawu yn gynnes ddatganiad Natasha Asghar ei bod yn derbyn rôl masnachfreinio ac yn gofyn sut rydym yn ei gwneud yn fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn gyflawnadwy, ac mae hyn, rwy'n credu, wrth wraidd y peth, mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod angen i ni ddatgysylltu sut rydych chi'n gwneud y...
Lee Waters: Felly, wrth i ni edrych ar wyddoniaeth noeth newid hinsawdd, ac wrth i ni ystyried cyngor Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, nid yw'r trosglwyddiad at geir trydan yn ddigon. Mae angen i ni fod â llai o deithio mewn ceir a newid dulliau teithio o ddibyniaeth ar geir i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ar gyfer cyrraedd sero net, mae'n rhaid i ni gydnabod canologrwydd y system fysiau. Mae...
Lee Waters: Diolch, Dirprwy Llywydd. Yn gynharach eleni, fe wnaethom ni gyhoeddi Papur Gwyn, yn nodi ein cynlluniau i ddod â'r gwasanaethau bysiau dan reolaeth gyhoeddus unwaith eto yng Nghymru. Roedd y teitl yn crisialu ein huchelgais ni: 'Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn'. Ac ar gyfer ymateb i her enbyd newid hinsawdd, mae angen i ni fod â mwy o bobl yn defnyddio mathau cynaliadwy o drafnidiaeth....
Lee Waters: Wel, rwy'n falch fod yr Aelod wedi sôn am gynllun Morlais ar Ynys Môn, sy'n gynllun ardderchog a wnaed yn bosibl drwy arian Ewropeaidd—cyllid nad yw ar gael i ni mwyach, ac ni chafwyd arian yn ei le er gwaethaf yr addewid gan Lywodraeth y DU na fyddem geiniog yn waeth ein byd. Felly mae ein gallu i wneud cynlluniau tebyg i un Morlais wedi'i rwystro gan Brexit a methiant Llywodraeth y DU i...