Mick Antoniw: Cafwyd datganiadau ac ymatebion blaenorol i gwestiynau sydd wedi nodi'r gyllideb—mae'r cyfan yn gyhoeddus. Nid wyf yn credu bod unrhyw ddadl nac unrhyw ddiffyg tryloywder ynglŷn â beth yw'r gyllideb honno.
Mick Antoniw: Wel, rwy'n sicr yn fodlon y bydd y rheoliadau'n addas i'r diben, ac y bydd unrhyw addasiadau sydd angen eu gwneud yn cael eu gwneud yn y ffordd briodol. Mae'r rheoliadau eu hunain yn darparu, yn amlwg, ar gyfer parhau â'r fframwaith cyfreithiol presennol yng Nghymru a Phrydain ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid, felly maent yn rheoliadau pwysig. Fe'u gwnaed ym mis...
Mick Antoniw: Diolch yn fawr am y cwestiwn, Mabon.
Mick Antoniw: Mae'r rheoliadau hyn, a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 2022, yn gymhleth ac maent wedi bod yn destun drafftio brys. Rydym yn ddiolchgar iawn am waith adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y rheoliadau hyn ac rydym wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r pwyntiau a godwyd gan y pwyllgor, gan gynnwys offeryn diwygio a gaiff ei gyflwyno'n fuan.
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Os caf wneud sylwadau cyffredinol mewn perthynas â'ch cwestiwn, rwy'n credu bod y ffordd y mae Llywodraethau Ceidwadol olynol wedi trin menywod a anwyd yn y 1950au yn parhau i fod yn sgandal genedlaethol. Ers lansio ymgyrch WASPI yn 2015, mae mwy na 200,000 o fenywod WASPI wedi marw heb weld na derbyn cyfiawnder pensiwn erioed, felly mae'r menywod sy'n...
Mick Antoniw: Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro wrth Lywodraeth y DU am fenywod y mae eu hoedran pensiwn y wladwriaeth wedi cael ei godi heb hysbysiad effeithiol na digonol. Rydym yn aros am adroddiad llawn ymchwiliad yr ombwdsmon, a fydd yn argymell gweithredoedd i'r Adran Gwaith a Phensiynau i unioni'r anghyfiawnder a ganfuwyd.
Mick Antoniw: Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad yn y ddadl hon. A gaf fi hefyd ddechrau drwy ailadrodd fy niolch i'r Cymry ac i'r Senedd hon am y gefnogaeth ysgubol i Wcráin a'r gydnabyddiaeth nad rhyfel i Wcreiniaid yn unig yw hwn, ei fod yn rhyfel i amddiffyn rheolaeth y gyfraith, democratiaeth a chyfraith ryngwladol? A gaf fi fynegi fy niolch hefyd am y gefnogaeth anhygoel i deuluoedd o Wcráin sydd...
Mick Antoniw: Diolch am hynny, ac eto, rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am ei haelioni, neu a ddylwn i ddweud gormodiaith? [Chwerthin.] Mae'r pwynt rydych yn ei wneud am sofraniaeth yn un pwysig, ac rwyf wedi bod yn dweud ar bob cyfle a gaf fod y cysyniad o sofraniaeth San Steffan wedi diflannu gryn amser yn ôl. Efallai nad yw'n cael ei gydnabod yn llwyr ac efallai na fydd ein strwythur cyfansoddiadol wedi...
Mick Antoniw: Diolch, Rhianon, am y sylwadau hynny. Mae'r comisiwn wedi nodi rhaglen o ymgysylltu llawer mwy trylwyr, o ymgynghori llawer mwy trylwyr, a sefydlu grwpiau o fewn cymunedau y bydd yn ymgysylltu â nhw, ac rwy'n gwybod mai dyna un o'r pwyntiau a godais, ymhlith pwyntiau eraill a godwyd pan gwrddon ni â'r comisiwn—'Sut ydych chi'n mynd i fynd ati?' Roedd yn amlwg bod llawer o waith a llawer o...
Mick Antoniw: Wel, diolch am y sylw olaf hwnnw. Os oes modd troi dŵr yn win, yna rwy'n eithaf sicr y gellir troi comisiynau yn ddiwygiad cyfansoddiadol. Gwrandewch, mae'r pwynt rydych chi'n ei wneud yn un dilys, onid yw? Mae cydnabyddiaeth—ac rwy'n gobeithio bod tir cyffredin bod cydnabyddiaeth nad yw ein strwythurau cyfansoddiadol, y status quo, yn dderbyniol, nid yn ymarferol, ac mae angen gwneud...
Mick Antoniw: Diolch. Roedd cylch gorchwyl y comisiwn yn drefnus ac rydym wedi bod yn eu trafod droeon o fewn y Siambr hon. Cwrddais â'r comisiwn yn ddiweddar, fel y mae'r Prif Weinidog wedi gwneud, ac rwy'n credu ei fod wedi egluro, nawr, y broses o ymgysylltu y mae am ei wneud a rhai o gyfarwyddiadau'r materion y mae am edrych arnynt. Efallai y bydd yn edrych ar y materion hyn—materion ariannol,...
Mick Antoniw: Yn gyntaf, a gaf i ddweud fy mod i'n meddwl bod eich cynrychiolaeth chi o'r adroddiad interim a'r gwaith hyd at y cam hwnnw, yn wir, yn gamgyflead? Oherwydd yr hyn a wnaed yw cyflwyno cyfres gyfan o sesiynau tystiolaeth. Unwaith eto, rydych chi'n iawn o ran yr ymgynghoriad ar-lein, ac, i fod yn onest, mae hynny'r un peth gyda phob ymgynghoriad ar-lein sy'n digwydd, bod gennych nifer mawr o...
Mick Antoniw: Diolch, Mike. Rwy'n sicr yn cytuno gyda'r pwynt olaf hwnnw na allwn barhau fel hyn. Dyna'n union pam rwy'n meddwl ein bod ni wedi bod yn mynd i'r cyfeiriad presennol, yn union pam mae gennym ni'r comisiwn. Rwy'n credu mai un o'r pethau pwysicaf—p'un a ydych yn ei alw'n datganoli, datganoli pwerau, sybsidiaredd neu beth bynnag—yw'r egwyddorion y mae'n seiliedig arnynt, beth yw'r sail, beth...
Mick Antoniw: Diolch am eich sylwadau, Peredur. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod adroddiad Gordon Brown yn flaengar. Mae'n flaengar gan ei fod yn sôn am bwerau ychwanegol yma; mae'n sôn am ddarparu fframwaith cyfansoddiadol i ddiogelu datganoli ac i warchod y broses Sewel; mae'n sôn am egwyddor ddiderfyn fel egwyddor sylfaenol—y dylai pŵer fod mor agos at y bobl â phosibl a dim ond oherwydd...
Mick Antoniw: Diolch am y sylwadau a'r ffordd y cawsant eu cyflwyno. Rydych chi'n dweud ei fod yn un o'r dogfennau mwyaf rhagfarnllyd hyd yn hyn, ond mae'n adroddiad interim. Doeddwn i ddim yn rhy sicr mewn gwirionedd bod cymaint â hynny ynddo y gallech chi ddarllen mor rhagfarnllyd â hynny, ond mae'n debyg pan ddywedwch chi mai dyma'r ddogfen fwyaf rhagfarnllyd yn erbyn Llywodraeth y DU, mae'n debyg...
Mick Antoniw: O'r gorau.
Mick Antoniw: Diolch, Huw, am y sylwadau hynny, a hefyd am y gwaith y mae eich pwyllgor wedi'i wneud a'r gwaith y bydd yn ei wneud. Wrth gwrs, mae llawer o ymgysylltiadau cyfansoddiadol yn digwydd rhwng pedair gwlad y DU ar hyn o bryd, gan gynnwys ar fater fframweithiau cyffredin, gyda rhai ohonyn nhw'n cael eu hystyried gan bwyllgorau yn y Senedd hon, a chafodd y fframweithiau hyn, wrth gwrs, eu creu ar...
Mick Antoniw: Cyn belled â'r mater o—. Hynny yw, rwy'n deall y safbwynt sydd gennych chi o ran annibyniaeth. I mi, y prif fater bob tro yw mater sybsidiaredd. Mae gan bob gwlad ac economi rywfaint o gyd-ddibyniaeth; dyna un o swyddogaethau'r Undeb Ewropeaidd. Ac, mewn sawl ffordd, pan fyddwch chi'n dechrau tynnu'r derminoleg allan o dermau, mae cryn dipyn o dir cyffredin mewn gwirionedd. Rwy'n credu, ar...
Mick Antoniw: Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiynau manwl iawn hynny—nifer fawr o gwestiynau. Gwnaf i fy ngorau i geisio eu hateb. Efallai y gaf i roi rhagair iddyn nhw drwy—. Wrth gwrs, rydw i wir eisiau aros i weld beth yw canlyniad adroddiad y comisiwn annibynnol. Yn ein pleidiau gwleidyddol priodol, yn ein cymunedau, yn ein sefydliadau, wrth gwrs mae gennym ni i gyd farn. Rydyn ni i gyd wedi bod...
Mick Antoniw: Wel, hoffwn i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad, ac roedd yn debyg iawn i'r cyfraniad y gwnaeth ryw 18 mis, ddwy flynedd yn ôl. Nid yw wedi newid o gwbl. Mae'n ymddangos i mi nad ydych chi wedi sylweddoli bod y ddadl wedi symud ymlaen. Rydyn ni wedi cael y ddadl dros rinweddau'r comisiwn a'i bwrpas, a'r hyn yr ydyn ni'n ei gael nawr yw comisiwn sydd wir yn ymgysylltu â phobl am ei waith....