Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Lywydd. Dirprwy Weinidog, fe wnaeth adroddiad gan Sefydliad Materion Cymreig gafodd ei gyhoeddi y llynedd ddisgrifio mai cymunedau yng Nghymru oedd â'r lleiaf o rym ym Mhrydain. Dywedodd ymhellach fod pobl yn wynebu proses lafurus a digalon i arbed asedau, fel canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a thir, a'i bod yn hynod debygol bod llyfrgelloedd a thir wedi'u colli oherwydd...
Heledd Fychan: 9. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella recriwtio a chadw staff yn y GIG? OQ59056
Heledd Fychan: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Heledd Fychan: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Heledd Fychan: Ymwelais â'r ysbyty dan sylw ym mis Awst, a dyma'r sefyllfa y rhoddwyd gwybod i mi amdani ar y pryd. Ymwelais eto'n ddiweddar, a dyna oedd y sefyllfa o hyd—i roi rhywfaint o gyd-destun.
Heledd Fychan: Wrth ymweld ag ysbytai, ymweld â llinellau piced, a siarad â gweithwyr y GIG, maent yn disgrifio system sydd mewn argyfwng ac sy'n eu hatal rhag gallu gwneud eu gwaith hyd eithaf eu gallu. Gwyddant fod pobl y gallent eu hachub yn marw, ac mae hynny’n cael effaith ar eu hiechyd a’u lles, sy’n golygu bod cadw staff yn dod yn bryder cynyddol. Dyna pam mai ail gam ein cynllun pum pwynt yw...
Heledd Fychan: Mae gweithlu'r gwasanaeth iechyd yn gwneud gwaith arwrol bob dydd. Dwi'n siŵr bod pob un ohonom efo llu o resymau i ddiolch iddynt am ofal rydym ni yn bersonol wedi'i dderbyn, neu aelodau o'n teulu, heb sôn am ein hetholwyr. Ond, gallwn ni ddim gwadu'r straen aruthrol sydd arnynt na'r ffaith bod staff hynod o brofiadol yn gadael bob wythnos gan na allant ddelio â'r straen bellach.
Heledd Fychan: A gaf fi hefyd ategu fy niolch innau i'r clercod, fy nghyd-Aelodau a phawb a ddarparodd dystiolaeth? Fel dywedodd y Cadeirydd wrth agor y drafodaeth hon, mae'r sefyllfa yn waeth nag yr oedd hi pan oeddem ni'n cymryd tystiolaeth, ac mi oedd hi yn sefyllfa ddigon tywyll o ran dyfodol diwylliant a chwaraeon ledled Cymru ar y pryd. Ac mae pwynt Alun Davies yn un allweddol bwysig, dwi'n credu, o...
Heledd Fychan: Yn sicr, hoffwn gytuno â’r holl sylwadau a wnaed. Roedd y rhaglen yn un anodd iawn i'w gwylio. Mae'n codi cwestiynau, gan ein bod wedi bod yn falch iawn o rygbi fel camp genedlaethol ochr yn ochr â phêl-droed, a dylai pawb deimlo'n ddiogel yn y gweithle, ac mae'r honiadau'n gwbl wrthun. Yr hyn sydd yr un mor wrthun, yn fy marn i, yw’r datganiadau cyhoeddus hyd yn hyn gan Undeb Rygbi...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog, am y datganiad pwysig hwn heddiw. Dwi'n derbyn y pwynt rydych chi'n ei wneud yn llwyr o ran rydyn ni i gyd yn adnabod pobl sydd ddim wedi ticio'r bocs o ran y Gymraeg. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud, dwi yn pryderu o'ch clywed chithau, amryw o weithiau rŵan, a'r Prif Weinidog—fe wnaethoch chi ddefnyddio’r geiriau 'jest' y cyfrifiad. Ond, yn amlwg, mae'r cyfrifiad yn...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw, gan ehangu wrth gwrs ar y datganiad ysgrifenedig wythnos diwethaf. Dwi'n croesawu, yn amlwg, y pwyslais o ran sut rydyn ni'n canolbwyntio ar y dysgwyr hynny lle, ar y funud, rydyn ni'n gwybod bod tlodi yn effeithio ar eu cyrhaeddiant nhw. Does dim angen i fi ailadrodd—rydyn ni'n gwybod hynny'n barod. Ond, yn sgil yr argyfwng costau byw yn benodol,...
Heledd Fychan: Yn anffodus, gwaethygu mae pethau. Rydyn ni'n gweld esiamplau efo pobl yn dweud, 'Does dim pwynt i mi ffonio'r meddyg', 'Does dim pwynt i mi ffonio am ambiwlans oherwydd dwi ddim yn mynd i gyrraedd yna.' Mi hoffwn i ganolbwyntio'n benodol ar effaith yr argyfwng ar ferched, sydd, wrth gwrs, yn cyfrif am ychydig dros 50 y cant o boblogaeth Cymru, ac eto mae astudiaethau yn dangos fod bwlch...
Heledd Fychan: Mae’r diffyg buddsoddiad mewn triniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd menywod wedi arwain at gytundeb trawsffiniol ar gyfer triniaeth, ond nid yw hyn yn digwydd bob amser. Yn aml, mae angen cymorth iechyd meddwl arbenigol ar fenywod beichiog, mamau newydd a’r rheini sydd wedi colli baban yn ystod beichiogrwydd, ac yng Nghymru, hyd yn oed cyn y pandemig, nid yw’r menywod hyn bob amser wedi...
Heledd Fychan: Yr hyn sydd angen i ni ei gofio yw bod hyn yn digwydd mewn amgylchiadau heriol iawn, ac mae staff yn cyfaddef yn agored eu bod bron â chyrraedd y pen. Wrth ymweld â llinellau piced cyn y Nadolig, a siarad gyda nyrsys sy'n streicio am y tro cyntaf yn eu bywydau, roeddent yn pwysleisio wrthyf fod diogelwch cleifion ar flaen eu meddyliau wrth wneud y penderfyniad i streicio, yn fwy felly hyd...
Heledd Fychan: I ddatrys argyfwng, mae'n rhaid cydnabod bod yna argyfwng. Mae hi'n wers rydyn ni'n wastad yn dweud wrth ein plant, 'Byddwch yn onest; rydyn ni angen gwybod y gwir', ond mae'r un peth yn wir pan fo'n dod i wasanaethau cyhoeddus. A'r gwir amdani ydy, rydyn ni yn gwybod, pob un ohonom ni, o waith achos, am bobl sydd wedi colli eu bywydau fyddai wedi gallu byw. Mae'r penawdau yna'n gyson, a dyna...
Heledd Fychan: Yn sicr, a dwi'n meddwl bod hynny'n ymestyn—pan wyf yn sôn am bobl ifanc, nid dim ond y rhai mewn ysgolion yw. A byddwn i'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog adlewyrchu ar hynny. Dwi'n gweld bod amser yn dod i ben, ond, yn debyg iawn i Alun Davies, mater o gydraddoldeb ydy o a sut ydym ni'n mynd i sicrhau hyd yn oed bod y gwasanaethau sydd i fod yno rŵan yn rhedeg—dyna ydy un o'r pethau, heb...
Heledd Fychan: A gaf i ategu fy niolch innau i'r pwyllgor am yr holl waith ar y mater allweddol bwysig yma? Ac, yn debyg iawn, dwi'n cytuno efo nifer o'r pwyntiau a gododd Alun Davies. Mae hwn yn fater o gyfartaledd, a phwyntiau cyffelyb roeddwn innau eisiau eu codi ar ran trigolion Canol De Cymru. Os ydych chi'n meddwl pa mor—. Dwi'n cynrychioli ardal Caerdydd, lle mae hi'n haws o lawer i chi newid eich...
Heledd Fychan: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i ofyn ichi, os gwelwch yn dda, adolygu eich canllawiau o ran gweithio'n hybrid yn sgil sefyllfa anffodus a gododd yn y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y bore yma? Fe fu'n rhaid gohirio dechrau ar y gwaith pwysig o graffu ar y gyllideb ddrafft gan nad oedd y Dirprwy Weinidog, yn annisgwyl, yn bresennol yn yr...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Dwi'n falch iawn o glywed eich ymrwymiad o ran trafod yr wythnos yma. Yn amlwg, dydy hwn ddim yn sefyllfa hawdd i unrhyw un, dewis streicio, a gresyn ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt hwn. Ond dydy hi ddim yn annisgwyl, chwaith, ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt yma; mi wnaeth yr undebau'n glir nad oedd y cynnig gan y Llywodraeth yn mynd i fod yn dderbyniol. Felly, a fyddwch...
Heledd Fychan: Diolch. Rwy'n deall mai mater iddynt hwy yw blaenoriaethu, ond fel y clywsom gan nifer o'r Aelodau, mae yna bryder ynghylch yr elfennau anstatudol. Rydym yn gweld ymgynghoriadau ar y gyllideb yn fy rhanbarth ar hyn o bryd lle mae gennych chi gwestiynau fel, 'A ydych chi eisiau amgueddfa neu lyfrgell, neu a ydych chi eisiau gofal cymdeithasol?' Wrth gwrs fod pobl yn mynd i ddewis y...