Darren Millar: Diolch, Llywydd. Hoffwn godi pwynt o drefn, os caf, o ran sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn ystod ei drafodaeth ag arweinydd yr wrthblaid yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog. Nododd y Prif Weinidog bod y cyfrifon blynyddol ar gyfer Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyfyngedig yn gyhoeddus, ac yn cael eu cyhoeddi bob mis Mawrth. Nododd hefyd bod y cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol...
Darren Millar: Diolch am yr ymateb yna, Prif Weinidog. Hoffwn fod y cyntaf i gydnabod y ffaith bod Llywodraeth Cymru, yn wir, wedi cefnogi'r prosiect hwn yn hanesyddol, a hoffwn weld y prosiect hwn yn cael ei gyflawni. Cefais gyfarfod yr wythnos diwethaf gydag arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac, fel y byddwch yn gwybod, un o'u blaenoriaethau allweddol yw cyflawni'r prosiect hwn, nid yn unig oherwydd yr...
Darren Millar: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych? OQ58958
Darren Millar: Diolch am eich ymateb. Fel y gwyddoch, Weinidog, un o’r peryglon mwyaf yn fy etholaeth yw’r perygl o lifogydd. Gwyddom fod llifogydd yn dod yn broblem fwy cyffredin o ganlyniad i newid hinsawdd a lefel y môr yn codi. Ar hyd yr arfordir, mae buddsoddiad sylweddol wedi'i wneud mewn amddiffynfeydd môr yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae mwy ar y gweill ar gyfer ardal Towyn a Bae Cinmel. Fodd...
Darren Millar: 4. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith newid hinsawdd yng Ngorllewin Clwyd? OQ58920
Darren Millar: Diolch, Llywydd. Gweinidog, rydych chi wedi dweud wrthym ni fod gennym ni broblem gyda pheidio â gallu denu digon o staff—rwy'n derbyn hynny—ond nid yw'n ymddangos eich bod yn cydnabod bod gennym ni broblem gyda bod â digon o welyau. Nawr, rwyf wedi codi'r mater yma ambell waith yn y Senedd o'r blaen, ond rwy'n mynd i wneud hynny eto. Pryd gaiff gogledd sir Ddinbych yr ysbyty cymunedol...
Darren Millar: Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan eich cyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o ran y sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Bydd yr aelodau'n ymwybodol bod rhywfaint o drafodaeth yn y cyfryngau ynglŷn ag ymchwiliad i dwyll gwerth £122 miliwn sy'n cael ei gynnal gan wasanaeth wrth-dwyll y GIG ar hyn o bryd, ochr yn ochr ag adolygiad gan Archwilio...
Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rwy'n derbyn canlyniadau refferenda; mae'n drueni mawr na wnaethoch chi dderbyn canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn eich etholaeth eich hun, pleidleisiodd 62 y cant o bobl dros adael. Sut ydych chi wedi eu cynrychioli hwy dros y blynyddoedd diwethaf?
Darren Millar: A gaf i alw am ddatganiad gan Weinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am dirweddau dynodedig ynglŷn â pha gamau sy'n cael eu cymryd i ddiogelu'r tirweddau hynny rhag erydiad o ganlyniad i gerbydau oddi ar y ffordd yn mynd iddynt? Mae gennym ni broblemau arbennig ar Moel Famau, yn fy etholaeth fy hun, ar hyn o bryd, lle mae'n ymddangos bod beicwyr modur ac eraill yn mynd ar y llwybrau...
Darren Millar: Rwyf wedi awgrymu dewis amgen. Rwyf wedi awgrymu dewisiadau eraill.
Darren Millar: Mae hyn yn bwysig—
Darren Millar: Fe fyddaf yn gryno, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle. Ar swyddfa gogledd Cymru, mae’n rhaid imi ddweud fel Aelod lleol ar gyfer yr etholaeth lle mae’r swyddfa honno wedi’i lleoli, fy mod wedi fy syfrdanu, a dweud y gwir, gyda’r diffyg ymgysylltu â mi cyn i'r penderfyniad gael ei wneud i gau’r swyddfa honno. Rwyf hefyd yn bryderus iawn am y penderfyniad i gydleoli swyddfeydd y Senedd...
Darren Millar: A gawn ni ganu'r gloch?
Darren Millar: A fyddech chi'n derbyn ymyriad?
Darren Millar: Rwy'n ddiolchgar am hynny. Mae eich arweinydd chi yn Senedd y DU, Syr Keir Starmer, wedi derbyn hyn—ac rwy'n dyfynnu. Dywedodd ef: 'Nid wyf i'n ceisio honni nad oes yna broblemau a heriau gyda'r protocol'. Mae ef yn derbyn bod angen ei newid, ac eto nid yw ef wedi cynnig yr un dim o ran yr hyn y byddai ef yn ei newid a sut y byddai ef yn sicrhau'r newid hwnnw. A wnewch chi ddweud wrthym...
Darren Millar: Rwy'n siomedig, mae'n rhaid i mi ddweud, ond nid wyf wedi fy synnu o glywed y bydd Llywodraeth Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Ac wrth gwrs, rwy'n codi i gyfrannu at y ddadl hon yn ddinesydd Gwyddelig ac yn ddinesydd y DU, ac yn rhywun sydd wedi bod yn aelod hirsefydlog o Gynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon, yr wyf yn gadeirydd ei bwyllgor ar...
Darren Millar: Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am addysg ynglŷn â chymorth i fyfyrwyr yn ystod y pwysau costau byw presennol? Rwyf i wedi codi hyn yn y gorffennol, ond nid wyf i wedi gweld datganiad ar y pwnc. Fel y gwyddoch chi, mae gan fyfyrwyr ar hyn o bryd—pob myfyriwr—hawl i grant o £1,000 y flwyddyn tuag at eu costau byw. Mae hynny'n swm sydd wedi'i osod ers...
Darren Millar: A gaf i ofyn i chi, Gweinidog—? Rydych chi'n angharedig, rwy'n credu ynghylch datganiad hydref Llywodraeth y DU. Rydych chi'n gwybod yn iawn, mae pob un ohonoch chi ar y meinciau yna yn gwybod yn iawn, bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyllideb fwyaf erioed. Mae'n gyllideb sy'n torri record, ac mae'n mynd i gynyddu dros y ddwy flynedd nesaf. Fe gawson ni ddatganiad yr hydref a oedd yn...
Darren Millar: A yw'n iawn, os caniatewch i mi? Rwy'n gwybod nad yw'n arferol mewn dadleuon byr i wneud ymyriad.
Darren Millar: Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn o glywed am yr holl ddiddordeb mewn rasio ceffylau yn y Siambr heddiw. Rwy'n ffodus fod gennyf yn fy etholaeth fy hun, yng nghymuned Towyn, yr unig drac rasio harnais yng Nghymru, a hoffwn eich gwahodd, Ddirprwy Weinidog, i ymuno â mi am noson yn y rasys yn Nhowyn—a phawb arall yn y Siambr—er mwyn ichi ddod i weld y pleser y mae'n ei roi i lawer o...