Canlyniadau 61–80 o 3000 ar gyfer speaker:Jack Sargeant OR speaker:Jack Sargeant OR speaker:Jack Sargeant OR speaker:Jack Sargeant OR speaker:Jack Sargeant

4. Datganiadau 90 Eiliad (11 Ion 2023)

Jack Sargeant: Ac yn olaf, Lywydd, viva Gareth Bale.

4. Datganiadau 90 Eiliad (11 Ion 2023)

Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Lywydd. Ac fel y dywedoch chi, yr wythnos hon, clywsom y newyddion fod y pêl-droediwr a sgoriodd y nifer fwyaf o goliau i dîm dynion Cymru, Gareth Bale, yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol. Lywydd, nid yw'r ystadegau ar eu pennau eu hunain yn rhoi darlun llawn o’r llawenydd a roddodd Bale i bob un ohonom. Bydd ein cenedl falch yn ddiolchgar am byth o fod wedi bod yn dyst...

3. Cwestiynau Amserol: Yr Hawl i Streicio (11 Ion 2023)

Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb? Lywydd, rwyf am ddatgan diddordeb fel aelod undeb llafur balch o Unite the Union a Community. Gadewch inni fod yn glir yma; mae penderfyniad Torïaid y DU i gyflwyno Bil gyda'r nod o ddiswyddo gweithwyr allweddol yn sarhad ar ddemocratiaeth. Lywydd, bydd y ddeddfwriaeth Dorïaidd hon yn golygu, pan fydd gweithwyr yn pleidleisio'n...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysgu Sgiliau (11 Ion 2023)

Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Mae cwmnïau fel Airbus yn fy etholaeth fy hun yn buddsoddi mewn gwaith i ddatgarboneiddio eu gweithrediadau i ddarparu'r awyren ddi-allyriadau gyntaf yn y byd. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen pontio sgiliau'n sylweddol ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau bod gan Gymru y doniau cywir i gynhyrchu awyrennau mewn modd gwyrdd ym Mrychdyn yn y...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysgu Sgiliau (11 Ion 2023)

Jack Sargeant: 5. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod y sgiliau sydd eu hangen ar ddiwydiant yn cael eu haddysgu yn system addysg Cymru? OQ58905

3. Cwestiynau Amserol: Yr Hawl i Streicio (11 Ion 2023)

Jack Sargeant: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cynlluniau Llywodraeth y DU i gyfyngu ar yr hawl i streicio yn ei chael ar weithwyr yng Nghymru? TQ704

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Costau Byw (10 Ion 2023)

Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am gyflwyno datganiad heddiw, a hefyd am ddatganiad ysgrifenedig y Gweinidog yn ystod cyfnod y Nadolig, gan roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am ei chyfarfodydd â chyflenwyr ynni. Mae tlodi yn mynd â'r holl sylw ym mywydau pobl. Mae'n achosi straen, mae'n achosi afiechyd, ac mae'n gadael creithiau sy'n para am oes. A bod yn hollol onest, Dirprwy...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (10 Ion 2023)

Jack Sargeant: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch a yw gosod mesuryddion rhagdalu gan gyflenwyr ynni yn cyfrannu at dlodi yng Nghymru?

9. Dadl Fer: Gwasanaethau Bancio yn Gymraeg (14 Rha 2022)

Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n falch iawn i gael y cyfle i ddod â'r ddadl bwysig yma i'r Senedd heddiw.

9. Dadl Fer: Gwasanaethau Bancio yn Gymraeg (14 Rha 2022)

Jack Sargeant: Lywydd, wrth agor y ddadl heddiw, cytunais i roi munud o fy amser yn nadl olaf y Senedd y tymor hwn i Rhun ap Iorwerth. Lywydd, cyflwynais y ddadl hon, o dan y teitl 'Gwasanaeth Bancio yn Gymraeg', yn dilyn mater a gafodd ei ddwyn i fy sylw gan etholwr i mi yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Roeddent wedi penderfynu cofrestru cyfrif banc ar-lein ar gyfer eu plentyn newydd-anedig. Penderfynasant...

4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2023-24 (13 Rha 2022)

Jack Sargeant: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2023-24 (13 Rha 2022)

Jack Sargeant: Diolch, Janet. Dim ond cyfeirio'n ôl at eich datganiad am arian trethdalwyr, tybed a ydych chi'n cytuno â mi fod y sgandal cyfarpar diogelu personol yn San Steffan, lle roedden nhw'n gwastraffu arian trethdalwyr a'i roi i'w cyfeillion yn Nhŷ'r Arglwyddi, ydych chi'n cytuno â mi bod hynny'n warth gwirioneddol, ac y gellid bod wedi gwario hwnnw'n well yn y DU ac yng Nghymru?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Taith y Prif Weinidog i Qatar (13 Rha 2022)

Jack Sargeant: A gaf i ddiolch i Joel James am gyflwyno'r cwestiwn hwn, ac am ei gwestiwn atodol pwysig? Fel y mae Joel wedi dweud, rydym ni i gyd yn falch, onid ydym ni, o'n tîm cenedlaethol, y dynion a'r menywod, ac mae'r chwe blynedd diwethaf o gefnogi Cymru yn sicr wedi bod y gorau yn fy oes i, ac rwy'n siŵr bod hynny yr un fath i lawer o bobl eraill yma, er efallai fod fy oes i ychydig yn fyrrach nag...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau — 'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi' ( 7 Rha 2022)

Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, yn enwedig Vikki Howells, a soniodd am effaith ddinistriol colli ei disgybl, Daniel, a’r effaith ddinistriol a gafodd hynny ar y gymuned a’r gymuned ehangach? Os caf gyffwrdd â sylwadau Huw Irranca-Davies a Sam Rowlands, fel y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud, byddaf innau hefyd yn awyddus i...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau — 'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi' ( 7 Rha 2022)

Jack Sargeant: Lywydd, af yn ôl at argymhelliad 3—rwy'n credu mai dyna pryd y torrodd allan. Rwy'n croesawu'r ymateb cadarnhaol i argymhelliad 3, i ddod â phartneriaid ynghyd, gan adeiladu ar y gwaith da sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd. Mae’n rhaid ymwreiddio rhaglen addysg a diogelwch dŵr yn ein system addysg, gyda chynllun gweithredu clir ar gyfer ei chyflwyno...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau — 'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi' ( 7 Rha 2022)

Jack Sargeant: —ar yr adroddiad, 'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch Dŵr ac Atal Boddi'. Fe greodd Leeanne Bartley, sydd yma yn yr oriel heddiw gyda'i gŵr, David, y ddeiseb hon yn dilyn marwolaeth drasig ei mab. Dim ond 18 oed oedd Mark pan fu farw ym mis Mehefin 2018 ar ôl neidio i gronfa ddŵr rewllyd ar ddiwrnod poeth. Mae'r teulu'n credu y gallai fod wedi cael ei achub pe bai cortyn taflu ar gael ger y...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau — 'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi' ( 7 Rha 2022)

Jack Sargeant: Diolch yn fawr. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon—

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Nwyddau Mislif am Ddim ( 7 Rha 2022)

Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am gytuno i grwpio'r cwestiynau. Gomisiynydd, diolch am eich ateb i Heledd Fychan. Y rheswm pam y cyflwynais y cwestiwn hwn oedd yn dilyn sgwrs a gefais gydag aelod o staff. Daethant ataf i ofyn a oedd gennyf ddarn £1 i'w ddefnyddio mewn peiriant gwerthu yn Nhŷ Hywel. Nid oedd un gennyf—ychydig iawn o bobl sydd ag un y dyddiau hyn. Esboniodd i mi pa mor...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.