Sioned Williams: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae tlodi plant yn bodoli ym mhob rhan o Gymru. Nid yn unig y mae'n bodoli, ond mae'n staen ar ein cymunedau, oherwydd mae tlodi plant yn achosi niwed difrifol a gydol oes i ganlyniadau'r rhai a fydd yn ddyfodol i'n gwlad, a pho hwyaf y bydd plentyn yn byw mewn tlodi, y mwyaf dwys fydd y niwed. Sawl gwaith y clywsom yr ystadegau brawychus sy'n creu'r niwed hwnnw yn...
Sioned Williams: Mae prif bwyslais ein hargymhellion yn ymwneud â gwella cymorth i grŵp penodol o fenywod, sy’n rhy aml yn cael eu hesgeuluso a hyd yn oed yn anweledig i gymdeithas. Rwy'n sicr wedi clywed tystiolaeth a fydd yn aros gyda mi am byth am brofiad goroeswyr o gymunedau mudol. Gwnaethom edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i sicrhau bod y menywod hyn yn cael eu gweld, eu clywed, eu cefnogi, a'u...
Sioned Williams: Mae camdrin ar sail rhywedd a rhagfarn a chasineb at fenywod o fewn ein gwasanaethau rheng flaen yn gwbl annerbyniol. Dyma'r gwasanaethau sydd fod yn ein gwarchod ni, yn gwasanaethu'r cyhoedd, ac felly yn cynrychioli egwyddorion gorau ein cymdeithas. Felly, ni allwn ganiatáu i wasanaeth sy'n ymwneud â'r cyhoedd ac sydd â rôl mor warchodol feddu ar safbwyntiau ystrydebol, rhagfarnllyd a...
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Mae’r argyfwng costau byw, chwyddiant uchel a chostau ynni cynyddol yn enwedig i gyd yn fygythiadau enfawr i fusnesau yn y sector lletygarwch yn arbennig—sector sy’n cyflogi 200,000 o bobl yng Nghymru. Ac er fy mod yn croesawu cynnwys mwy o gymorth ar ardrethi busnes yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ddoe, gyda'r cafeat y gallai cymorth fod yn fwy hyblyg ac...
Sioned Williams: 2. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru'n ei chynnig i fusnesau yng Ngorllewin De Cymru yn sgil yr argyfwng costau byw a chostau gwneud busnes? OQ58888
Sioned Williams: Beth yw strategaeth y Llywodraeth i sicrhau hygyrchedd ar gyfer pobl anabl yn y gwasanaeth iechyd?
Sioned Williams: Sut mae Llywodraeth Cymru yn hybu defnydd o’r iaith Gymraeg yng Ngorllewin De Cymru?
Sioned Williams: Diolch. Wrth gwrs, mae’r gwasanaeth sydd gennym yng Nghymru yma ar gyfer pobl dros 18 oed, onid yw? Dyna'r gwahaniaeth. Cyfarfûm yn ddiweddar â Chymdeithas Feddygol Prydain i drafod eu hadroddiad 'Sexual orientation and gender identity in the medical profession', sy'n nodi bod meddygon LHDTC+ yn wynebu camdriniaeth a gwahaniaethu yn rheolaidd. Er ei fod yn achos pryder fod hyn hyd yn oed...
Sioned Williams: Diolch, Lywydd. Daeth ymgynghoriad cyhoeddus y DU ar fanyleb y gwasanaeth interim ar gyfer gwasanaethau dysfforia rhywedd arbenigol i blant a phobl ifanc i ben yn ddiweddar ar 5 Rhagfyr. Er eu bod wedi’u cyhoeddi gan GIG Lloegr, bydd y newidiadau arfaethedig yn cael effaith ar gleifion ifanc sydd o dan gyfrifoldeb comisiynu GIG Cymru. Mae pryderon wedi’u codi gan Stonewall ac eraill y...
Sioned Williams: Ie, byddwn yn cytuno, Weinidog. Mae ein hawdurdodau lleol yn wynebu pwysau ariannol enfawr, a hoffwn adleisio’r hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies ynglŷn â phwysigrwydd ymgysylltu nid yn unig yn y sesiynau briffio hynny, ond yng Nghastell-nedd Port Talbot, gwn fod y cyngor yn mynd allan i holl gymunedau ardal yr awdurdod lleol i gael cyfarfodydd cyhoeddus, fel bod pobl yn deall yn iawn...
Sioned Williams: 2. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi ei rhoi i effaith datganiad yr hydref ar y gefnogaeth ariannol fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru? OQ58788
Sioned Williams: Diolch am y datganiad, Weinidog. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae biliwn o bobl, neu 15 y cant o boblogaeth y byd, â rhyw fath o anabledd. Mae nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl nid yn unig yn gyfle i sicrhau ein bod yn cofio pwysigrwydd sicrhau tegwch a chyfle cyfartal i bobl anabl yma yng Nghymru, ond hefyd i'r biliwn o bobl ar draws y byd sy'n wynebu anghydraddoldebau ac anghyfiawnder...
Sioned Williams: Hoffwn godi'r pwyntiau a wnaeth Janet Finch-Saunders tua diwedd ei chyfraniad, oherwydd rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol, Gweinidog, am y pryderon difrifol a godwyd gan Gymorth i Ferched Cymru am effaith y Ddeddf, yn ei ffurf bresennol, ar wasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru a, thrwy hynny, ar oroeswyr. Er eu bod yn gefnogol i lawer o...
Sioned Williams: Yn bendant. Mae modd atal yr holl bethau hyn, onid oes, ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei ddangos yn glir iawn yn yr adroddiad. Fel roeddwn yn dweud, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddangos ei bod yn gweld gwerth pobl ac yn rhannu eu pryderon, yn clywed eu safbwyntiau ac yn gweithio i greu cymdeithas lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn iddi er mwyn meithrin amgylchedd cymdeithasol iach ac...
Sioned Williams: Rwyf innau'n falch hefyd o'r cyfle i siarad am y cynnig hwn heddiw, cynnig rwyf wedi ei gefnogi ac y bydd Plaid Cymru yn ei gefnogi, a hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl hon i'r Senedd. Fel y dywedodd, mae'n amserol dros ben. Gall rhwydweithiau cymdeithasol unigolyn gael effaith sylweddol ar ei iechyd, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac mae astudiaethau wedi dangos bod...
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Oes modd i chi egluro pa waith sy'n digwydd i adnabod y pynciau hynny ble mae prinder o athrawon cyfrwng Cymraeg uwchradd? Rŷn ni'n deall bod prinder difrifol o ran y rhai sy’n hyfforddi mewn pynciau fel ffiseg a mathemateg, er enghraifft, ac felly hoffwn wybod beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i ddadansoddi’r data er mwyn bwydo i mewn i’r gwaith o ddenu mwy o...
Sioned Williams: 8. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar unrhyw gynnydd mewn denu pobl i hyfforddi fel athrawon i ddysgu mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg? OQ58757
Sioned Williams: Diolch am eich diweddariad, Gweinidog. Mae'n siomedig clywed na fu ymateb clir hyd yma gan Lywodraeth y DU ynglŷn â mwy o arian i bobl sy'n lletya ac awdurdodau lleol i gynorthwyo gyda darparu cymorth i ffoaduriaid Wcreinaidd yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw hwn. Am holl eiriau cynnes Rishi Sunak yn Kyiv, nid yw Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn dangos cefnogaeth briodol i'r...
Sioned Williams: Gweinidog, gwnaeth hynny i mi sylweddoli mewn gwirionedd sut mae'r ymyl ddanheddog honno o rymoedd a chyfrifoldebau datganoledig anunion, ffiniol ond cyfun sy'n llywodraethu'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn un mor finiog i fenywod, a ddangoswyd, wrth gwrs, mor glir gan y llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Athro Richard Wyn Jones a Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant...
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Fe sonioch chi yn eich datganiad, ac rŷn ni wedi clywed am ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac rwy'n aelod ohono—. Fe ges i brofiad anhygoel, a dweud y gwir, anhygoel o werthfawr ar yr ymweliad yna i HMP Eastwood Park. Achos dyna lle roedden ni'n medru deall yn iawn, mewn gwirionedd, goblygiadau y modd y mae menywod Cymru yn cael eu...