Lynne Neagle: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Lynne Neagle: Nid wyf yn siŵr a ydych yn cofio'r adroddiadau niferus a wnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y maes hwn, ond cydnabu'r un pwysicaf gennym, 'Cadernid Meddwl', fod amseroedd aros wedi gwella'n sylweddol mewn gwirionedd a bod angen canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar. Efallai y dylech edrych ar rai o'r adroddiadau hynny.
Lynne Neagle: Rwy'n mynd i roi sylw i hynny.
Lynne Neagle: Yn ffurfiol.
Lynne Neagle: Diolch, Lywydd, a diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod. Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn galw am 'ymrwymiad cryfach, gwell adnoddau a thargedau mesuradwy.' Fel y mae ein gwelliant yn cydnabod, nid ydym yn hunanfodlon, ond mae gennym ymrwymiad hirsefydlog i atal a mynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio alcohol a hanes cadarn o gyflawniad. Yn wahanol i...
Lynne Neagle: Yn ffurfiol.
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn atodol, Heledd. Fel y nodwyd gennych, mae presgripsiynu cymdeithasol yn ffordd dda iawn o gysylltu pobl â chymorth anghlinigol wedi ei leoli yn y gymuned, ac mae angen i hynny fod yn ddull cyfannol sy'n cydnabod bod ystod o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn dylanwadu ar iechyd pobl, ac fel y nodwyd gennych, nid yw hynny'n ymwneud yn unig...
Lynne Neagle: Rydym yn datblygu fframwaith Cymru gyfan i gefnogi gweithredu lleol i gynyddu'r defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol. Mae fy swyddogion yn ymgysylltu ag amryw o randdeiliaid ar y model arfaethedig, a gyhoeddir ar gyfer ymgynghoriad y mis nesaf.
Lynne Neagle: Diolch am y cwestiwn hwnnw, Natasha, ac rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni gael negeseuon pwrpasol. Roedd ein hymgysylltiad drwy'r pandemig yn rhagweithiol iawn yn hynny o beth. Fe wnaethom gontractio asiantaeth ymgysylltu arbenigol ar gyfer lleiafrifoedd ethnig. Cafodd deunyddiau ar gyfer cymunedau penodol eu cydgynhyrchu gydag unigolion o'r cymunedau hynny, gyda lluniau cardiau dyfyniadau...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, John. Fel yr ydych wedi nodi, mae'r pandemig wedi amlygu'r anghydraddoldebau iechyd a wynebir gan gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, a dyna pam y sefydlodd y Prif Weinidog y grŵp i edrych ar yr anghydraddoldebau iechyd hynny, sy'n flaenoriaeth inni. Rwy'n ddiolchgar iawn i Muslim Doctors Cymru am y gwaith a wnaethant. Rwy'n gwybod eu bod...
Lynne Neagle: Mae camau i dargedu negeseuon iechyd cyhoeddus cryf at gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru wedi'u hymgorffori yn ein gwaith atal ar gyfer iechyd y cyhoedd, i helpu pobl i gynnal pwysau iach, rhoi'r gorau i ysmygu, a chefnogi eu lles meddyliol. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd y gwyddom fod y cymunedau hyn yn eu profi.
Lynne Neagle: Diolch, James. Ac mae'r hyn rydych wedi'i ddweud yn bwysig iawn, oherwydd yn amlwg, nid ydym am i broblemau pobl ifanc waethygu. Dyna pam fod ein holl bwyslais yn Llywodraeth Cymru ar ymyrraeth gynnar a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cymorth yn gynnar, yn ddelfrydol yn yr amgylcheddau lle maent yn byw eu bywydau, fel yr ysgol. Felly, mae gennym ddull ysgol gyfan yr ydym yn parhau i...
Lynne Neagle: Diolch, James. Yn amlwg, mae'r Bil diogelwch a niwed ar-lein yn gyfrwng pwysig i geisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau y cyfeirioch chi atynt, ac y gwn eich bod wedi eu codi eisoes yn y Siambr hon. Rydych yn llygad eich lle nad yw materion digidol wedi’u datganoli i ni, ond mae trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng swyddogion yn Llywodraeth Cymru a swyddogion yn San Steffan, ac...
Lynne Neagle: Diolch am eich cwestiwn, James. Ac rwy'n falch iawn hefyd o gydnabod ar goedd y ffaith ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac rwy'n ymwybodol fod llawer iawn o weithgareddau'n cael eu cynnal ac ymdrechion yn cael eu gwneud i godi ymwybyddiaeth. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn darparu cyllid i gryn dipyn o sefydliadau trydydd sector—rhai’n uniongyrchol, eraill drwy’r cyllid...
Lynne Neagle: Diolch, Peredur. Rydym i gyd wedi cael ein dychryn gan yr hyn a welwn, ac mae'r trawma y mae pobl yn ei brofi yn Wcráin yn rhywbeth na allwn ei ddychmygu mewn gwirionedd. Rwy'n falch ein bod yn mabwysiadu ymagwedd wahanol yng Nghymru gyda'n rhaglen uwch-noddwr, a fydd yn golygu, pan fydd ffoaduriaid Wcráin yn cyrraedd Cymru, y byddant yn cael eu cysylltu â gwasanaethau priodol. Byddwn yn...
Lynne Neagle: Diolch am y cwestiwn hwnnw, Peredur. Ac fel y dywedais mewn ymateb i Andrew R.T. Davies, wrth gwrs fy mod yn pryderu bod gennym bobl ifanc yn aros yn hwy nag y dylent. Credaf fod y sefyllfa gydag amseroedd aros yn cael ei hystumio rhywfaint gan Gaerdydd a'r Fro. Fel y dywedais wrth Andrew, mae dwy ran o dair o'r plant sy'n aros yng Nghymru ar y rhestr aros yng Nghaerdydd a'r Fro mewn...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Jenny, ac rwy'n llwyr gefnogi presgripsiynu cymdeithasol fel ffordd o gysylltu pobl â chymorth anghlinigol yn y gymuned, ac rwy'n ystyried bod cymorth o'r fath yn rhan wirioneddol allweddol o'n hagenda ataliol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gael fframwaith Cymru gyfan i gefnogi presgripsiynu cymdeithasol. Bydd y...
Lynne Neagle: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol? Rwy'n rhannu ei bryderon ynghylch yr anawsterau sy'n parhau gydag amseroedd aros yng Nghaerdydd a'r Fro. Cyfarfûm â Chaerdydd a'r Fro dair gwaith i drafod, yn fanwl, eu dull o reoli eu hamseroedd aros. Credaf ei bod hi'n bwysig cydnabod eu bod yn wynebu heriau arbennig yng Nghaerdydd a'r Fro. Mae dwy ran o dair o'r plant sy'n aros yng Nghymru...
Lynne Neagle: Rydym yn blaenoriaethu £50 miliwn, £75 miliwn a £90 miliwn ychwanegol o gyllid wedi'i neilltuo ar gyfer iechyd meddwl ar gyfer 2022-23, 2023-24 a 2024-25 yn y drefn honno. Mae hyn yn ychwanegol at y £760 miliwn a fuddsoddir yn flynyddol o gyllid iechyd meddwl wedi'i neilltuo i fyrddau iechyd lleol, a bydd yn cefnogi'r gwaith parhaus o drawsnewid ein gwasanaethau iechyd meddwl er mwyn...
Lynne Neagle: The technical advisory group has published two reports on excess deaths since the start of the pandemic, which include information on deaths from dementia. We also published a companion document to the dementia action plan in September 2021, which confirmed our priorities for action.