Carl Sargeant: Yn sicr nid wyf yn croesawu cyflwyno’r credyd cynhwysol fel y mae, ac rwyf wedi mynegi hynny mewn llythyr cryf at y Gweinidog yn San Steffan. Mae hyn yn cael effaith ddinistriol ar deuluoedd a phlant ledled Cymru. Mae’n angen ei stopio yn awr a’i ailasesu o ran sut y dylid ei gyflwyno yn y dyfodol.
Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am godi’r mater hwnnw gyda mi heddiw. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn iddynt roi stop ar gyflwyno’r credyd cynhwysol. Nid oedd egwyddor y rhaglen credyd cynhwysol yn anghywir, ond nid yw’n gweithio’n iawn ac mae pobl yn cael eu heffeithio a’u trawmateiddio yn y ffordd y maent yn byw eu bywydau. Yn wir, mae aros am chwe wythnos—....
Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod ac yn bryderus iawn am yr effaith ddinistriol y mae diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn ei chael ar deuluoedd incwm isel, yn enwedig teuluoedd â phlant. Amcangyfrifir bod y colledion blynyddol cyfartalog oddeutu £600 y cartref yn yr is-ranbarth y mae’r Aelod yn ei gynrychioli, o’i gymharu â £300 y cartref yn yr is-ranbarthau yr effeithiwyd...
Carl Sargeant: Wel, mae’n ymddangos mai’r unig berson sydd wedi drysu yma yw chi. Mae’r cyrff cyflawni arweiniol mewn cysylltiad rheolaidd ac yn cael eu hannog i siarad â fy swyddogion. Os oes unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynglŷn â’r cyfnod pontio neu faterion staffio cysylltiedig, maent yn fwy na hapus i siarad â fy nhîm yn y broses honno, ond mae’r Aelod wedi cael ei chamarwain o ran ei...
Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am grybwyll hyn, ac mae llawer o Aelodau eraill hefyd wedi gwneud hynny. Diolch i chi am hynny. Rwy’n cytuno mai un o’r blaenoriaethau yw sicrhau bod staff Cymunedau yn Gyntaf yn cael eu cefnogi drwy’r cyfnod pontio hwn, ac mae’n flaenoriaeth bwysig. Rwy’n ymwybodol fod fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda chyrff cyflawni arweiniol i sicrhau bod y...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Cafodd tîm pontio Cymunedau yn Gyntaf ei sefydlu i gynorthwyo cyrff cyflawni arweiniol Cymunedau yn Gyntaf gyda chynllunio a chynghori staff. Cafwyd trafodaethau parhaus gyda staff awdurdod lleol a staff ac undebau’r trydydd sector. Mae gan gyrff cyflawni arweiniol gynlluniau pontio ar waith i lywio’r gwaith o gyflawni’r rhaglen yn ystod 2017-18.
Carl Sargeant: The latest research indicates that Flying Start makes a difference to children’s lives, including developmental improvements. Outcomes for families in Flying Start areas may now be comparable with families in less disadvantaged areas. We are piloting a project to better understand the health and educational outcomes of Flying Start children.
Carl Sargeant: Almost 84,000 landlords are now registered with Rent Smart Wales, and over 90 per cent of all agents are now fully licensed. One hundred and twenty-five fixed penalty notices have been issued for non-compliance. There have also been three successful prosecutions for non-compliance.
Carl Sargeant: The Welsh Government is fully committed to the rights of children, as expressed in the United Nations Convention on the Rights of the Child, including children’s right to know and, as far as possible, to have access to both parents.
Carl Sargeant: Wel, efallai mai dyma'r achos nawr, ond mae'n rhaid i mi ddweud nad dyna'r ddadl a grëwyd yn ystod y rhaglen Brexit y gwnaeth pob un ohonom ni ei dilyn. Yn anad dim, mae’n sicr nad yw beirniadu pobl yn ôl lliw eu croen neu eu hiaith yn briodol o ran symud ymlaen. Llywydd, mae'n bwysig pwysleisio bod gwahaniaethau barn yn y Siambr hon, ond ni fydd hyn yn tanseilio'r consensws...
Carl Sargeant: Diolch, Llywydd. Rydym ni wedi cael trafodaeth wirioneddol ddefnyddiol, dadl yn y Siambr hon, a llawer o’r Aelodau yn cyfrannu heddiw. A gaf i gyfeirio at rai o'r gwelliannau ac yna at rai o'r sylwadau a wnaed yn gyntaf? Gan droi at y gwelliannau, byddwn ni’n cefnogi pob gwelliant heblaw am 4, 6 a 7. Gwelliant 4: mae'r Llywodraeth yn gwrthwynebu'r gwelliant ar y sail ein bod o'r farn...
Carl Sargeant: Diolch, Llywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i siarad am y gwaith yr ydym ni a'n partneriaid yn ei wneud i fynd i'r afael â throseddau casineb ac anoddefgarwch ledled Cymru. Rwy'n siŵr y bydd y ddadl hon, fel yn y blynyddoedd blaenorol, yn dangos yr unfrydedd bwriad sylfaenol sy’n bodoli yn y Cynulliad hwn o ran mynd i'r afael â'r camweddau hyn. Mae’r wythnos hon, wrth gwrs, yn...
Carl Sargeant: Rwy'n credu—unwaith eto, gan ddiolch i'r Aelod am ei chefnogaeth ar gyfer proses y Bil—fe wnaeth y Prif Weinidog, yn y cwestiynau yn gynharach heddiw, gyfeirio at ansawdd tai cymdeithasol nawr o'i gymharu â 10 neu 15 mlynedd yn ôl. Rydym wedi datblygu'r weithdrefn hon yn dda. Mae'n ymwneud ag adeiladu ar gyfer y dyfodol, ac mae hyn yn rhywbeth a fydd hyn yn ein galluogi i’w wneud,...
Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Dechreuodd drwy ddweud bod y Ddeddf yn ddryslyd, ac yna dywedodd nad oedd wedi ei darllen, a oedd yn fwy dryslyd byth, i wneud rhagdybiaeth o’r fath ar y sail honno—. Yn gyntaf oll, holl bwrpas y Bil yw cymryd hyn oddi ar y sector benthyca cyhoeddus oherwydd faint o arian a fenthycir gan gymdeithasau tai. Byddem yn gorwario ein hymrwymiad benthyg yn y...
Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gefnogaeth. Mae'r Aelod yn aelod sydd wastad wedi bod â barn ar y polisi cynllunio o ran datblygiadau yn ei etholaeth ei hun. Rwy'n cytuno â'r Aelod bod credyd cynhwysol a chamau gweithredu eraill Llywodraeth y DU wedi niweidio’r sector tai a’i fod yn rhoi tai mewn perygl yn ogystal â ffydd o fewn sectorau. Bydd y Bil hwn i ryw raddau yn...
Carl Sargeant: Diolch, Llywydd. Unwaith eto, rwyf yn ddiolchgar am yr awgrym bod yr Aelod yn cefnogi pasio’r Bil mewn egwyddor, yn amodol ar y manylion a nodwyd. Rwy'n credu bod y pwynt olaf yr Aelod yn un o'r rhai pwysicaf a gododd, o ran y ffaith bod y goblygiadau o beidio â gwneud hyn yn effeithio’n sylweddol ar allu’r LCC neu'r Llywodraeth i ateb y galw am dai cymdeithasol. Mae'r manylion...
Carl Sargeant: Diolch i David Melding am ei sylwadau, a diolch iddo hefyd am nodi y bydd egwyddorion y Bil yn cael eu cefnogi. Yn gyntaf oll, o ran y ddau gwestiwn a gododd yr Aelod ynghylch tenantiaid a hawliau tenantiaid a gwaredu, nid yw'r ddeddfwriaeth mewn gwirionedd yn effeithio ar yr ymrwymiadau sylfaenol a wnaed i denantiaid trwy ein trosglwyddiadau gwirfoddol ar raddfa fawr, a bydd yn rhaid iddyn...
Carl Sargeant: Diolch, Llywydd, am y cyfle i wneud y datganiad hwn ar y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), a gyflwynais ddoe. Mae'r Bil hwn yn mynd i'r afael â materion o ganlyniad i benderfyniad dosbarthu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r penderfyniad i newid dosbarth landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gorfforaethau cyhoeddus anariannol i bob pwrpas yn dod â...
Carl Sargeant: Y dewis arall yw cymryd camau i alluogi’r SYG i wrthdroi ei phenderfyniad dosbarthu, a fydd yn cynnal y trefniadau cyllido presennol a dyna pam yr wyf wedi cyflwyno Bil Rheoleiddio’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Mae’r SYG wedi gwneud penderfyniadau tebyg o ran landlordiaid cymdeithasol mewn rhannau eraill o'r DU. Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi cyflwyno...
Carl Sargeant: Wel, mae’n amlwg na wrandawodd yr Aelod. Fe ddywedoch yn gynharach nad yw hyn yn ymwneud â gwleidydda, sef yr union beth rydych chi a’ch cydweithwyr wedi dechrau ei wneud. Mae hyn yn—[Torri ar draws.]