Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn i'n gweld yn ddiweddar cyhoeddiad ym Madrid eu bod nhw'n mynd i gael mannau gwyrdd agored o amgylch y ddinas yna, ac mae ymgyrchydd lleol yng Nghaerdydd, Steffan Webb, yn trio gwneud rhywbeth tebyg fan hyn. Mae parciau gwych yng Nghaerdydd, ond roedd y mwyafrif llethol wedi cael eu hagor yn oes Fictoria. Mae modd creu parciau newydd yng Nghaerdydd, mewn...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Weinidog. Mae gan ein ffrindiau yn yr Alban fwy o ysgogiadau at eu defnydd na ni. Mae ganddynt system dreth incwm flaengar, a gyflwynwyd gan Lywodraeth SNP Yr Alban, sy'n sicrhau bod y rhai ar incwm is yn talu llai o dreth nag mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, gan gefnogi gwasanaethau cyhoeddus cryfach tra'u bod yn diogelu'r rhai ar incwm is; system dreth decach lle...
Rhys ab Owen: 7. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ddiwygio polisi treth oherwydd yr argyfwng costau byw? OQ58603
Rhys ab Owen: 6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd er mwyn sicrhau bod gan ddatblygiadau tai newydd fannau gwyrdd cymunedol? OQ58602
Rhys ab Owen: Fel y dywedais i, nid mater cyfansoddiadol yn unig yw hwn. Mae e'n bwysig ein bod ni'n cael Deddfau fel hyn yn iawn er mwyn helpu pobl ein gwlad ni trwy sefyllfa sydd mor echrydus o anodd. Diolch yn fawr.
Rhys ab Owen: Pwrpas Senedd ddeddfwriaethol yw pasio Deddfau, Mike. Does dim pwynt i ni fel arall, ac mae'n rhaid, wrth gwrs, fel mae set-up y Senedd—. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth drafod gyda'r gwrthbleidiau os ydyn nhw eisiau i'w Deddfau eu pasio. Dyna yw hanfod Senedd sy'n cydweithio gyda'i gilydd.
Rhys ab Owen: Mae problemau gyda'r Bil hwn. Mae un o bwyllgorau Tŷ'r Arglwyddi wedi nodi problemau gyda'r Bil hwn; mewn perthynas ag un o'r cymalau y gofynnir inni roi cydsyniad iddynt, cymal 22, maent yn gadarn o'r farn ei bod yn amhriodol rhoi'r pŵer hwnnw i'r Ysgrifennydd Gwladol. Bydd yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiystyru deddfwriaeth sylfaenol, a gwrthod barn y rheoleiddiwr, Ofgem. Rwy'n...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr i chi am y cyfle i ddweud ambell i air ar yr LCM diweddaraf yma. Dyma’r seithfed ar hugain LCM o fewn y Senedd hon. I gymharu â’r pedwaredd Senedd, dim ond wyth LCM a aeth trwy’r pedwaredd Senedd i gyd. Mae hwn yn LCM ar Fil pwysig iawn, ond cafodd ei osod dim ond ddoe o flaen y Senedd, ac rŷn ni’n gofyn i bleidleisio arno fe heddiw. Nid mater cyfansoddiadol yn unig...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr am hynny, Weinidog. Rwy'n falch o glywed am y cytundeb cyfreithiol. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi nad yw'n foddhaol fod lesddeiliaid yn mynd â datblygwyr i'r llys ar hyn o bryd. Ni ddylai hynny fod yn digwydd, ac un enghraifft yw Celestia gerllaw. Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi sôn am amserlenni gyda datblygwyr; a wnewch chi roi diweddariad i ni ar yr amserlenni...
Rhys ab Owen: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch adeiladau ymhellach i'w datganiad ysgrifenedig ar 7 Hydref? OQ58566
Rhys ab Owen: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Cwnsler Cyffredinol am gynnydd a'r amserlen a ragwelir ar gyfer dadansoddiad anghenion arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn y sector cyfreithiol yng Nghymru?
Rhys ab Owen: Brif Weinidog, mae'r gallu gan y Senedd hon i basio deddfwriaeth frys a deddfwriaeth trwy weithdrefnau carlam. Enghraifft o'r ddeddfwriaeth frys oedd Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, a gweithdrefnau carlam i'r Bil plastig untro. Y ddadl a ddefnyddiwyd dros ddefnyddio proses y legislative consent motion ar gyfer diogelwch adeiladau oedd ei bod hi'n gynt na deddfu yma yn y Senedd. Ond,...
Rhys ab Owen: Weinidog, mae'n amlwg bod yna broblem o fewn y maes yma. Ddydd Gwener diwethaf ces i ddau e-bost oddi wrth etholwyr am fethu â chael gwasanaeth i'w plant nhw. Roedd un yn cael ei hannog i fynd yn breifat gan y deintydd, a dywedwyd wrth y llall gan eu deintydd nhw y byddan nhw'n aros i'w plentyn dwyflwydd oed nhw am o leiaf dwy flynedd cyn cael apwyntiad. Mae iechyd dannedd plant Cymru yn...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol, ac rŷn ni fel Plaid Cymru yn croesawu unrhyw ymgais i'w gwneud hi'n haws i bobl bleidleisio. Rŷn ni'n edrych ymlaen i weld y manylion wrth i'r ymgynghoriad fynd yn ei flaen.
Rhys ab Owen: Pam nad ydym ni'n fodlon newid y system bleidleisio? Mae popeth arall yn y byd yn newid. Ond mae Mr Ludiad draw fan hyn yn dymuno i ni aros yn oes yr injan stêm o ran pleidleisio, yn hytrach na mynd gyda'r oes ddigidol. Ond prin ei bod hi'n syndod, serch hynny, i glywed Darren Millar yn gwrthwynebu newid. Wrth gwrs, fe wrthwynebodd ei blaid bob diwygiad ers Deddf Diwygio 1832, oni wnaethon...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Brif Weinidog, ac roeddwn i’n gresynu’n fawr clywed eich ateb chi i fy nghyfaill i, Joyce Watson. Mae’r diffyg cyfathrebu â chi gan Brif Weinidog Prydain nid yn unig yn haerllug i chi a’ch swyddogaeth, ond yn haerllug i’r Senedd gyfan yma, a dwi’n gobeithio y bydd fy nghyfeillion i gyferbyn yn dweud y neges yna i’r Prif Weinidog. Os nad yw fy nghyfeillion...
Rhys ab Owen: 6. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â phwerau pellach i Gymru? OQ58532
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Llywydd. Edrychaf ymlaen at glywed hynny. Dwi'n synnu dim eich bod chi wedi bod yn trafod yn barod. Mae hi mor braf onid yw hi? Dwi wrth fy modd yn gweld plant o ganolfan yr Urdd, nifer ohonyn nhw'n ffoaduriaid, yn chwarae criced a gemau eraill yn erbyn wal y Senedd. Mae hi mor hyfryd, wrth gwrs, gweld yr holl ysgolion sy'n ymweld â'r Senedd. Mae hi mor braf bod gyda ni...
Rhys ab Owen: Rwy'n falch iawn o glywed yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol, oherwydd nid dyna'r argraff a roddwyd yn y pwyllgor ddydd Llun. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi y bydd rhywfaint o bwysigrwydd polisi bob amser i unrhyw ddeddfwriaeth—ni fyddem yn pasio unrhyw ddeddfwriaeth yn y lle hwn oni bai ei bod yn bwysig. Felly, gellid defnyddio rhesymau i osgoi Cyfnod 1, neu ba gyfnod bynnag, ar...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Lywydd. Ar 5 Gorffennaf, dywedodd y Prif Weinidog y byddai Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft ymarferol gyda Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Am y rheswm hwnnw y cafodd proses Cyfnod 1 ei hosgoi. Ddydd Llun, o flaen y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, dywedodd y Gweinidog Newid...