Bethan Sayed: Ni wnaf ailadrodd y dadleuon ynglŷn â pham y mae angen inni weithredu ar hyn. Mae newid hinsawdd yn realiti a byddwn yn gweld mwy o'r digwyddiadau digyffelyb hyn yn y dyfodol. Ond mae fy rhanbarth i, fel llawer o rai eraill, wedi cael ei effeithio a bûm yn siarad â phobl ers dydd Sul sydd wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol ynglŷn â sut y newidiodd hyn eu bywydau dros nos. O ran y...
Bethan Sayed: [Anghlywadwy.]
Bethan Sayed: Diolch. Wrth gwrs, mae cynyddu gwasanaethau ac ehangu'r rhwydwaith yn rhywbeth y gwn ei fod wedi ei drafod ddoe yn y datganiad ar gynlluniau metro rhanbarthol de Cymru, ac adlewyrchwyd y nod hwnnw mewn cyfarfod a gefais gyda Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar. Rwyf wedi siarad â llawer o bobl sy'n dweud wrthyf am y problemau capasiti, a gwn eich bod wedi sôn am Network Rail, ond yn benodol, yn...
Bethan Sayed: 4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r awdurdodau perthnasol ynghylch cynyddu capasiti trenau ar brif reilffordd de Cymru? OAQ55129
Bethan Sayed: Roedd y datganiad cyntaf yr oeddwn i eisiau gofyn amdano gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, mewn gwirionedd, yn ymwneud â'r sīon yr ydym ni'n eu clywed gan Lywodraeth y DU y gall fod newidiadau i ffi trwydded y BBC, ac y gallai, efallai, newid i fod yn wasanaeth tanysgrifio. Rwy'n gwybod nad yw hyn i gyd wedi'i gadarnhau, ond wrth gwrs bydd gan hyn oblygiadau i Gymru o ran BBC Cymru a hefyd...
Bethan Sayed: Yn ddiweddar, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi penderfynu ystyried cynnig gan S4C ar gyfer y rhaglen Gymraeg Bang. Maen nhw eisiau codi celf ar y stryd yn yr ardal i ddathlu ac i hyrwyddo'r rhaglen, ond mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot, yn ei ddoethineb, yn mynd i ystyried hyn yn hysbyseb yn hytrach na darlun, fel y clywsom gyda slogan arall yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr gerllaw....
Bethan Sayed: Diolch am eich ateb. Gwn fod llawer o Aelodau'r Cynulliad yn trefnu digwyddiadau, a gwyddom, o bosibl, pa mor gostus y gall peth o'r bwyd fod yma. Mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol o'r angen i archebu'r hyn sydd ei angen arnom ar gyfer digwyddiadau o'r fath, fel nad ydym yn gor-archebu, ac fel y gallwn sicrhau bod gwesteion yn gallu mwynhau eu hunain a mwynhau'r lluniaeth a rown iddynt. Ond...
Bethan Sayed: Fy nghwestiwn i, i gloi, yw: beth rydym am ei wneud i allu darparu ar gyfer pobl Palesteina ac Israel er mwyn iddynt allu byw'n gytûn gyda'i gilydd yn y dyfodol, ac fel y gallwn geisio dod o hyd i ateb heddychlon i bawb mewn modd nad yw wedi'i adlewyrchu yn y cynllun hwn?
Bethan Sayed: Diolch am hynny. Mae'n fwy cynhwysfawr na'r hyn roeddwn wedi disgwyl ei glywed heddiw. Rydym i gyd yn gwybod mai Israel a Phalesteina, y gwrthdaro a'r anghydfod, yw'r broblem geowleidyddol sydd wedi para hwyaf yn y byd, ac mae'r anallu i'w datrys wedi arwain at effaith eang a niweidiol iawn ar y cysylltiadau rhwng y byd Mwslimaidd a gwledydd y gorllewin. Fel rydych wedi'i nodi, mae safbwynt...
Bethan Sayed: 2. Pa sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r cynllun heddwch ar gyfer gwladwriaeth Palesteina ac Israel a argymhellwyd yn ddiweddar gan Unol Daleithiau America? OAQ55045
Bethan Sayed: 5. A wnaiff y Comisiwn amlinellu ymdrechion i leihau gwastraff bwyd ar ystâd y Cynulliad? OAQ55049
Bethan Sayed: Yn seiliedig ar yr ystadegau hynny yn unig, a fyddech chi'n cytuno â mi, felly, y dylem ni wneud popeth y gallwn ni yn erbyn Gweinidog newydd y DU a ddywedodd y byddai 'wrth ei fodd' o gael uwch-garchar newydd yma yng Nghymru?
Bethan Sayed: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Bethan Sayed: Mae cam 1 diwygiadau Diamond, sef y diwygiadau sy'n wynebu myfyrwyr, yn cael eu gweithredu ac wedi cael eu gweithredu; ond rydym ni'n sôn yn y fan yma am gam 2, yn ymwneud â'r diwygiadau sefydliadol. Rwy'n croesawu'r cynnydd i nifer y myfyrwyr rhan-amser, ac rwy'n myfyrio ar y ffaith bod hyn yn gwella yng Nghymru. Ond rwyf i wedi siarad â rhai sefydliadau addysg uwch sy'n dweud, yn unol...
Bethan Sayed: Mae'n debyg bod yr ail fater yr hoffwn i ei godi yn fwy yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y pwyllgor diwylliant. Ddoe, efallai eich bod wedi gweld yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth wedi dweud y bydd rhyddhad o 50 y cant i ardrethi busnes i fusnesau bach a chanolig eu maint sy'n lleoliadau cerddoriaeth ledled Cymru a Lloegr. Yn eu datganiad, maen nhw wedi dweud y bydd 230 o leoliadau...
Bethan Sayed: Hoffwn i gael datganiad ar lafar gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â beth sy'n digwydd nawr gyda'r fframwaith anhwylderau bwyta yn sgil y ffaith fod yr adolygiad hynny wedi digwydd. Gwnaethom ni gael cyfarfod y grŵp trawsbleidiol yr wythnos diwethaf, ac mae yna gonsyrn ynglŷn â faint o arian sydd yn mynd i fynd at y newidiadau, beth mae'r byrddau iechyd penodol yn mynd i allu ei wneud, ac...
Bethan Sayed: Roeddwn eisiau gwybod, o'r £24 miliwn—. Gan fy mod yn cadeirio'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu; fe ofynasom i'r Gweinidog a ddaeth yno faint o'r arian hwnnw a fyddai'n mynd tuag at brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Oherwydd ni chawsom wybodaeth lawn ynglŷn â faint fyddai hynny, ac os gallech egluro, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.
Bethan Sayed: Diolch. Rwy'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl hon. Nid wyf am fynd drwy'r cynnig cyfan, oherwydd credaf ein bod wedi mynegi llawer o hynny mewn dadl flaenorol, felly fe af drwy'r gwelliannau. Credaf ei bod braidd yn eironig fod y Torïaid yn dweud eu bod am i bobl gyflawni eu potensial, gan fod ein gwelliant cyntaf yn rhywbeth a allai gael ei fygwth gan hynny, oherwydd yr ansicrwydd...
Bethan Sayed: A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru?
Bethan Sayed: Diolch am yr ateb yna. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno llawer o wahanol arferion o ran rheolaeth drwy orfodaeth, ac rwyf i'n croesawu hynny, a byddwch yn gwybod, o'r ddadl yr wythnos diwethaf a gawsom ar dreisio—dadl Plaid Cymru—fy mod i wedi cynnal digwyddiad gyda David a Sally Challen yn adeilad y Senedd. A'r hyn a'm trawodd i oedd na fydd llawer o'r dioddefwyr yn gwybod bod...