Samuel Kurtz: Diolch i chi am eich ateb. Mae'n bwysig i ni yma, a phawb sydd eisiau i'r iaith lwyddo, ymddiried a gallu craffu ar y polisïau a'r data a ddefnyddir i'w cefnogi. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio data i fesur llwyddiant eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, neu'r WESPs, fel y clywom ni yn gynharach. Os yw'r data yn annibynadwy, fe allai rwystro eu hymdrechion i ddatblygu mwy o...
Samuel Kurtz: Diolch, Llywydd. Blwyddyn newydd dda i chi, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yr un mor bryderus â minnau am y gostyngiad yn y defnydd o'r Gymraeg yn yr adroddiad a ddisgrifiwyd yng nghanlyniadau cyfrifiad 2021. Yn eich ymateb i gwestiwn gan Heledd Fychan ar y pwnc cyn y Nadolig, dywedaist ti fod rhai ffynonellau data yn dangos cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg, tra bod eraill, gan gynnwys y...
Samuel Kurtz: Weinidog, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn rydych chi'n ei ddweud yno, felly byddai'n wych pe baech yn ymuno â ni nos Fawrth, oherwydd mae Cefin a minnau, Jane Dodds a Joyce Watson yn cynnal derbyniad nos Fawrth yma yn y Senedd o'r enw 'Derbyniad Clwstwr Ynni'r Dyfodol yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau', i ganolbwyntio ar ynni gwynt arnofiol ar y môr a'r cyfleoedd sydd ar gael i ni yn sir Benfro,...
Samuel Kurtz: Diolch, Llywydd. Blwyddyn newydd dda i chi ac i bawb.
Samuel Kurtz: Dau ddatganiad, os caf i, Llywydd. Yn dilyn gohebiaeth ysgrifenedig gennych chi'ch hun, Gweinidog, rwy'n gofyn am ddatganiad am gynnydd syfrdanol mewn ffioedd a thaliadau rheoleiddiol Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel y gwyddoch chi, bydd y tâl arfaethedig ar gyfer gwaredu dip defaid yn codi deg gwaith, gydag CNC yn darparu dim tystiolaeth yn sail i'r cynnydd hwn. Hefyd, bydd y tâl am drwyddedau...
Samuel Kurtz: Yn gyntaf, a gaf fi longyfarch yr Aelod dros Fynwy ar gyflwyno deddfwriaeth mor hanfodol? Fel y mae'r Aelod wedi'i nodi'n gywir yn ei ddatganiad agoriadol, nid yn unig y mae Bil Bwyd (Cymru) yn darparu fframwaith sylfaenol i sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru, ond fel y clywsom y prynhawn yma mae'n cryfhau ein diogeledd bwyd, yn gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru ac yn...
Samuel Kurtz: Ddoe, cefais gyfle i gyfarfod â Floventis Energy, un o'r nifer o gwmnïau gwynt ar y môr arnofiol sydd wedi dewis buddsoddi yn y môr Celtaidd. Mae Floventis wedi datblygu'r gallu i gynhyrchu 200 MW o ynni gwynt ar y môr arnofiol, 35 km oddi ar arfordir sir Benfro—chwaraewr allweddol arall sy'n ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau sero net. Mae'r cyfleoedd yn y môr Celtaidd yn enfawr,...
Samuel Kurtz: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi gweithlu'r GIG y gaeaf hwn?
Samuel Kurtz: Diolch i Heledd Fychan am gyflwyno'r cwestiwn hwn. Rwy'n siŵr, Weinidog, eich bod yn rhannu fy mhryderon bod y ffigurau a gafodd eu cyhoeddi ddoe yn hynod siomedig—fe ddywedoch chi hynny ar Twitter dwe, ac wrth ymateb i Heledd hefyd. Mae fy mhryderon am atebolrwydd y targed hwn yn cael eu cadarnhau unwaith eto gan y ffigurau diweddaraf hyn. Fel y dywedais o'r blaen, mae 'Cymraeg 2050' yn...
Samuel Kurtz: Prif Weinidog, ddoe, cafodd ochenaid o ryddhad ar y cyd ei theimlo ledled gêm broffesiynol rygbi dynion yma yng Nghymru, nid oherwydd dychweliad Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru, ond oherwydd bod fframwaith chwe blynedd ar gyfer rygbi proffesiynol yng Nghymru wedi'i gytuno ar lafar. Ddydd Sul fe ryddhaodd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru ddatganiad yn mynegi pryder gan fod lles...
Samuel Kurtz: 8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru'n hyrwyddo chwaraeon yng Nghymru? OQ58845
Samuel Kurtz: Diolch. Rwy'n ddiolchgar i chi am ildio. Heriais y Gweinidog newid hinsawdd ar yr union bwynt hwn, oherwydd ar y Cei yn fy etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, mae busnesau fel Quayside Orthodontics a Towy Works wedi dioddef llifogydd. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi y dylai busnesau gael eu trin yn gyfartal ag ardaloedd preswyl mewn perthynas â diogelu rhag llifogydd?
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Mae'n peri pryder, os nad oes gennych chi'r wybodaeth llinell sylfaen honno ar gael, sut y gwyddom fod y prosiectau y mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn mynd i'w cyflwyno o fudd i atafaelu carbon mewn gwirionedd, gan nad oes gennym y ffigur sylfaenol i weithio ohono? Felly, er bod carboniaduron allan yno y gall pob fferm eu defnyddio, rydych chi a minnau'n gwybod fod...
Samuel Kurtz: Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb, ac o ystyried eich cyfarfod ddydd Llun, byddai'n dda clywed gennych a yw datgan amod eithriadol yn y farchnad yn rhywbeth sy'n cael ei drafod yn y cyfarfod hwnnw ddydd Llun. Oherwydd, yn anecdotaidd, yn y brecwast Hybu Cig Cymru ddydd Llun yn y ffair aeaf, nid oedd unrhyw wyau yn y brecwast, sy'n dangos cymaint o anhawster y mae'r diwydiant yn ei wynebu...
Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Weinidog, dair wythnos yn ôl, fe fuoch chi a minnau'n trafod gwerth Gorchymyn cadw adar dan do i Gymru gyfan oherwydd ffliw adar. Yn eich ymateb i fy apêl am y polisi rhagataliol hwn, fe ddywedoch chi nad oedd y dystiolaeth a oedd gan bob prif swyddog milfeddygol yn galw am ymateb o'r fath yma yng Nghymru. Symudwn ymlaen i'r wythnos diwethaf, ac yn dilyn pwysau gennyf fi, y...
Samuel Kurtz: Trefnydd, a gaf i ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd wneud datganiad ar effaith cynllun masnachu allyriadau'r DU, ETS, ar sector ynni Cymru? Yr wythnos diwethaf, cwrddais â fforwm ynni Haven, casgliad o gynrychiolwyr o'r diwydiant sydd wedi mynegi eu pryder ar y cyd am weithredu a rhoi'r ETS ar waith yn y dyfodol. Mae'r busnesau'n cynnwys purfa olew Valero a gorsaf bŵer RWE yn fy etholaeth i...
Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw, a diolch i Blaid Cymru am ei chyflwyno. Fel siaradwyr eraill, hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy dalu teyrnged i'r holl weithwyr rheng flaen yn ein GIG. Maent wedi ein harwain yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws, o drin pobl mewn ysbytai i roi brechlynnau yn rhan o ymdrech frechu'r DU sy'n arwain y byd. Rwyf am achub ar y cyfle i...
Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar fy mod yn gallu dilyn cyfeiriad cwestiynau'r Aelod mewn perthynas â'r lwfans cynhaliaeth addysg. Cafodd 18,650 o fyfyrwyr gymorth y lwfans cynhaliaeth addysg yn y flwyddyn 2020-21. Fel rhywun a oedd yn gymwys i gael y lwfans hefyd, rwy'n gwybod bod deall sut y gall myfyrwyr gael mynediad ato a pha fyfyrwyr sy'n gymwys yn gymhleth, ac yn wir, wrth siarad ag adran ymchwil y...
Samuel Kurtz: Diolch i Adam Price am gyflwyno'r cwestiwn hwn, oherwydd mae'n berthnasol i fy etholwyr innau hefyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro sydd, dros y penwythnosau diwethaf, wedi cael eu taro gan ddiflastod ac oedi wrth iddynt deithio i ac o Gaerdydd ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol yr hydref yng Nghymru. 'Wedi ymlâdd', 'dim syniadau newydd' a 'di-gyfeiriad' oedd y geiriau a ynganwyd...
Samuel Kurtz: Trefnydd, a gaf i ofyn am eich diweddariad blynyddol ar raglen dileu TB Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda? Cafodd hwn ei gynnal ddiwethaf ar 16 Tachwedd y llynedd, ac fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae TB mewn gwartheg wedi bod yn llinyn negyddol parhaus ledled amaethyddiaeth Cymru yn ystod y ddegawd ddiwethaf, gan achosi poen a loes calon enfawr i ffermwyr Cymru. Gyda'r ffair aeaf—ffair...