Canlyniadau 61–80 o 2000 ar gyfer speaker:Janet Finch-Saunders

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyngor Cyfreithiol i Weinidog ( 1 Maw 2023)

Janet Finch-Saunders: Diolch. Nawr, yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'n rhaid i bob corff cyhoeddus gyflawni datblygu cynaliadwy, sef y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu yn unol â'r egwyddorion datblygu cynaliadwy gyda'r nod o gyflawni'r nodau llesiant. Mae'r nodau hynny, wrth gwrs, yn cynnwys Cymru lewyrchus, Cymru...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Ffoaduriaid o Wcrain ( 1 Maw 2023)

Janet Finch-Saunders: Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cyflwyno dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar Wcráin yn y Siambr yn ddiweddar, a bu’n rhaid imi ddweud bryd hynny fod ffoaduriaid Wcreinaidd sy’n gorfod gadael eu cartrefi nawdd wedi cael gwybod nad yw canolfannau croeso yn opsiwn ar gyfer llety diogel. Mewn achosion fel Abertawe, mae ffoaduriaid wedi cael eu gorfodi i adael gwesty...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Casineb at Fenywod a Chamymddygiad Rhywiol ( 1 Maw 2023)

Janet Finch-Saunders: Mae gweithredoedd y treisiwr cyfresol, David Carrick, llofruddiaeth Sarah Everard gan Wayne Couzens a'r ffordd ffiaidd y cafodd cyrff y chwiorydd Bibaa Henry a Nicole Smallman eu trin gan gwnstabliaid yr heddlu Deniz Jaffer a Jamie Lewis wedi ein syfrdanu ni i gyd, gan ddinistrio enw da yr heddluoedd hynny. Wrth gwrs, fel y mae fy nghyd-Aelod wedi’i grybwyll, mae gan Heddlu Gogledd Cymru 27...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Ffoaduriaid o Wcrain ( 1 Maw 2023)

Janet Finch-Saunders: 8. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i ddarparu cefnogaeth ddigonol i ffoaduriaid o Wcráin? OQ59174

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyngor Cyfreithiol i Weinidog ( 1 Maw 2023)

Janet Finch-Saunders: 5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i'r Gweinidog Newid Hinsawdd cyn y penderfyniad i roi terfyn ar sawl prosiect ffordd mawr yng ngogledd Cymru? OQ59177

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyngor Cyfreithiol i Lywodraeth Cymru ( 1 Maw 2023)

Janet Finch-Saunders: 6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i pholisi ynglŷn â hunanadnabod rhywedd yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i atal y Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (yr Alban)? OQ59176

12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) (28 Chw 2023)

Janet Finch-Saunders: Wrth gwrs, diben y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) yw hwyluso dull rhagweithiol newydd o reoleiddio landlordiaid tai cymdeithasol ar faterion defnyddwyr. Mae materion o'r fath yn cynnwys diogelwch, tryloywder ac ymgysylltu â thenantiaid. Mae gan y Bil hwn dri phrif amcan: hwyluso trefn rheoleiddio defnyddwyr ragweithiol newydd, mireinio'r drefn reoleiddio economaidd bresennol, a...

6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Uwchgyfeirio ac ymyrraeth bellach i wella ansawdd gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (28 Chw 2023)

Janet Finch-Saunders: Gyda phob parch, a allwch chi alw pwynt o drefn ar gyn-Weinidog iechyd a fethodd yn ystod ei—[Anghylwadwy.]

6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Uwchgyfeirio ac ymyrraeth bellach i wella ansawdd gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (28 Chw 2023)

Janet Finch-Saunders: Mae'r methiannau mae fy nghyd-Aelodau wedi'u codi wedi bod yn gysylltiedig i raddau helaeth â methiannau gweithredol. Nawr, rydych chi wedi dweud wrthyn ni yma heddiw nad oes gennych chi'r pwerau hynny. Wel, rwy'n gofyn i chi, Gweinidog, ac nid wyf i'n poeni beth mae'n ei gymryd, ond yn sicr mae angen i chi fod â'r pwerau hynny i sicrhau y gallwch chi wir ddod yn llai ar wahân oddi wrth...

6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Uwchgyfeirio ac ymyrraeth bellach i wella ansawdd gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (28 Chw 2023)

Janet Finch-Saunders: Diolch. Gweinidog, gallwch chi dwyllo rhai rywfaint o'r amser, ond allwch chi ddim twyllo pawb drwy'r amser, ac nid ydyn ni'n ffyliaid; rydyn ni'n Aelodau etholedig yn cynrychioli ein hetholwyr, ac nid ffyliaid ydyn nhw chwaith. Nawr, mae'r adroddiad archwilio yn codi'r ffaith bod pedwar prif weithredwr wedi bod mewn llai na phedair blynedd. Gwnaethoch chi sôn am eich rhesymau dros dynnu'r...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (28 Chw 2023)

Janet Finch-Saunders: Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Dros bythefnos yn ôl, daeth y T19 rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog i ben. Mae cyflogeion wedi eu gadael yn methu â chyrraedd eu gwaith, mae myfyrwyr yn dibynnu ar drafnidiaeth breifat i gyrraedd yr ysgol ac mae trigolion yn ei chael hi'n anodd cyrraedd apwyntiadau meddygol. Y bore 'ma, ynghyd â fy nghyd-Aelod Mabon ap...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (28 Chw 2023)

Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar effeithiolrwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin (15 Chw 2023)

Janet Finch-Saunders: I ddechrau, hoffwn ailadrodd a chymeradwyo'r geiriau sydd eisoes wedi cael eu llefaru, a hoffwn gofnodi ein diolch, fel Aelodau yma yn y Senedd, i'r rhai ohonoch sydd wedi bod draw i weld yr angen draw yno drosoch eich hunain. Credaf ei bod yn deg dweud mai'r rhai sy'n dioddef creulondeb y rhyfel erchyll hwn yn fwyaf poenus yw'r rhai sy'n amddiffyn eu mamwlad, y boblogaeth sifil a llawer iawn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Parciau Cenedlaethol (15 Chw 2023)

Janet Finch-Saunders: Mae parc cenedlaethol Eryri yn mynd y tu hwnt i'r galw i gyflawni ei ddibenion statudol, a hoffwn gofnodi fy niolch am y ffordd y maent yn rheoli'r holl swyddogaethau sydd ganddynt, eu swyddogaethau statudol, gyda'r adnoddau sydd ganddynt. Fodd bynnag, mae'n peri pryder fod effaith chwyddiant ar gyllideb sylfaenol yr awdurdod tan ddiwedd 2024-25 oddeutu £1.1 miliwn, sy'n golygu toriad o 20 y...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Janet Finch-Saunders: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i herio'r Dirprwy Weinidog oherwydd dywedodd ddau beth ffeithiol anghywir, yn fy marn i, yma heddiw. Ar un, fe ddywedoch chi fod—. Wnes i ond codi gyda chi ynghylch y ddwy gylchfan yn fy etholaeth, a gwnaethoch chi'r pwynt fy mod i'n dweud un peth nawr, ond fy mod i wedi dweud rhywbeth arall yn wahanol, fy mod i'n croesawu'r ffaith eu bod nhw'n aros. Wel,...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Janet Finch-Saunders: Hoffwn ddweud mai'r un peth y byddwn i'n ei ddweud amdanoch chi, Gweinidog, Lee, yw bod eich calon yn hyn, ac mae wedi bod ers cryn amser, a does neb yn gwadu bod angen mwy o deithio llesol. Ond rwy'n meddwl mai'r pwynt mae Alun Davies, fy nghyd-Aelod, wedi ei wneud yw'r ffaith eich bod chi'n sicrhau bod eich seilwaith yn ei le, yna gallwch chi benderfynu peidio gwneud yr hyn rydyn ni wastad...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogi Trafnidiaeth Gyhoeddus (14 Chw 2023)

Janet Finch-Saunders: Pe bai hynny ond yn wir. Trefnydd, yng nghytundeb cydweithio Llafur Cymru a Phlaid Cymru, rydych chi'n gwneud addewid eglur i ofyn i Trafnidiaeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol yn y gogledd-orllewin a Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau ar gyfer system drafnidiaeth integredig. Nawr, yn hytrach na gweld cynnydd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Gwynedd a Llywodraeth Cymru wedi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogi Trafnidiaeth Gyhoeddus (14 Chw 2023)

Janet Finch-Saunders: 7. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yn Aberconwy? OQ59113


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.