Luke Fletcher: Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’r cyhoeddiad yn y gyllideb ddrafft sy’n ymwneud â rhyddhad ardrethi busnes wedi’i groesawu’n gyffredinol gan fusnesau ledled Cymru, yn enwedig yn y sector lletygarwch, manwerthu a hamdden. Dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach, er enghraifft, y bydd y mesurau'n mynd rywfaint o ffordd tuag at leddfu'r pwysau y mae cwmnïau bach yn ei wynebu. Fodd bynnag,...
Luke Fletcher: 4. Sut mae'r Gweinidog yn bwriadu cefnogi ymchwil a datblygu yng Nghymru yn sgil ansicrwydd parhaus o ran Horizon Ewrop? OQ58889
Luke Fletcher: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad.
Luke Fletcher: Wrth gwrs, mae'r warant i bobl ifanc yn rhaglen bwysig i Gymru; rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud ein bod ni i gyd yn awyddus i weld hon yn llwyddo. Wedi'r cyfan, ni fyddwn ni'n cyrraedd ein nodau ynghylch sero net, er enghraifft, oni bai ein bod ni'n sicrhau bod y sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc ganddyn nhw yn economi'r dyfodol. Mae llawer, wrth gwrs, wedi newid ers iddi gael ei...
Luke Fletcher: Diolch, Prif Weinidog. Nid yw wedi bod mor hir â hynny ers i wasanaethau digartrefedd wynebu senario hunllefus yn ystod y pandemig, a dyma nhw eto yn wynebu un arall. Hoffwn dynnu sylw at achos Keith, etholwr ym Maesteg, a gysylltodd yn ddiweddar am gymorth gan ei fod ef a'i wraig mewn sefyllfa o argyfwng ar ôl cael hysbysiad adran 21 yn ddiweddar, yr aeth ei ddyddiad terfyn heibio ym mis...
Luke Fletcher: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r pwysau ar wasanaethau atal digartrefedd dros gyfnod y Nadolig? OQ58891
Luke Fletcher: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Gadeirydd y pwyllgor a hefyd, yn bennaf, i'r clercod am eu holl waith.
Luke Fletcher: Roedd ymgyrch Leeanne yn un o’r ymgyrchoedd cyntaf i gysylltu â mi fel Aelod newydd ei ethol; pan sgroliais yn ôl drwy Messenger, gwelais mai David ei hun a gysylltodd â mi. Nawr, roedd hynny yn 2021, ac rwy'n falch iawn ein bod yma nawr ar y pwynt hwn. Nid oes llawer mwy y gallaf ei ychwanegu at gyfraniad y Cadeirydd, ond credaf fod y gwaith a wnaethom fel pwyllgor wedi’i...
Luke Fletcher: Da iawn.
Luke Fletcher: Diolch, Prif Weinidog. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r gyfres ddiweddaraf o fanciau'n cau i daro Cymru wedi i HSBC gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf y byddan nhw'n cau 12 o ganghennau o fis Ebrill nesaf. Mae un o'r canghennau sydd wedi'u clustnodi i gau ym Mhort Talbot. Mae'r cyhoeddiad yn ergyd arall i etholwyr yn fy rhanbarth i, sydd, o'r gorllewin i'r dwyrain, eisoes yn cael eu gadael ar...
Luke Fletcher: 7. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod gan gymunedau ledled Cymru wasanaethau bancio hygyrch? OQ58850
Luke Fletcher: Wrth gwrs, rwy'n fwy na pharod i ymuno â chi i'w llongyfarch. Bydd yr Aelodau hefyd yn falch o glywed fy mod yn dal i fynd i'r Sandwich Co, busnes gwych arall ym Mhencoed, ac rwy'n dal i archebu'r Arnie sarnie. Rwy'n greadur sy'n gaeth i arfer wedi'r cyfan. Ond i'r rhai sy'n dymuno profi bwydlen ehangach ac sy'n gyffrous ar gyfer y Nadolig, rhowch gynnig ar y cracer Nadolig—twrci, stwffin,...
Luke Fletcher: Lywydd, ni fyddai unrhyw gyfraniad i ddadl ar fusnesau bach yn y cyfnod yn arwain at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach yn gyflawn heb imi fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at rai o'r busnesau lleol gwych yn fy rhanbarth. Y llynedd, dywedais wrth yr Aelodau ble rwy'n cael torri fy ngwallt; wel, yn wahanol i'r llynedd, rwyf bellach yn cael torri fy ngwallt yn Dappa Chaps ym Mhencoed gan farbwr gwych...
Luke Fletcher: Wrth inni nesáu at Sadwrn y Busnesau Bach, mae'n rhaid inni gydnabod ein bod yng nghanol yr argyfwng costau byw gwaethaf ers 40 mlynedd. Bydd yr effaith ar ein busnesau bach yn ddifrifol. Dyma un o'r prif bryderon economaidd sy'n wynebu busnesau bach ar hyn o bryd, gydag 89 y cant o gwmnïau yn nodi costau uwch na blwyddyn yn ôl. Ni fydd gan fusnesau bach y cronfeydd wrth gefn sydd gan...
Luke Fletcher: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy’n siŵr fod y Gweinidog yn disgwyl cwestiwn am filgwn yma, ond nid ar yr achlysur hwn. Hoffwn nodi a mynegi fy mod yn rhannu pryderon RSPCA Cymru, sydd wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi blaenoriaeth i gwblhau’r Bil, fel bod yr arferion creulon y mae’n ceisio mynd i’r afael â hwy yn dod i ben. Fodd bynnag, ceir pryderon fod ymrwymiad Llywodraeth y...
Luke Fletcher: A gaf fi gysylltu fy hun â sylwadau Jack Sargeant ynglŷn â mesuryddion rhagdalu? Maent yn anghywir, maent yn anfoesol, ac mae angen gweithredu arnynt cyn gynted â phosibl. Ond hoffwn wybod pa sgyrsiau sydd wedi digwydd gyda chwmnïau ynni mewn perthynas â chyflwyno tariff cymdeithasol posibl, yn debyg i'r hyn sydd gennym gyda'r cwmnïau dŵr a darparwyr band eang. Rwy'n credu y bydd hyn...
Luke Fletcher: 5. Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran cydweithio â Llywodraeth y DU ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)? OQ58791
Luke Fletcher: Oes modd i ni gael datganiad llafar neu ysgrifenedig ar drafnidiaeth ysgol, os gwelwch yn dda?
Luke Fletcher: Am 07:30 fore Iau, cerddodd rhieni a chynrychiolwyr lleol o Barc Maesteg i lawr i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd er mwyn tynnu sylw at ba mor hir ac anniogel y mae'r llwybr i'r ysgol i'w gerdded. Fe gymerodd hi tua 45 munud i awr iddyn nhw wneud y daith, ac roedd hynny'n digwydd bod yn ddiwrnod eithaf da o ran tywydd, ond y gwir amdani yw bod plant yn cerdded ym mhob tywydd. Rwy'n deall bod...
Luke Fletcher: Diolch i Cefin am gyflwyno'r ddadl fer yma. Pwynt pwysig mae Cefin wedi ei wneud yn barod: mae busnesau sydd ddim yn cael eu lleoli yn y gymuned yn golygu bod y cyfoeth sydd yn cael ei greu yn gwaedu allan o'r gymuned honno. Mae adeiladu cyfoeth cymunedol yn ceisio ailstrwythuro system yr economi fel bod cyfoeth yn cael ei ddal yn y gymuned, ei rannu a'i ddemocrateiddio. Gall mentrau...