Jeremy Miles: Mae yna farn wahanol, Ddirprwy Lywydd, ynghylch defnyddio technolegau biometrig ar draws pob agwedd ar gymdeithas. Mae'n fater cymhleth ac mae'n fater sensitif. Mae technoleg yn datblygu'n gyflym yn ein bywydau bob dydd, ac o'i defnyddio yn y ffordd gywir, gall gynnig manteision diamheuol, gan wneud agweddau ar ein bywydau yn haws, yn fwy effeithlon ac yn fwy diogel. Ond mae'n bwysig bod y...
Jeremy Miles: Rŷm ni'n gobeithio y bydd pob un ohonoch chi, o ba bynnag blaid neu ba bynnag brofiad ieithyddol, yn ymrwymo heddiw ar Ddydd Gŵyl Dewi i weithio drwy'r flwyddyn i greu Cymru lle gall cenedlaethau'r dyfodol ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac fel byddai Dewi Sant rwy'n sicr yn dweud pe tasai e'n cyfrannu i'r ddadl hon: byddwch lawen, gwnewch y...
Jeremy Miles: Fel y gŵyr yr Aelod o'n trafodaethau blaenorol, rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid mewn perthynas â'r her anodd i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ac yn ffodus, fel y gŵyr, mae gennym gynllun 10 mlynedd rydym wedi bod yn gweithio arno gyda'n gilydd, ac sy'n ganlyniad i lawer o greadigrwydd ac ymrwymiad ledled Cymru, a diolch i'n holl...
Jeremy Miles: Yn sicr.
Jeremy Miles: Wel, does dim sifft, a does dim diystyru. Y llinyn mesur yw'r cyfrifiad, ond mae'n rhaid edrych ar y cyd-destun ehangach os ydyn ni'n moyn seilio'n polisi ar ffaith yn hytrach na'r hyn hoffem ni ei weld. Felly, dyna pam mae edrych ar y darlun ehangach mor bwysig. Ond, fel roeddwn i'n dweud, mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n edrych ar y gwaith fydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ein helpu ni...
Jeremy Miles: Gwnaf.
Jeremy Miles: Wel, Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb. A dyma gofio nid jest ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi mae'r Gymraeg, ond ar gyfer bob dydd, a faint bynnag o Gymraeg sydd gyda chi, defnyddiwch hi bob cyfle y gallwch chi: defnydd, defnydd, defnydd yw'r ateb. Gaf i ddweud, dwi ddim wedi clywed Tom Giffard, Gareth Davies na James Evans erioed yn siarad cymaint o Gymraeg, felly llongyfarchiadau iddyn nhw ar wneud eu...
Jeremy Miles: Yn ffurfiol.
Jeremy Miles: Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, rwy’n deall y pryderon nad yw'r lwfans cynhaliaeth addysg wedi cynyddu ers peth amser, a chroesawaf y farn y mae Aelodau wedi’i mynegi ynghylch lle gallwn wella ein hymrwymiad i bobl ifanc ymhellach. Rwy’n sylweddoli bod pobl ifanc hefyd yn teimlo straen ariannol yr argyfwng costau byw presennol yn fawr iawn. Rydym yn parhau i fodelu pa effaith y gallai...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd Aelodau'n gwybod o drafodaethau a chwestiynau blaenorol ar y pwnc hwn ein bod ni fel Llywodraeth yn cydnabod yr effaith bositif y mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gallu ei gael ar bobl ifanc, ac rŷn ni'n dal i ymrwymo yn unol â’r rhaglen lywodraethu i gynnal y lwfans. Ochr yn ochr gyda'n hymrwymiadau eraill i bobl ifanc ac â chyllideb flynyddol o £17...
Jeremy Miles: Mae'n gwestiwn pwysig. Wrth gwrs, prif bwrpas hyn yw sicrhau bod y ffordd rŷn ni'n dysgu myfyrwyr yn gallu cyrraedd y rhan fwyaf sydd yn bosib, felly, fod cyfle ehangach gyda phobl i allu cael mynediad at gyrsiau amrywiol, ac mae galw gwahanol mewn ardaloedd gwahanol am gyrsiau ymhlith ein colegau ni. Ond mae e hefyd yn gyfle—fel roeddwn i'n sôn yn fras yn gynharach gyda Sioned...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Rwy'n gwybod y bydd hi'n croesawu'r gwaith sydd eisoes ar waith i gynyddu'r niferoedd sydd yn medru dysgu gwyddorau a mathemateg a chyfrifiadureg, yn cynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys cymhellion ariannol sydd yn gallu bod yn rhai sylweddol, a hefyd initiatives eraill i ddenu pobl i mewn i'r proffesiwn. Gwnaeth hi...
Jeremy Miles: Gallaf, yn sicr. Yn rhan o'r buddsoddiad o dros £30 miliwn yr ydym ni wedi ei wneud i ehangu darpariaeth ddigidol gan y sector addysg bellach yn y blynyddoedd diwethaf—dyna fydd y ffigur erbyn diwedd blwyddyn academaidd 2024-25—un o'r meini prawf allweddol ar gyfer buddsoddi hwnnw yw gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael mynediad at y ddarpariaeth sy'n deillio o hynny. Bydd yr Aelod...
Jeremy Miles: Rwy'n disgwyl y bydd cynlluniau strategol colegau yn nodi uchelgeisiau tymor hwy ar gyfer dysgu digidol, ond yn canolbwyntio'n fwy manwl ar y cyfnod rhwng 2023 a 2025, tra bod y comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yn cael ei sefydlu. Mae technoleg ddigidol yn cynnig potensial enfawr i helpu i gyflawni nodau allweddol y comisiwn o gryfhau cydweithrediad ar draws y sector...
Jeremy Miles: Mae amcanion 'Cymraeg 2050', ein strategaeth ar gyfer cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg, yn greiddiol i hyn hefyd. Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn gweithio gydag ystod o ymyraethau i gynyddu defnydd o'r Gymraeg, a hefyd sgiliau a hyder yn y Gymraeg yn y sector addysg bellach, yn helpu colegau ac ymarferwyr i ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi dysgwyr a'u gallu i ddod o hyd...
Jeremy Miles: Hoffwn i'n sector addysg bellach yng Nghymru fod ar flaen y gad o ran arloesedd, creadigrwydd a chydweithio. Rwy'n falch iawn o weld sawl enghraifft o'r math hwn o weithgarwch yn ein sector addysg bellach. Mae ein colegau yn rhannu gwybodaeth a phrofiadau o archwilio'r defnydd o realiti rhithwir ac estynedig, gan archwilio partneriaethau creadigol gyda diwydiannau uwch-dechnoleg, a gweithio...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Dros y tair blynedd diwethaf, rŷn ni wedi gweld newid mawr yn natblygiad dysgu digidol ar raddfa na allen ni erioed fod wedi ei rhagweld cyn pandemig COVID-19. Dwi am dalu teyrnged i ymroddiad ein staff a'n harweinwyr ar draws y sector addysg a weithiodd i gynnal brwdfrydedd ein dysgwyr yn ystod cyfnod o her na welwyd ei thebyg o'r blaen. Mae'n amser nawr i edrych...
Jeremy Miles: Mae'r cysylltiad rhwng presenoldeb a chyrhaeddiad addysgol yn glir wrth gwrs. Mae cyfnodau parhaus o absenoldeb o'r ysgol yn creu risg wirioneddol i gyrhaeddiad plentyn, a gall hefyd arwain at wneud iddynt deimlo'n fwy datgysylltiedig o'u haddysg. Mae monitro canlyniadau addysgol a'r cysylltiadau â chyfraddau presenoldeb yn ystyriaethau hanfodol fel rhan o ddatblygu'r ecosystem ddata newydd....
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am yr adroddiad pwysig hwn. Yr hyn sy'n glir i mi wrth feddwl am yr argymhellion ydy pwysigrwydd ystyried presenoldeb ochr yn ochr â dylanwadau a ffactorau eraill, fel rŷn ni wedi clywed heddiw, fel statws economaidd-gymdeithasol, llesiant a materion systemig ehangach. Mae taclo effaith tlodi ar...
Jeremy Miles: Wel, nid oes yr un ohonom yn dymuno clywed y mathau o enghreifftiau y mae Mark Isherwood wedi’u disgrifio yn ei gwestiwn heddiw, ac os hoffai ysgrifennu ataf yn benodol ynglŷn ag unrhyw un ohonynt, byddwn yn fwy na pharod i fynd i'r afael â hynny. Mewn perthynas â sicrhau bod y diwygiadau'n effeithiol, rydym yn sicrhau bod cyllid ychwanegol yn y system, eleni ac ar gyfer y ddwy flynedd...