Canlyniadau 61–80 o 500 ar gyfer speaker:Mabon ap Gwynfor

4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24 ( 7 Chw 2023)

Mabon ap Gwynfor: Does dim tystiolaeth o gwbl i awgrymu bod y rheoliadau newydd yn cyfrannu at adran 21, ond rwyf yma i siarad am bobl ddigartref, nid i amddiffyn y landlordiaid. Felly, mae tystiolaeth i ddangos bod y grant cymorth tai, y gwasanaethau a ddarperir gan y cyllid ar gyfer y grant hwnnw, yn darparu arbediad net o £1.40 am bob £1 a fuddsoddwyd drwy atal digartrefedd. Mae'r grant cymorth tai yn...

4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24 ( 7 Chw 2023)

Mabon ap Gwynfor: Ie, ewch amdani, Janet. 

4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24 ( 7 Chw 2023)

Mabon ap Gwynfor: Nawr, rwy'n deall ei bod hi'n amhosibl drafftio cyllideb sy'n plesio pawb, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni. Mae cyllideb yn adlewyrchiad o'ch gwleidyddiaeth, ac mae gwleidyddiaeth, wedi'r cyfan, yn ymwneud â blaenoriaethau. A hoffwn siarad am un o'r blaenoriaethau hynny sy'n cael ei arddel yn aml—sef mynd i'r afael â digartrefedd. Mae digartrefedd yn bla a ddylai neb mewn gwlad...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Chw 2023)

Mabon ap Gwynfor: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddiweddariad gan y Llywodraeth ynglŷn â'r cynnydd mewn cyllid i weithwyr gofal, os gwelwch yn dda? Ym mis Rhagfyr 2021, rwy'n credu, cyhoeddodd y Llywodraeth gyllid i sicrhau bod gweithwyr gofal yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol, oedd fod i gael ei dalu i'r gweithwyr gofal o fis Ebrill...

10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) (31 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: Wel, ni ddylai'r Senedd yma gefnogi'r LCM yma ar unrhyw gyfrif. Byddai cefnogi'r cynnig yn bradychu ffermwyr Cymru, ac yn gadael ein sector amaethyddol yn agored i gael ei thanseilio'n llwyr gan gynhyrchwyr cig coch o ben draw'r byd. Mae gan y Llywodraeth yma sawl polisi blaengar, megis targedau uchelgeisiol amgylcheddol, polisïau caffael lleol, heb sôn am ddeddfwriaeth cenedlaethau'r...

8. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoli BVD mewn gwartheg a’r clafr mewn defaid yng Nghymru (31 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Mae'n ddatganiad hirddisgwyliedig, a thra bod yna lawer o bethau yno i'w groesawu, mae'n flin gen i ddweud fy mod i hefyd yn siomedig. Os caf i gychwyn efo BVD. BVD, fel rydyn ni wedi clywed, ydy un o'r heintiau a'r heriau mwyaf sydd yn wynebu'r sector gwartheg yng Nghymru, ac yn wir, yn y Deyrnas Gyfunol. Mae yna lawer gormod o wartheg yn dioddef o'r...

3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Canolfan Awyrofod Eryri (31 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi buddsoddi milynau i mewn i ddatblygu canolfan awyrofod Eryri yn Llanbedr, ac mae gan y Llywodraeth uchelgeisiau arallfydol ar gyfer datblygu Cymru fel cenedl sy'n arwain mewn technoleg ofod. Ond, dywed arbenigwyr yn y maes, a'r tenantiaid sydd ar y safle, fod gwireddu'r uchelgeisiau yma am fod yn amhosibl heb wella'r...

3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Canolfan Awyrofod Eryri (31 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Ganolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr? OQ59050

8. Dadl Plaid Cymru: Lleihau'r pwysau ar y GIG (25 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: Rôn i allan ar linellau piced y gweithlu ambiwlansys ddydd Llun a dydd Iau diwethaf, yn siarad efo aelodau Unite am eu profiadau, a gofyn pam eu bod nhw wedi penderfynu gweithredu'n ddiwydiannol. Ac roedd y sgyrsiau efo Fiona, Ludwig, Catrin, Robin a'r gweddill yn werthfawr. Roedd eu hatebion yn drawiadol, a phob un yn dweud yr un peth. Roedd cyflog a'r chwyddiant diweddar yn rhan o'r mix....

5. Datganiadau 90 Eiliad (25 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: Dwi am gymryd y cyfle i longyfarch O Ddrws i Ddrws, elusen cludiant cymunedol yn Llŷn, am ddarparu 20 mlynedd o wasanaeth i drigolion yr ardal. Ymgorfforwyd O Ddrws i Ddrws yn Ionawr 2003 ac, ers hynny, mae wedi cludo cannoedd o deithwyr ar filoedd o siwrneiau angenrheidiol—o apwyntiadau meddygol, siopa lleol neu ymweld ag anwyliaid, i ysgol, coleg neu i'r gwaith. Erbyn hyn, mae'r elusen...

QNR: Cwestiynau i Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (25 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn fodlon bod y mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 yn orfodadwy?

QNR: Cwestiynau i Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (25 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei wneud o'r effaith y bydd penderfyniad Senedd y DU i atal Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (yr Alban) yn ei chael ar ddatganoli yng Nghymru?

10. Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 (24 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: Diolch am y datganiad y prynhawn yma; mae o i'w groesawu yn fawr iawn. Mae o'n dangos dyhead ac uchelgais Cymru i fod yn wlad ac yn genedl o noddfa, ac mae'r datganiad yma'n sicr yn gam pwysig i'r cyfeiriad hwnnw. Fel y gŵyr y Gweinidog, mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn cynnal ymgynghoriad i ffoaduriaid o Wcráin sydd yn dod i Gymru er mwyn dianc troseddau Putin ar hyn o bryd. Mae'r...

7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyfrifiad 2021 — Y Canlyniadau o ran y Gymraeg (24 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad—mae yna dipyn o waith cnoi cil yn y fan honno. Mae hi'n bryder, wrth gwrs, gweld y cwymp yng Ngwynedd, er enghraifft. Mae'n rhaid i fi, ar yr adeg yma, rŵan, gymryd y cyfle i dalu teyrnged i waith rhagorol Cyngor Gwynedd dros gyfnod o ddegawdau er mwyn sicrhau bod yn agos i bob plentyn sy'n mynd drwy'r system addysg yno yn rhugl yn y Gymraeg. Ond sut,...

4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Targedau Ynni Adnewyddadwy (24 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: Hoffwn godi dau bwynt a gofyn dau gwestiwn, os caf. Er mwyn cyflawni ein nodau a chyrraedd ein targedau, yn amlwg mae angen prosiectau ar raddfa fawr, ond gallwn ni i gyd chwarae rhan hefyd, a bydd prosiectau ar raddfa lai gyda'i gilydd yn chwarae rhan sylweddol. Yn Lloegr, caniateir tyrbinau gwynt bach wedi'u gosod ar do o dan ddatblygiad a ganiateir. Ond nid yw hawliau datblygu a ganiateir...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (24 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: A gaf i ofyn am gyhoeddiad brys, os gwelwch yn dda, gan y Dirprwy Weinidog dros drafnidiaeth ynghylch cyhoeddiad a wnaed wythnos diwethaf gan gwmni bysiau Llew Jones, sydd yn mynd i ddirwyn i ben y gwasanaeth T19 o Flaenau Ffestiniog i Landudno mewn pythefnos ar 11 Chwefror? Cafodd y gwasanaeth T19 ei lansio flwyddyn a hanner yn ôl, i gymryd lle'r X19. Mae nifer fawr o bobl bro Ffestiniog yn...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb. Felly, yn ôl y Gweinidog, mae yna lawer o fudd wedi bod i gymunedau Cymru, ac mi rydych chi am barhau efo hyn. Sut felly y mae'r Gweinidog yn esbonio bod bron i hanner y ceisiadau llwyddiannus o dan gynllun creu coetir yn ffenestr ymgeisio rhif 10 wedi mynd i ymgeiswyr a chyfeiriadau y tu allan i Gymru? Yn ôl ateb gefais i i gwestiwn...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: Diolch, Llywydd. Mae gan y Llywodraeth dargedau plannu coed uchelgeisiol, sy'n cael eu hadlewyrchu yn y Bil Amaeth newydd. Mae'r Dirprwy Weinidog dros yr amgylchedd wedi bod yn llafar yn sôn am fuddiannau posib economaidd plannu coed i ffermydd a chymunedau Cymru. Ond mae'r gwaith o blannu coed ar ffermydd eisoes yn mynd rhagddo ers blynyddoedd, drwy gynllun creu coetir Glastir. Felly, pa...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwasanaethau Cyhoeddus Anstatudol (18 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn am hwnna, a dŷch chi'n rhoi'r cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol, wrth gwrs, ond chi sy'n gwneud y toriadau. Pa gyngor, felly, sydd gennych chi i awdurdodau sydd rŵan yn gorfod penderfynu rhwng cau canolfannau dydd i'r henoed, torri gwasanaethau datblygu'r economi, cau canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, lleihau trafnidiaeth gyhoeddus, gwneud llai i ddelio â'r argyfwng...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwasanaethau Cyhoeddus Anstatudol (18 Ion 2023)

Mabon ap Gwynfor: 5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch y disgwyliad eu bod yn cynnal gwasanaethau cyhoeddus anstatudol yn dilyn cyllideb 2022-23? OQ58968


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.