James Evans: Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant am godi’r cwestiwn hollbwysig hwn. Fel y gwnaeth yntau, hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i Joyce Watson am ei holl waith yn y maes hwn; mae'n hyrwyddwr gwych i ymgyrch y Rhuban Gwyn. Mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ein hysgolion yn gwbl annerbyniol, ac mae'n digwydd ledled Cymru. Canfuwyd hyn yn yr ymchwiliad diweddar i aflonyddu rhywiol rhwng...
James Evans: Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl hon. I mi ac i lawer, yr wythnos hon yw'r wythnos bwysicaf sydd gennym ni ar hyd y flwyddyn. Mae'n gyfnod lle gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd i fyfyrio mewn tawelwch ar yr aberth dynol enfawr sydd wedi ei roi gan gymaint fel y gallwn fod yn y Siambr hon mewn heddwch, rhyddid a democratiaeth. Mae fy ardal i ym Mrycheiniog a...
James Evans: Hoffwn ddiolch i Tom Giffard am roi munud o'i amser i mi ddau funud cyn i'r ddadl hon ddechrau. [Chwerthin.] Mae cyllid ymchwil yn hanfodol i ddatrys rhai o'r problemau mawr sydd gennym yn y byd, ac wrth i gyd-Aelodau yn y Siambr eistedd drwy'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) yn ddiweddar, roedd yn amlwg o gasglu tystiolaeth fod yna ffocws gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac...
James Evans: Nid oeddwn yn dweud bod angen ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys; hoffwn weld un, ond rwy'n cydnabod yr heriau o wneud hynny. Yr hyn yr hoffwn ei weld mewn gwirionedd yw mwy o'r gwasanaethau hynny'n cael eu darparu, megis canolfan gofal strôc, yn ein hysbytai bwthyn bach neu yn ein hunedau mân anafiadau, fel y gallwn gael y gwasanaethau hynny'n nes at adref ac nad oes raid i bobl deithio...
James Evans: Mae gan fy etholwyr berthynas heriol gyda gwasanaethau strôc, yn wahanol i'r rhai mewn sawl rhan arall o Gymru, a hynny oherwydd nad oes gennym ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys. Mae natur wledig Brycheiniog a Sir Faesyfed a diffyg darpariaeth gwasanaethau strôc yn golygu bod cael triniaeth yn anos i fy etholwyr, ac mae'n rhaid i nifer ohonynt deithio dros y ffin i swydd Henffordd a...
James Evans: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
James Evans: Hoffwn i dalu teyrnged hefyd i fy nghyd-Aelod Jayne Bryant am ei gwaith rhagorol yn cadeirio'r pwyllgor rwy'n aelod ohono. Hoffwn godi’r pwynt eich bod yn sôn am wrywod sydd hefyd yn wynebu aflonyddu rhywiol. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi, ac eraill sy’n aelodau o'r pwyllgor hwnnw, na ddylai unrhyw un fod ag ofn rhoi gwybod os ydynt yn wynebu aflonyddu rhywiol, yn enwedig...
James Evans: Diolch am hynny, Weinidog. Mae llawer o ffermwyr tenant ifanc yn fy etholaeth yn credu bod y cynigion fel y maent wedi'u drafftio ar hyn o bryd o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy yn dal i ogwyddo'n helaeth tuag at berchnogaeth ar dir. Mae tenantiaid, teuluoedd ffermio ifanc fel arfer sydd ar y gris cyntaf ar yr ysgol ffermio, yn gorfod ymdrin â gwahanol fathau o landlordiaid, o'r ffermwr...
James Evans: 3. Sut fydd y cynllun ffermio cynaliadwy newydd o fudd i ffermwyr tenant ifanc ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ58614
James Evans: Gadewch i ni fod yn glir, busnes yw asgwrn cefn ein heconomi—o berchennog y busnes bach ar y stryd fawr i'r cwmnïau mwy sy'n cyflogi cannoedd a miloedd o bobl ar draws y wlad. Y gwledydd mwyaf llewyrchus yn y byd yw'r rhai lle gall busnesau ffynnu, a rhan allweddol o'r llwyddiant hwnnw yw llai o fiwrocratiaeth a llai o drethi i'r busnesau hynny. Yng Nghymru, mae gennym yr ardrethi busnes...
James Evans: A wnaiff yr Aelod ildio?
James Evans: Diolch. A fyddech yn cytuno â mi nad yw gwir arwyr ein cymdeithas yn gwisgo clogynnau, pobl fel y deisebydd ydynt, a gyflwynodd y deisebau hyn i godi materion fel hyn ar lwyfan cenedlaethol? Ac a ydych yn cytuno â mi y dylai fod mwy o gyfle i faterion fel hyn gael eu trafod yn y Senedd fel y gall pawb ledled Cymru, fel y deisebydd, ddwyn y pwyntiau hanfodol bwysig hyn i'n sylw ni fel y...
James Evans: Diolch, Weinidog. Yn ein parciau cenedlaethol, mae’n hanfodol fod pobl leol yn teimlo eu bod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau, a bod y parciau cenedlaethol yn sefyll o'u plaid a bod ganddynt gynrychiolaeth o’r ardal honno. Mae Llywodraeth Cymru yn penodi nifer o bobl i barciau cenedlaethol, ond yn anffodus, nid yw rhai o'r bobl hynny'n dod o Gymru hyd yn oed. Felly, yr hyn yr...
James Evans: 1. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wneud parciau cenedlaethol yn fwy atebol i bobl leol? OQ58580
James Evans: Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i helpu busnesau drwy'r argyfwng costau byw?
James Evans: A gaf fi ddechrau drwy ganmol y pwyllgor am adroddiad gwych? Ond mae'n drueni inni gyrraedd sefyllfa lle bu'n rhaid cael yr adroddiad hwn. Rwyf newydd wrando ar Jane Dodds o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn pregethu pa mor ddrwg yw hyn i ffermwyr, ond pe bai ei phlaid wedi camu i’r adwy yn nhymor y Senedd ddiwethaf a chefnogi ffermwyr, fel y gwnaeth Plaid Cymru a ninnau ar feinciau’r...
James Evans: Mae'n ddiddorol ei fod hefyd yn dangos nad yw arweinydd y Blaid Lafur yn y DU yn credu bod gan Lywodraeth Cymru unrhyw uchelgais mewn perthynas â gwasanaethau iechyd. Mae'n debyg mai dyna pam ei fod yn gosod ei dargedau ei hun, oherwydd nad yw eisiau cysylltu ei hun â'r methiannau yma. Mae'r ffigurau'n hollol glir fod argyfwng iechyd meddwl yn wynebu ein plant, sy'n cael ei waethygu gan y...
James Evans: Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Dywedodd eich arweinydd Llafur yn y DU, Keir Starmer, y byddai Llywodraeth Lafur yn y DU yn gwarantu triniaeth iechyd meddwl o fewn mis, ond mae ystadegau eich gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc yn dangos bod y Llywodraeth yma yng Nghymru yn methu. Dim ond 50 y cant o blant sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cael eu...
James Evans: Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, a ydych yn credu y dylai pobl sydd â phroblem iechyd meddwl gael sicrwydd o asesiad iechyd meddwl o fewn mis?
James Evans: Diolch. Mae triniaeth frys ar gyfer cyflyrau acíwt fel strôc neu ataliad ar y galon yn anos i'r bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn fy etholaeth. Gyda digwyddiadau strôc a chardiaidd, mae munudau ac eiliadau'n gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw, ac os ydych yn goroesi, mae amseriad yr ymyrraeth yn cael canlyniad uniongyrchol ar eich adferiad. Yn fy etholaeth i, mae pobl yn...