Sam Rowlands: Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw, 'Amrywiaeth mewn Democratiaeth—Canlyniadau Arolwg'. Diolch Gweinidog, am olwg o flaen llaw ar y datganiad i Aelodau heddiw hefyd. Fel y gwnaethoch chi ei amlinellu yn eich datganiad, Gweinidog, mae'r penderfyniadau y mae cynghorwyr yn eu gwneud yn cael yr effaith wirioneddol honno ar ein cymunedau ledled Cymru gyfan, ac ar yr ochr hon i'r...
Sam Rowlands: Diolch i Llyr Gruffydd am godi'r pwynt pwysig hwn, sydd, wrth gwrs, yn fater ehangach nad yw'n ymwneud yn unig â syndrom twnnel y carpws, ond â'r ffaith nad yw llawer o bobl sydd wedi talu eu trethi neu yswiriant gwladol dros ddegawdau lawer yn gallu cael triniaeth mewn modd rhesymol, amserol, fel rhywbeth y maent wedi talu amdano dros lawer iawn o flynyddoedd. Felly, tybed yn gyntaf oll,...
Sam Rowlands: Rwy'n siŵr fod hynny'n gyfraniad defnyddiol iawn, Llywydd. Rydym ni yma i graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru a'r datganiad a wnaed yma heddiw a siarad am hynny. Rwy'n siŵr yr hoffai'r Aelod gael ei hethol i San Steffan os oes arni eisiau craffu ar gyllideb San Steffan yn y dyfodol. Yn ail, Gweinidog, mae rhai cwestiynau difrifol i'w gofyn yma am eich ystyriaeth o gronfeydd wrth gefn...
Sam Rowlands: Byddwn i'n croesawu ymyrraeth. Dim problem o gwbl.
Sam Rowlands: Yn sicr, byddwn i wrth fy modd yn clywed yr ymyriad.
Sam Rowlands: Rydym ni'n byw mewn lle ac amser lle mae'n well bod yn fyw nag erioed o'r blaen, ac rydym ni wedi clywed cyfraniadau heddiw sy'n ymddangos mor negyddol am y wlad hon. Mae'n eithaf digalon. Mae gennym ni system les sydd yn un o'r rhai mwyaf cefnogol yn y byd, ac rydym ni'n cymryd camau breision tuag at fod yn wlad werdd a chynaliadwy ar draws y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs,...
Sam Rowlands: Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad heddiw ar y gyllideb ddrafft. Rwy'n casglu fy mod i tua diwedd y ddadl hon heddiw mae'n siŵr, ac mae yna dipyn o gyfraniadau wedi bod, a gwrando ar nifer o'r cyfraniadau, byddech chi'n meddwl y bydden ni'n byw mewn cyfnod a lle sy'n go enbyd. Ond fe hoffwn i ein hatgoffa ni gyd ein bod ni, mae'n debyg, yn byw yn un o'r cyfnodau gorau yn yr hil...
Sam Rowlands: Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r cyhoeddiad bod Vivarail Ltd wedi mynd i'r wal. Fel y gwyddoch chi, mae cynlluniau i gynyddu'r gwasanaethau trên yn ardal ffiniau'r gogledd nawr yn cael eu hatal, wedi i'r cwmni, Vivarail Ltd, a oedd yn cyflenwi'r trenau hyn, fynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Byddwch chi'n cofio, nôl yn 2018 bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud y...
Sam Rowlands: A gaf i yn gyntaf oll ymuno â chi, Prif Weinidog, i roi clod i'r awdurdodau lleol hynny am y gwaith y maen nhw eisoes yn ei wneud i geisio atal digartrefedd, ond cydnabod yr her sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig hwn? Fel y gwyddom, mae tua 14,000 o bobl yng Nghymru mewn llety dros dro ar hyn o bryd, ac wrth gymryd tystiolaeth drwy'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a...
Sam Rowlands: A gaf fi ddiolch i Mabon ap Gwynfor am roi munud o'i amser i mi yma heddiw? Rwy'n sylweddoli efallai fy mod ar dudalen wahanol i Mabon, a wnaeth y pwyntiau sydd wedi eu codi yma, ond mae gennyf ddiddordeb gwirioneddol mewn gwrando a deall rhai o safbwyntiau pobl eraill ynghylch ynni niwclear. Fe wneuthum nodi bod cydnabyddiaeth eithaf cyflym ar ddechrau eich cyfraniad i lwyth sylfaenol, ond...
Sam Rowlands: Diolch, Lywydd. Rwy'n falch heddiw o allu cyflwyno ein cynnig ar ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar, yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Ac wrth agor y ddadl heddiw, hoffwn egluro yn gyntaf nad dadl ar ba mor gywir yw'r rheoliadau 182 diwrnod a gyhoeddwyd yn gynharach eleni ydyw, ac fel y gwyddoch, ar yr ochr hon i'r meinciau, roeddem yn erbyn cyflwyno'r rheoliadau hyn, ac ym mis...
Sam Rowlands: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r adroddiad pwysig hwn ger ein bron heddiw? Ac a gaf fi hefyd gofnodi fy edmygedd o ffrindiau a theulu Mark, y gwn eu bod yn yr oriel gyhoeddus yma heddiw, a chanmol eu hymdrechion i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei drafod yma heddiw ar ffurf adroddiad? Fel y nodwyd eisoes gan Aelodau ar draws y Siambr, mae’n...
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac am y cymorth a roddwyd eisoes i’r sector gwirfoddol yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru. Fis diwethaf, cefais y pleser o ymweld â chanolfan achub anifeiliaid Freshfields yn Nebo ger Caernarfon. Mae'n rhaid imi ddweud, cyfarfûm â chath fach hyfryd yno o'r enw Benji, a chefais fy nhemtio'n fawr i fynd â Benji adref gyda mi. Maent yn gwneud gwaith gwych...
Sam Rowlands: 3. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r sector gwirfoddol yng Ngogledd Cymru? OQ58829
Sam Rowlands: A gaf i ymuno â'r Aelod dros Ynys Môn i dynnu sylw at rai o'r materion y mae busnesau ym Mhorthaethwy yn eu gweld ar hyn o bryd yn sgil cau Pont y Borth? Rwyf i hefyd yn cytuno ag ef ar rai o'r camau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd ar hyn o bryd i gynorthwyo'r busnesau hynny yno. Llwyddais i ymuno â chyfarfod ar fusnesau ym Mhorthaethwy gyda'r Aelod Seneddol dros Ynys Môn,...
Sam Rowlands: Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddweud cymaint o bleser yw cau dadl heddiw ar fusnesau bach, cyn Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, wrth gwrs, sy'n digwydd y penwythnos hwn, fel y clywsom? Fel yr amlinellodd Paul Davies wrth agor y ddadl heddiw, hon fydd y ddegfed flwyddyn lle byddwn yn nodi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac yn dathlu gyda'n cymheiriaid ar draws y Deyrnas Unedig y 5.6 miliwn o fusnesau...
Sam Rowlands: A gaf fi ategu galwad Ken Skates am amlygu'r cyfleoedd a geir yn sgil cydweithio trawsffiniol o'r fath yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, yn enwedig i drafnidiaeth yno, lle gwelwn oddeutu 200,000 o bobl yn croesi'r ffin yn ddyddiol? Ond yn wir, mae yna gyfleoedd eraill y credaf fod Cynghrair Mersi a'r Dyfrdwy, fel esiampl wych, yn ceisio manteisio arnynt, sef y cyfle i...
Sam Rowlands: A gaf fi ymuno â Jack Sargeant i gydnabod rhai o'r gwasanaethau pwysig iawn y mae ein hawdurdodau lleol yn eu darparu o ddydd i ddydd, yn enwedig ar adegau o anhawster y mae llawer yn eu profi ar hyn o bryd? Ac fel sydd wedi'i amlygu gan nifer o Aelodau o gwmpas y Siambr, mae'r awdurdodau lleol hynny unwaith eto'n profi heriau gyda'u sefyllfa ariannol. Un o'r pryderon allweddol sydd wedi'u...
Sam Rowlands: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddweud cymaint o bleser yw cau dadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar doiledau Changing Places? Hoffwn ddiolch i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan, ac yn enwedig am y gefnogaeth drawsbleidiol i'r cynnig ar draws y Siambr heddiw. Wrth gloi'r ddadl hon, hoffwn ganolbwyntio ar dri phwynt efallai y credaf eu bod wedi'u nodi gan y rhan fwyaf o'r Aelodau ar...
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn deall manteision economaidd cynhyrchu ynni ar y môr, yn enwedig ar gyfer fy ardal yng ngogledd Cymru. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Weinidog, fod yna gyfleoedd gwych mewn perthynas ag ynni llanw, nid yn unig i gefnogi ein hinsawdd, ond hefyd i ddod â chyfleoedd gwaith uniongyrchol a buddsoddiad...