Rhun ap Iorwerth: A gaf i wneud sylw yn gyntaf am y cynnig codi'r cyflog o 1.5 y cant, achos dim ond y swm hwnnw sy'n cael ei ystyried fel codiad cyflog, nid y bonws, wrth gwrs? Dwi'n hollol glir nad ydy o'n ddigon i wneud i fyny am flynyddoedd lawer o dorri cyflog mewn termau real, ond mae'n hollol iawn mai aelodau undebau eu hunain rŵan fydd yn penderfynu pa un ai i'w dderbyn o a'i peidio. O ran y mater...
Rhun ap Iorwerth: Mi fuaswn i'n licio gofyn am ddadl a datganiad ar frys yn amser y Llywodraeth ar ddyfodol deintyddiaeth yng Nghymru, achos mae'n rhaid i fi ddweud ei bod hi'n anodd gweld dyfodol i ddeintyddiaeth NHS yng Nghymru ar hyn o bryd. Flwyddyn yn ôl, mi oedd yna naw deintyddfa yn darparu gwasanaethau NHS yn Ynys Môn. Erbyn hyn, dim ond chwech sydd yna. Deintyddfa yng Nghaergybi ydy'r diweddaraf i...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Weinidog. Rydyn ni yn tynnu am bythefnos rŵan ers y cyhoeddiad—cyfnod byr oedd yr ymgynghoriad i gyd. Ac, er ei bod hi'n amlwg o'r cychwyn mai'r perig ydy bod hwn yn benderfyniad sydd eisoes wedi ei wneud, mae hi'n allweddol, wrth gwrs, mai'r flaenoriaeth ydy gweld a oes unrhyw beth y mae modd ei wneud er mwyn newid meddwl y cwmni. Ond, mae'n rhaid ar yr un pryd baratoi am y...
Rhun ap Iorwerth: 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad y 2 Sisters Food Group ar gau ei safle yn Llangefni? OQ59108
Rhun ap Iorwerth: Am wn i, y peth cyntaf i'w ddweud ydy fy mod i'n falch bod gennym ni gynllun canser erbyn hyn, a dwi'n edrych ymlaen, gobeithio, i'w weld o'n gwneud gwahaniaeth. Dŷn ni'n gwybod bod ein cyfraddau goroesi ni ddim yn ddigon da. Dŷn ni'n gwybod bod yna bobl—rôn i'n siarad efo un ffeindiodd allan yn rhy hwyr dros y penwythnos yma fod canser arno fo—mae gormod o bobl yn methu â chael y...
Rhun ap Iorwerth: Mae'n hanfodol er mwyn diogelwch bwyd ein bod ni yn hybu a gwarchod cynhyrchiant bwyd, ond hefyd yn hybu a gwarchod prosesu bwyd. A dwi'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog, yn ei rôl fel Gweinidog materion gwledig a bwyd, ynghyd â'r Gweinidog yr Economi, am gytuno i'm cyfarfod i yn ddiweddarach heddiw yma i drafod y camau brys sydd eu hangen yn wyneb y cyhoeddiad ar yr ymgynghoriad ar gau...
Rhun ap Iorwerth: Oes. Rwy'n ystyried derbyniad y Llywodraeth ein bod yn gwneud y galwadau cywir fel rhywbeth cadarnhaol, ei bod yn credu ei bod yn symud i'r cyfeiriad cywir ar staff asiantaeth; rydych chi'n dweud pethau nawr nad oeddech chi'n eu dweud wythnos yn ôl ar staff asiantaeth.
Rhun ap Iorwerth: Wel, ydy. Fe wrthododd y Prif Weinidog drafod gweithwyr asiantaeth mewn unrhyw ffordd negyddol yn y Senedd yr wythnos diwethaf. Ond gadewch inni barhau gyda'r ddadl ddifrifol. Byddwn yn parhau i wthio'r cynllun pum pwynt hwn, fel y bydd ein partneriaid, oherwydd mae angen inni ddod â'n holl syniadau at y bwrdd i ddatrys y problemau sy'n wynebu'r GIG.
Rhun ap Iorwerth: Yn sylwadau agoriadol y gynhadledd honno, defnyddiwyd y gair 'argyfwng' yn wir, ac rwy'n siŵr y bydd eich cymheiriaid Llafur yn yr Alban a Lloegr yn nodi eich bod yn anghytuno â'u hasesiad o gyflwr y GIG. Ond fe ddywedoch chi fod angen dadl ddifrifol arnom, ac mae'n ddadl ddifrifol. Clywsom gyfraniadau difrifol gan Jane Dodds, gan John Griffiths, gan Aelodau ar fy meinciau i, Russell...
Rhun ap Iorwerth: Rydych chi wedi sicrhau bod hynny'n cael ei gofnodi heddiw. Bydd gwaddol Margaret Thatcher ar gof a chadw am byth gyda'r difrod a achoswyd i gymunedau Cymru. Yn ôl at gyfraniad Rhianon Passmore, rydym yn rhannu delfryd gyffredin am egwyddorion y GIG, yr egwyddorion y seiliwyd y GIG arnynt, a chyda'n gilydd, rydym eisiau diogelu'r egwyddorion allweddol hynny. Roedd hi'n iawn hefyd i ddweud...
Rhun ap Iorwerth: Wrth gwrs.
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. I bawb ohonom gael ein gwynt atom, fe ddechreuaf drwy roi ychydig o sylw i gyfraniad Gareth Davies, a siaradodd fel y gwnaeth am ymroddiad Margaret Thatcher i Gymru. Mae gennyf well cof am y ffordd y dinistriodd hi Gymru yn ei chyfnod fel Prif Weinidog. Wyddoch chi beth, ar y meinciau hyn, y Blaid Lafur a ninnau, rydym yn rhannu dirmyg tuag at yr hyn a...
Rhun ap Iorwerth: Gyda phleser.
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad byr?
Rhun ap Iorwerth: Mae'n ddrwg gennyf os na chafodd ei wneud yn glir mai cynllun yw hwn a gydgynhyrchwyd gyda'r cyrff iechyd proffesiynol sy'n dweud nad yw Llywodraeth Cymru'n gweithredu ar y rhain.
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad arall?
Rhun ap Iorwerth: Fe bwysleisiaf eto ein bod wedi cynllunio'n union faint ac o ble y byddai'r arian yn dod—y £175 miliwn y byddem yn ei gyflwyno o gronfeydd heb eu dyrannu ac ailflaenoriaethu. Rydym wedi ei nodi'n glir iawn.
Rhun ap Iorwerth: Y rhan arall o hyn yw'r taer angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r cynnydd a welsom mewn gwariant ar asiantaethau—£260 miliwn wedi'i wario ar asiantaethau yn 2022. Nid yw hwnnw'n ffigur bychan. Bu cynnydd o 40 y cant mewn cyfnod byr iawn o amser, a golyga hynny fod arian yn llifo o'r GIG i goffrau cwmnïau preifat fel elw. Rydym yn dymuno gweld, ac yn llwyr gefnogi rolau a gaiff eu...
Rhun ap Iorwerth: Nid yw’n gyfrinach ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn credu mai’r cam cyntaf i greu’r sylfeini ar gyfer GIG cynaliadwy yw talu gweithwyr yn deg. Honnodd y Prif Weinidog yn ddiweddar y byddai gwneud cynnig cyflog gwell yn golygu mynd ag arian oddi wrth iechyd, ond mae honno’n ffordd mor ffug o edrych ar y sefyllfa, gan mai darparu dyfarniad cyflog credadwy a sylweddol—nid rhywbeth untro,...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wythnos yn ôl, mi oeddem ni'n trafod cynnig gan Blaid Cymru yn galw am ddatgan creisis iechyd yng Nghymru. Yn yr un modd ag y mae arweinydd Llafur wedi galw sefyllfa'r NHS yn Lloegr yn greisis, a Llafur yn yr Alban yn galw sefyllfa'r NHS yn yr Alban yn greisis, mi oeddem ni'n eiddgar i weld Llafur mewn Llywodraeth yng Nghymru yn cydnabod y creisis yma. Gwrthod...