Mark Reckless: A dengys y gwaith monitro hwnnw fod prisiau bwyd yn yr UE yn sylweddol uwch na'r tu allan i'r UE. Wedi i ni adael yr UE, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai mater i Lywodraeth y DU fydd pennu i ba raddau y byddwn yn defnyddio tariffau Sefydliad Masnach y Byd yn erbyn mewnforion o'r tu allan i'r UE, a mater i'r Llywodraeth honno fydd penderfynu a ddylid eu defnyddio o gwbl neu...
Mark Reckless: 8. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r gwahaniaeth rhwng prisiau bwyd y byd a phrisiau bwyd yr UE? OAQ51360
Mark Reckless: Prif Weinidog, £240,000 yw'r pris tai Cymorth i Brynu cyfartalog i brynwyr tro cyntaf yn Sir Fynwy, sy'n debyg i Swydd Gaerloyw ar draws y ffin. Onid ydych chi'n pryderu, os bydd eich Llywodraeth yn methu â dilyn dull cyfatebol i Loegr ar gyfer prynwyr tro cyntaf, y bydd rhai o'n pobl ifanc yn gadael Cymru ac yn prynu dros y ffin yn hytrach?
Mark Reckless: 5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ragolygon dros y pedwar mis nesaf ar gyfer prynwyr tro cyntaf yn Sir Fynwy? OAQ51388
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: Mae'n sôn am beidio â meithrin ansicrwydd, ond y prynwyr tro cyntaf hynny, yn enwedig yn yr ardaloedd gwerth uwch, a allai fod yn rhuthro i mewn oherwydd eu bod yn ofni ei fod yn mynd i godi eu cyfradd dreth fis Ebrill nesaf, fel y dywedodd ynghynt—a fuasai'n ddoeth iddynt wneud hynny neu a ddylent ymatal rhag gwneud hynny?
Mark Reckless: Gyda chyllideb y DU heddiw, rwy'n credu bod rhai o oblygiadau datganoli treth, efallai, yn canu cloch yn fwy eglur nag o'r blaen, oherwydd mae'r goblygiadau i Gymru yn sgil penderfyniadau a wnaed ar y dreth nid yn unig yn adlewyrchu'r rhai sy'n cael eu gwneud yn y Siambr hon, ond hefyd y rhai sy'n cael eu gwneud yn San Steffan. Roeddwn yn aelod o bwyllgor y Bil Treth Trafodiadau Tir...
Mark Reckless: A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch yr Aelod ar ei benodiad yn Gwnsler Cyffredinol? Mae'n bleser arbennig gennyf wneud hynny yn bersonol gan fy mod wedi bod yn y brifysgol gydag ef oddeutu chwarter canrif yn ôl bellach. Fel cyfreithwyr, gallem ei ystyried yn beth da pe bai maint y proffesiwn cyfreithiol yn ehangu, ond tybed: wrth siarad ar ran y Llywodraeth, a oes...
Mark Reckless: 1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y byddai datblygu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yn ei chael ar faint y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru? OAQ51315
Mark Reckless: Prif Weinidog, yn ogystal â Chymru yn heneiddio fel cenedl, mae'r tueddiadau yn dra gwahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, ac mae gan y Cymoedd, er enghraifft, dueddiad heneiddio demograffig llawer mwy na'r wlad yn ei chyfanrwydd. A ydych chi'n ffyddiog, Prif Weinidog, bod ein darpariaeth o wasanaethau dementia wedi ei datganoli'n ddigonol, a hefyd bod yr adnoddau ar ei chyfer wedi eu...
Mark Reckless: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi amcangyfrif o'r oriau a weithiwyd, gan gynnwys gwerth yr oriau hynny, gan wirfoddolwyr cynghorau iechyd cymuned?
Mark Reckless: Ond onid yw hyn yn rhywbeth sy'n mynd yn ôl i gyfnod pan oeddem ni, efallai, yn fwy o Gynulliad a oedd megis babi yn cael ei fwydo â llwy, fel y dywed yr Aelod, pan oedd gennym ni Lywodraeth Cynulliad Cymru ac nad oedd gwahaniaeth cyfreithiol rhwng y naill a'r llall? Erbyn hyn, mae'r Llywodraeth yn atebol i'r Cynulliad, ac mae'r Cwnsler Cyffredinol yn cynghori'r Llywodraeth, felly...
Mark Reckless: Mae arnaf ofn na chlywais ymateb yr Aelod yn iawn i fy mhwynt yn gynharach. Rwy'n credu efallai eich bod wedi ymateb i ymyriad gan rywun ar ei eistedd yn hytrach. Ond fy mhwynt sylfaenol yw: y Cwnsler Cyffredinol yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru, ac onid mater i Lywodraeth Cymru yw dewis pwy ddylai fod y prif gynghorydd cyfreithiol iddi.
Mark Reckless: Onid yw'n un o egwyddorion sylfaenol ein system gyfreithiol y dylai cleient fod yn rhydd i ddewis ei gynghorydd cyfreithiol ei hun? Pam y byddai Plaid Cymru yn gwarafun yr hawl hwnnw i Lywodraeth Cymru?
Mark Reckless: Diolch, Dirprwy Lywydd, yn benodol, am eich ystyriaeth. A gaf i hefyd longyfarch y Gweinidog ar ei benodiad? Mae’n gwybod bod ganddo esgidiau mawr i'w llenwi. O ran fy hun, rhaid imi ddweud bod gennyf hyder mawr ynddo i wasanaethu’r Llywodraeth yng Nghymru mor fedrus ag y gwasanaethodd Lywodraeth y DU o'r blaen. Rwy’n croesawu’r adroddiad gan Sally Holland, y comisiynydd plant, ac yn...
Mark Reckless: Prif Weinidog, fe wnaethoch ddisgrifio eich agwedd at gyllid cyhoeddus ar 23 Ebrill, pan ofynnwyd i chi, Dywedodd Canghellor yr Wrthblaid John McDonnell bod angen benthyg £500 biliwn yn ychwanegol er mwyn rhoi ychydig o hwb i'r economi—byddech chi'n cyd-fynd â hynny, fyddech chi? Cafwyd yr ateb, 'Byddwn, mi fyddwn' gennych. A ydych chi'n dal i gredu y byddai benthyg £500 biliwn—10...
Mark Reckless: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr effaith y caiff newidiadau i'r dreth drafodiadau eiddo ar y cyflenwad o eiddo masnachol?
Mark Reckless: Rwy’n hapus iawn i egluro. Ysgrifennodd y Llywydd at Andrew R.T. Davies ac ataf fi i gadarnhau y dylwn gael fy ystyried yn aelod o grŵp y Ceidwadwyr at holl ddibenion y Cynulliad hwn, yn union fel y mae wedi dyfarnu y dylid symud Cadeiryddion pwyllgorau er mwyn adlewyrchu cydbwysedd grwpiau’r pleidiau. Nid yw’n iawn nad yw’r sefydliad hwn, sy’n dymuno cael ei ystyried yn Senedd, yn...
Mark Reckless: Mae’r gyfradd ddiweithdra yn ne-ddwyrain Cymru wedi gostwng i 3.5 y cant eleni; mae’r gyfradd gyflogaeth yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin wedi codi o 70.2 y cant i 72.5 y cant. O gofio bod diwygiadau lles y Llywodraeth yn San Steffan wedi’u cynllunio o leiaf yn rhannol i helpu pobl i ddod o hyd i waith, a bod Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yn dweud ei fod yn cefnogi egwyddor credyd...
Mark Reckless: Ysgrifennydd y Cabinet, oni ddylid sicrhau er hynny fod yr ymgysylltiad hwnnw’n digwydd cyn i’r cynllun gael ei gwblhau? Mae adnoddau eich adran yn gyfyngedig; rydych yn wynebu gorfod gwneud rhagor o arbedion. Mae heriau eithriadol ynghlwm wrth yr ardaloedd morol gwarchodedig hyn; ni wyddom fawr ddim ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd ar waelod y môr, ac mae casglu gwybodaeth yn ddrud...