Buffy Williams: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnal arholiadau ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd?
Buffy Williams: Diolch, Weinidog. Yn anffodus, yn ystod y pandemig gwelsom gynnydd yn nifer y troseddau a gofnodwyd sy'n gysylltiedig â cham-drin domestig. Derbyniodd Cymorth i Fenywod Rhondda Cynon Taf dros 3,000 o atgyfeiriadau yn ystod y cyfnod hwn, a chefnogodd 69 o blant o dan 16 oed a oedd yn byw mewn lloches. Rydym wedi gweld llofruddiaethau erchyll menywod fel Sarah Everard a Wenjing Lin dan law...
Buffy Williams: Rwy’n datgan buddiant yma gan fy mod yn dal yn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr Canolfan Pentre. Mae’r cymorth y mae elusennau a’r sector gwirfoddol yn ei roi i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn amhrisiadwy, a thrwy gydol y pandemig, mae wedi lleddfu pwysau enfawr ar awdurdodau lleol. Ni fyddem yn gallu darparu’r cymorth hwn heb y cyllid hollbwysig. Yn anffodus, mae llawer...
Buffy Williams: 8. Beth yw'r camau nesaf y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas â'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol? OQ57405
Buffy Williams: O ffrind y Gruffalo i Squirrel Nutkin Beatrix Potter, mae'r wiwer goch, unig rywogaeth wiwer frodorol y DU, wedi bod yn rhan annwyl iawn o gefn gwlad y DU ers miloedd o flynyddoedd. Yn anffodus, mae eu niferoedd wedi lleihau dros y degawdau diwethaf am sawl rheswm, a'r prif reswm oedd cyflwyno'r wiwer lwyd anfrodorol. Yn anffodus, mae llawer mwy o wiwerod llwyd nag o wiwerod coch yn y Rhondda...
Buffy Williams: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r bwlch cyrhaeddiad yng Nghymru?
Buffy Williams: Mae data a gafodd eu cyhoeddi yn gynharach y mis hwn yn dangos bod y pwysau ar ein system iechyd a gofal yn parhau i dyfu. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth gynorthwyo'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a helpu i leddfu'r pwysau ar eu cydweithwyr yn y GIG. Roeddwn i mor falch o weld eu gwaith caled yn cael ei gydnabod gan gyngor Rhondda Cynon Taf, sydd...
Buffy Williams: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu nifer y gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru? OQ57301
Buffy Williams: Diolch, Weinidog. Mae'r ymateb a gefais gan deuluoedd yn y Rhondda i'r pecyn cymorth gwerth £51 miliwn wedi bod yn ysgubol. Rwy'n gwybod y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol y gaeaf hwn i blant a'u teuluoedd. Mae hefyd yn wych clywed bod cyllid wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer ymestyn prosiect Big Bocs Bwyd. Bydd angen gweithio mewn partneriaeth os ydym am roi diwedd ar dlodi plant...
Buffy Williams: 8. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i liniaru tlodi plant? OQ57218
Buffy Williams: Am wlad fach, mae Cymru bob amser wedi gwneud yn well na'r disgwyl ar y llwyfan byd-eang, o'n chwyldro diwydiannol arloesol i'n camau blaenllaw ar yr hinsawdd, a hon yw'r Senedd gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Pan fo Cymru'n siarad, mae'r byd yn gwrando. Ni fyddem yn y sefyllfa rydym ynddi heddiw heb ein Cymoedd. Roedd cyfoeth o lo yn y Rhondda, ond rwy'n credu'n wirioneddol fod...
Buffy Williams: Sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu gostwng allyriadau fel rhan o gynllun Cymru sero net?
Buffy Williams: Diolch, Lywydd dros dro, a diolch i Jack am eich cyfraniad wrth agor y ddadl heddiw. Fel Aelod newydd o'r Senedd ac aelod newydd o'r Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddechrau drwy ddweud pa mor bwysig yw deisebau, nid yn unig i ni fel Aelodau o'r Senedd, ond i drigolion sy'n byw ym mhob rhan o Gymru. Rydym—. Mae'n ddrwg gennyf, nid yn unig i ni fel Aelodau o'r Senedd, ond i drigolion sy'n byw ym...
Buffy Williams: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru?
Buffy Williams: Diolch, Weinidog. Gyda ffyrlo’n dod i ben, y toriad dinistriol i'r £20 yr wythnos o ychwanegiad i'r credyd cynhwysol a'r cynnydd mewn yswiriant gwladol, mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn poeni llawer am y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, wrth i ni agosáu at yr hyn a fydd eisoes yn aeaf caled. Bydd miloedd o deuluoedd yn y Rhondda ac ar draws Cymru yn ei chael yn anodd....
Buffy Williams: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa cymorth dewisol? OQ57056
Buffy Williams: Diolch, Gweinidog, am y datganiad heddiw. Yng nghyd-destun y pum mlynedd diwethaf, Brexit, toriadau cyni ac, wrth gwrs, y pandemig, mae angen cynllun uchelgeisiol arnom i ddwyn economi Cymru ymlaen. Mae'n rhaid i hyn ddechrau gyda busnesau lleol fel Flowtech yn y Rhondda, busnes y bu'r Gweinidog a minnau yn ymweld ag ef ddoe, a fydd yn ehangu o ganlyniad i gontract economaidd Llywodraeth...
Buffy Williams: Diolch, Prif Weinidog. Bydd y metro yn gweddnewid y ffordd rydym ni'n teithio ar draws de Cymru, ac ni allwn i fod yn hapusach y bydd y Rhondda yn elwa ar y buddsoddiad o £0.25 biliwn. Rydym ni wedi cael problemau gwirioneddol ar reilffordd Treherbert yn y gorffennol, felly bydd gwasanaeth mwy modern, mwy gwyrdd a mwy dibynadwy yn y dyfodol o fudd gwirioneddol i drigolion Rhondda Fawr. Un...
Buffy Williams: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed ar reilffordd Treherbert yn y Rhondda fel rhan o fetro de Cymru? OQ57029
Buffy Williams: Nid yr argyfwng byd-eang nesaf yw'r argyfwng hinsawdd a natur; mae eisoes gyda ni. Nid yw'n broblem y gallwn ei gadael i'n plant a'u plant hwythau. Rhaid inni weithredu yn awr. Fel Llywodraeth, ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddatgan argyfwng hinsawdd, i wahardd ffracio ac i osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn dros 60,000 o gartrefi fel rhan o'r degawd diwethaf o weithredu. Mae'r degawd...