Natasha Asghar: Prif Weinidog, yn gyntaf, llongyfarchiadau ar y pedair blynedd, a hoffwn ofyn hefyd: amcangyfrifir bod hyd at 80,000 o bobl yn bensiynwyr tlotach yng Nghymru mewn gwirionedd ac ar eu colled o ran credyd pensiwn, sydd werth hyd at £65 yr wythnos ar gyfartaledd, o'i gymharu â'r rhai sy'n hawlio, a bod dros £200 miliwn yn mynd heb ei hawlio bob blwyddyn. Yn y de-ddwyrain, mae bron i 17,500 o...
Natasha Asghar: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru am gynyddu ymwybyddiaeth pobl hŷn o'u hawliau?
Natasha Asghar: Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw, a hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn credu ei bod yn bwysig gwrthdroi'r dirywiad mewn gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Mae'n ffaith bod nifer y teithiau ar fws yng Nghymru wedi gostwng o 100 miliwn y flwyddyn yn 2016-17 i 89 miliwn yn 2019-20. Gan nad oes gan bron i 25 y cant o'r bobl yng Nghymru gar neu fan, mae angen gwrthdroi'r...
Natasha Asghar: Gweinidog, os gwelwch yn dda a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd am y gwasanaeth cyswllt toresgyrn yma yng Nghymru? Mae osteoporosis—rydym ni'n aml yn clywed amdano yma yn y Siambr—sy'n gallu achosi esgyrn i dorri drwy beswch neu hyd yn oed drwy gofleidio'r wyrion, yn effeithio ar fwy na 180,000 o bobl yng Nghymru ac yn costio £4.6 biliwn y flwyddyn i wasanaeth iechyd y DU....
Natasha Asghar: Diolch, Llywydd.
Natasha Asghar: Dim problem. Felly, Prif Weinidog, hoffwn wybod pryd mae Llywodraeth Cymru'n mynd i fynd i'r afael â blaenoriaethau'r bobl, neu a ellir disgrifio'r cytundeb cydweithredu honedig gyda'ch cyfeillion ym Mhlaid Cymru orau fel dyfais syml i achub Llafur cyn yr etholiadau nesaf? Diolch.
Natasha Asghar: Prif Weinidog, nid wyf i'n credu y byddwch chi'n cael eich syfrdanu gan yr hyn yr wyf i ar fin ei ddweud. Efallai nad wyf i'n rhannu'r un teimladau â Hefin David yn hyn o beth. Mae'r cytundeb cydweithredu hwn, y mae fy nghyd-Aelodau ar y meinciau hyn a'r rhai y tu allan i'r Siambr hon, i fod yn gwbl blaen, wedi bod yn cyfeirio ato fel clymblaid, oherwydd os yw'n edrych fel un mae yn un fel...
Natasha Asghar: Mae'r Bil Diogelwch Ar-lein, sydd ar hyn o bryd yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin, yn cyflawni ymrwymiad maniffesto Llywodraeth y DU i wneud y DU y lle mwyaf diogel yn y byd i fod ar-lein, gan amddiffyn rhyddid mynegiant ar yr un pryd. Mae'r Bil wedi cael ei gryfhau a'i egluro ers iddo gael ei gyhoeddi ar ffurf ddrafft ym mis Mai 2021, gan adlewyrchu canlyniad craffu seneddol helaeth....
Natasha Asghar: Diolch. Yn y ddadl hon, rwyf wedi cytuno i roi amser i Peter Fox, Jayne Bryant a Heledd Fychan gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Mae'n ffaith bryderus fod graddau cam-drin plant yn rhywiol ar-lein wedi bod yn cynyddu'n raddol. Mae ymchwil gan yr NSPCC yn dangos cynnydd decplyg wedi bod yn y troseddau cam-drin rhywiol ar-lein a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr dros y degawd diwethaf....
Natasha Asghar: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl hon ac i dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol busnesau bach i'n heconomi a hefyd i'n cymunedau. Mewn byd sy'n symud yn gyflym lle bydd busnesau i gyd yn chwilio am y cyfleoedd gorau, mae gan gwmnïau mawr fantais o allu adleoli i ranbarthau eraill a hyd yn oed gwledydd eraill i fanteisio ar drethi is a chymhellion eraill pe baent yn dymuno...
Natasha Asghar: Weinidog, mae’r diwydiant cig eidion byd-eang wedi mwynhau cyfres o ymgyrchoedd gwrth-gig yn ddiweddar o wahanol ffynonellau, sy'n gwneud honiadau difrifol am ddifrod amgylcheddol, problemau lles anifeiliaid a materion iechyd. Mae ffermio cig eidion yng Nghymru wedi dioddef o ganlyniad. Rwy’n gwerthfawrogi cwestiwn fy nghyd-Aelod i chi yn gynharach, ond un o’r ffyrdd o fynd i’r afael...
Natasha Asghar: Gweinidog, os gwelwch yn dda a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant am ddarpariaeth iechyd meddwl? Yn ddiweddar fe es i ar daith gyda Heddlu Gwent i gael deall sut fywyd sydd gan swyddogion heddlu ar draws y de-ddwyrain. Roedd yn agoriadol llygaid llwyr, ac roedd yn gyfle gwych i gael trafodaethau agored ac onest gyda swyddogion a staff o bob rhan o'r llu....
Natasha Asghar: Prif Weinidog, o'r wythnos diwethaf ymlaen, dechreuodd miliynau o bensiynwyr ar draws y DU gael £300 cychwynnol wrth i daliadau costau byw pensiynwr y Llywodraeth Geidwadol ddechrau cael eu dosbarthu. Bydd y taliadau hyn yn cael eu gwneud i dros 11 miliwn o bensiynwyr sy'n cael y taliadau tanwydd gaeaf, gan gynnwys tua 15,600 o bensiynwyr yng Ngorllewin Casnewydd. Yn ogystal â'r cynnydd o...
Natasha Asghar: Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?
Natasha Asghar: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Diolch am eich galwad arnaf i newid gyrfa yn y dyfodol, ond rwy'n eithaf bodlon lle rwyf fi. Rwy'n bwriadu aros yma am amser hir iawn gan fod angen i rywun eich dwyn i gyfrif. Yn yr un cyfweliad, gan ddychwelyd at Sharp End, Ddirprwy Weinidog, gofynnwyd i chi a all modurwyr ledled Cymru ddisgwyl gweld mesurau codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn cael eu cyflwyno....
Natasha Asghar: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Credwch fi, astudiais eich cyfweliad, a chan gadw at thema Sharp End yma, Ddirprwy Weinidog, gofynnwyd i chi a all pobl Cymru ddisgwyl gweld mwy o barthau terfyn cyflymder 50 mya—yn union fel y rhai aneffeithiol sydd eisoes wedi’u gosod ar hyd yr M4 yng Nghasnewydd, lle rwy'n byw—yn codi ar draws y rhwydwaith ffyrdd. Fe ateboch chi, 'Gallant.' Yn syml iawn,...
Natasha Asghar: Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yn ystod cyfweliad diweddar ar Sharp End, fe wnaethoch wawdio Bws Caerdydd am godi pryderon ynglŷn â'ch cynlluniau dadleuol i gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya ledled Cymru. Roeddent yn ofni y byddai'r newid—a fydd, mae'n rhaid imi bwysleisio, yn costio mwy na £32 miliwn—yn arwain at deithiau bws arafach a mwy annibynadwy. Ddirprwy Weinidog, mewn...
Natasha Asghar: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella trafnidiaeth gyhoeddus?
Natasha Asghar: Diolch am eich ateb, Gweinidog. Mae effeithiau dinistriol y pandemig yn parhau, yn anffodus, i gael eu teimlo gan wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Byddai'n rhesymol tybio, felly, y bydd eich Llywodraeth yn cymryd pob cyfle i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i adfer. Ond yn ddiweddar bu cyfarfod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn craffu ar gyfrifon Llywodraeth...
Natasha Asghar: Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Jayne Bryant am godi'r cwestiwn yma. Gweinidog, yn amlwg mae penderfyniad Llywodraeth y DU i atal Nexperia rhag caffael Newport Wafer Fab am resymau diogelwch cenedlaethol wedi achosi pryder mawr ymhlith y gweithlu ynghylch diogelwch eu swyddi a dyfodol y cwmni, y mae fy nghyd-Aelod newydd ei grybwyll. Mae dyfarniad ar faterion diogelwch cenedlaethol yn dal yn...