Jenny Rathbone: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad gonest a hefyd am eich cyflawniadau, er gwaethaf popeth rydych chi'n gorfod ei wneud yn y maes iechyd. Roeddwn i eisiau rhannu gyda'r Aelodau drafodaeth a gynhaliwyd yng ngrŵp trawsbleidiol iechyd menywod ym mis Rhagfyr, lle gwnaethom ni drafod y pum canser gynae. Roedd un o'r siaradwyr yn ymgyrchydd cleifion cwbl ardderchog efallai eich bod chi wedi...
Jenny Rathbone: Mae Darren Millar a Tom Giffard yn gwneud rhai pwyntiau pwysig am lefel yr ymgysylltu â'r boblogaeth gyfan. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y sgwrs honno, ond ein bod yn sicrhau bod pob rhan o'r boblogaeth yn rhan o'r broses lle bo hynny'n bosibl. Mae tri mater y mae'r adroddiad interim yn ei amlygu sydd wir ddim yn gweithio ar hyn o bryd: plismona a chyfiawnder, seilwaith...
Jenny Rathbone: O ystyried adroddiadau y gall Gweinidogion Llywodraeth y DU lacio rheolau i fyfyrwyr tramor, er mwyn eu caniatáu i weithio mwy o oriau, a oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i drafod hyn gyda Llywodraeth y DU, fel y gall myfyrwyr tramor sydd eisiau gweithio helpu i lenwi'r prinder llafur a brofwyd gan ddiwydiant lletygarwch Caerdydd?
Jenny Rathbone: Diolch. Yn dilyn y craffu ar y gyllideb a gynhaliwyd yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ysgrifennais at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ofyn faint o'r dyraniad cyfalaf ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr—£3.7 miliwn yn y flwyddyn ariannol bresennol hon—oedd wedi'i wario. Yn anffodus, mae'r Gweinidog wedi ymateb nad oes dim ohono wedi'i wario, ac ni ragwelir y...
Jenny Rathbone: Diolch, Trefnydd. Fyddwch chi ddim yn synnu o wybod fy mod yn canolbwyntio ar ein cyflenwadau bwyd a llysiau. Rwy'n ymwybodol iawn mai dim ond dwywaith yn ystod y tri mis diwethaf yr wyf wedi gallu cael gafael ar y bocsys o ffrwythau a llysiau yr wyf i eisiau eu rhoi i'n banc bwyd lleol. Mae hynny'n adlewyrchu'r diffyg bwyd fforddiadwy sy'n cyrraedd y farchnad gyfanwerthu, y mae'r holl...
Jenny Rathbone: 4. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gryfhau diogelwch bwyd yng Nghymru? OQ59061
Jenny Rathbone: Diolch am hynny. Ond a fyddech chi'n cytuno nad oes angen i bob un o'n hetholwyr weld meddyg teulu? Gallant weld y fferyllydd, gallant weld y nyrs, ac os oes ganddynt ddiabetes maent yn llawer gwell eu byd gyda gwasanaeth diabetes. Felly, nid yw'n ymwneud â meddygon teulu sy'n gyflogedig neu fel arall mewn gwirionedd, ond mae honno'n drafodaeth bwysig.
Jenny Rathbone: —os caf orffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd—yw ein bod ni nawr yn defnyddio'r system amserlennu electronig a gafodd ei phrofi yn y cynllun peilot yng Nghwm Taf ac mewn mannau eraill, fel ein bod yn gwybod yn union pwy sy'n mynd i wneud beth, a'r cyfan yn cael ei wneud drwy algorithm, yn ogystal â chasglu'r llwythi gwaith sy'n cael eu rheoli yn y gymuned honno fel ein bod yn gwybod yn union...
Jenny Rathbone: Gwnaf.
Jenny Rathbone: O'r gorau. Byddai'n ddefnyddiol gwybod pa fwrdd iechyd, ond beth bynnag, rwy'n siŵr y gallwch ddweud wrth y Gweinidog wedi'r ddadl hon. Rwy'n credu o ddifrif fod angen i'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, sy'n dweud eu bod am ddod o hyd i fwy o arian i dalu'r nyrsys, ddweud pa ran o'n cyllideb rydym yn mynd i'w ysbeilio er mwyn gwneud hynny, oni bai bod yna symud gan Lywodraeth y DU sy'n rheoli'r...
Jenny Rathbone: Heb eu dyrannu? Wel, nid wyf yn credu ei bod hi'n ddefnyddiol parhau ar y llwybr hwnnw, gan nad wyf wedi darllen yr hyn rydych chi wedi'i gynhyrchu a gallwn gael y ddadl honno ar ryw ddiwrnod arall. Ond y rheswm pam mae gennym swyddi gwag yw—. Mae'r ffaith bod gennym gynifer o swyddi gwag yn ddifrifol, ond yr unig bwynt sydd o ddiddordeb i mi yw archwilio ychydig ymhellach y pwynt a wnaeth...
Jenny Rathbone: Gwnaf.
Jenny Rathbone: Wel, nid wyf wedi'i weld, ac nid wyf wedi cael cyfle i edrych arno, ac nid oes unrhyw syniadau newydd yn unrhyw beth a ddywedoch chi, Rhun. Rydych chi eisiau inni dalu mwy i staff y GIG, ac rwy'n cytuno'n llwyr eu bod yn haeddu cael mwy o gyflog, ond nid ydych yn dweud o ble rydym yn mynd i'w gael. Ai oherwydd bod gennym ni ryw fath o beiriant Roneo ym Mharc Cathays?
Jenny Rathbone: Gwnaf.
Jenny Rathbone: Diolch, Lywydd. Wel, mae'n 25 Ionawr heddiw, ac mae'n teimlo fel y pumed fersiwn ar hugain o ddadl gwrthblaid ar yr hyn y dylem fod yn ei wneud ond nad ydym yn ei wneud yn y GIG. Ond mae'n ymddangos nad oes unrhyw fewnwelediad go iawn i'r hyn y dylem fod yn ei wneud. Mae'n ymddangos mai'r un hen stori yw hi bob amser. Felly, roeddwn yn meddwl ei fod yn gyflwyniad gwael iawn gan Rhun ap...
Jenny Rathbone: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Jenny Rathbone: Rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith a wnewch ar y Pwyllgor Deisebau, a gwn eich bod yn ymchwilio i gefndir unrhyw ddeiseb. Felly, yn y gwaith y byddwch yn ei wneud, yn ôl pob tebyg, ar ôl i'r ddeiseb gau, a allech ymchwilio i weld a oes unrhyw byllau nofio yng Nghymru yn gweithredu gydag ynni adnewyddadwy? Oherwydd yn amlwg, os nad ydynt, byddant mewn sefyllfa hynod fregus.
Jenny Rathbone: Rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn drychineb i'r 730 o staff sy'n cael eu cyflogi yno, ond rwy'n credu bod yn rhaid inni ofyn cwestiynau anodd am y cwmni hwn hefyd, oherwydd yn y gorffennol, fel y dywedoch chi, Weinidog, cafwyd nifer fawr o achosion o COVID, ac wyth mlynedd yn ôl roedd honiadau difrifol o dorri safonau iechyd yr amgylchedd, ond pan ymchwiliodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd i'r...
Jenny Rathbone: Nid wyf yn amau'r hyn a ddywedwch, a bod Ieuan Evans yn unigolyn rhagorol, ond rwy'n meddwl tybed a fydd yn gallu newid hyn ar ei ben ei hun. Oherwydd mae dros flwyddyn wedi bod ers i Amanda Blanc rybuddio yn ei haraith wrth ymddiswyddo fod bom amser o rywiaeth a hiliaeth yn Undeb Rygbi Cymru, sydd bellach wedi ffrwydro. Felly, yng ngoleuni’r niwed a wnaed i Gymru, i’n henw da, o...
Jenny Rathbone: Diolch, Weinidog. Mynychodd y ddau ohonom ddigwyddiad Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall yr wythnos diwethaf yma yn y Senedd, a chlywsom gleifion o bedwar bwrdd iechyd gwahanol yn rhannu eu gofidiau am eu brwydr i sicrhau’r gwasanaethau y maent eu hangen ac yn eu haeddu. Cafodd y tystiolaethau hyn eu cefnogi gan arolwg diweddar yr RNIB, a oedd yn nodi bod un o bob tri o bobl ddall...