Mark Drakeford: Wel, Llywydd, hoffwn ddefnyddio'r agoriad y mae Adam Price wedi ei gynnig i dalu teyrnged eto i'r tîm o Wcráin a'u cefnogwyr yn y maes. Pan feddyliwch chi am gefndir y gêm honno, roedden nhw'n anhygoel o ymroddedig. Ni roddodd y tîm y gorau iddi ar unrhyw adeg, hyd at ddiwedd i'r gêm, ac fe allech chi weld faint yr oedd yn ei olygu iddyn nhw hefyd. Roeddwn i'n credu eu bod nhw'n glod...
Mark Drakeford: Wel, diolch yn fawr i Adam Price am y cwestiwn, Llywydd. Braint oedd bod yn y stadiwm ar nos Sul ac roedd y teimlad yn y stadiwm mor gryf y tu ôl i dîm Cymru. Ond nid jest i dîm Cymru, y parch roedd pobl yn ei ddangos at bobl oedd yno i gefnogi Wcráin hefyd, roedd hwnna'n rhywbeth a oedd yn fy nharo i yn eistedd yno yn y stadiwm. Ble roeddwn ni'n eistedd ac o fy nghwmpas i, beth oedd pobl...
Mark Drakeford: Llywydd, bydd arweinydd yr wrthblaid, mi wn, yn deall, hyd yn oed pe bai penderfyniad wedi cael ei wneud i fwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4, na fyddai wedi gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl dros y penwythnos diwethaf, oherwydd byddai, hyd yn oed o heddiw ymlaen, bum mlynedd arall cyn y gellid agor ffordd o'r fath. Felly, nid yw'n ateb i'r broblem y mae wedi ei nodi. Daw'r ateb gwirioneddol...
Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n gwahaniaethu rhwng y ddau bwynt y mae arweinydd yr wrthblaid wedi eu gwneud. Rwy'n credu, o ran capasiti, ei bod hi'n wirioneddol anodd disgwyl i gwmni trenau, ag asedau sefydlog a chronfa sefydlog o staff sy'n gallu darparu'r gwasanaethau hynny, droi'r tap ymlaen mewn ffordd fawr o amgylch unrhyw fath o ddigwyddiad, ac mae hynny yn arbennig o wir am wasanaethau trên. Yn syml,...
Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, ac mae'n sicr yn wir fod torfeydd dau ddigwyddiad mawr yng Nghaerdydd a dechrau'r gwyliau hanner tymor wedi arwain at lawer iawn o draffig i gyd yn ceisio cyrraedd Caerdydd mewn cyfnod cyfyngedig. Pryd bynnag y bydd digwyddiad mawr yn y ddinas, mae tîm o bobl yn cyfarfod wedyn i adolygu'r profiad ac i weld beth arall y gellid ei wneud i naill ai liniaru...
Mark Drakeford: Diolch i Peter Fox am y cwestiwn ychwanegol yna, Llywydd. Gwn fod ganddo arbenigedd ei hun; ef oedd arweinydd Cyngor Sir Fynwy pan greodd y cyngor fferm solar, cynllun yr oedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o'i gefnogi. Felly, gwn y bydd wedi gweld drosto'i hun y cydbwysedd y mae'n rhaid ei sicrhau rhwng datblygiadau ynni adnewyddadwy, sy'n gwbl angenrheidiol, a'u heffaith ar yr amgylchedd...
Mark Drakeford: Llywydd, diolch i Jayne Bryant am hynna. Rwy'n cofio ei chyfraniad yr adeg honno, oherwydd, fel yr wyf i'n ei gofio, roedd yng nghyd-destun y pwerau newydd a oedd yn cael eu darparu i awdurdodau lleol i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon—cynigion a gyflwynwyd gan fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths. A gwn, wrth droi'r ffordd i unman yn ffordd i natur, fod y pwerau hynny wedi cael eu...
Mark Drakeford: Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi creu dros 300 o fannau gwyrdd ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae 22 ohonyn nhw wedi cael eu datblygu yng Nghasnewydd, gan gynnwys y gwaith, y gwn y bydd yr Aelod yn gyfarwydd ag ef, a wnaed yn rhandiroedd cymunedol Pilgwenlli.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, bob naw mis, mae Prif Weinidog y DU yn penodi mwy o bobl i Dŷ'r Arglwyddi nag yr ydym ni'n cynnig eu hychwanegu at aelodaeth y Senedd—bob naw mis. Ble mae'r refferendwm ar hynny, tybed? Nawr, rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn y mae fy nghyd-Aelod Alun Davies wedi ei ddweud. Allwch chi ddim dod o hyd i adroddiad annibynnol ar y gynrychiolaeth sydd ei hangen ar bobl yng Nghymru...
Mark Drakeford: Llywydd, mae'r cyhoedd eisoes wedi lleisio eu barn. Fe wnaethon nhw ethol Aelodau i'r Senedd hon mewn niferoedd digonol i sicrhau, fel y dywedodd Darren Millar, y diwygiad mwyaf i'r Senedd ers ei sefydlu. Mae'r rheini ohonom ni a safodd ar faniffestos o blaid diwygio yn edrych ymlaen at gyflawni'r broses hon.
Mark Drakeford: Llywydd, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithredu casgliadau'r Senedd ar y mater hwn.
Mark Drakeford: Congratulations to Wrexham on achieving city status. Wrexham’s significant contributions to society and culture in Wales, and beyond has now been recognised. This Government continues to invest in the area with £25m grant funding for delivery of the Wrexham Gateway providing benefits to communities and its people.
Mark Drakeford: I am pleased that our NHS workforce grows year on year and is now at record levels with over 104,000 staff employed by NHS Wales. We are investing record amounts in education and training; HEIW’s Workforce Strategy also sets out plans for a reformed and sustainable workforce for the future.
Mark Drakeford: Adoption of local roads is the responsibility of Local Authorities and developers. Existing roads can also be adopted by a Local Authority where the owner of the road and Local Authority agree and the road is at the required standard.
Mark Drakeford: We are committed to building on Wales’ success in hosting major events. Whilst I was hugely disappointed Wrexham missed out on City of Culture 2025, I was pleased to see Focus Wales and the Anglesey Trail Half Marathon taking place recently delivering economic, cultural and social benefits to North Wales.
Mark Drakeford: Nawr, wythnos nesaf, Llywydd, fe fydd llawer ledled Cymru yn defnyddio cyfle'r gwyliau cyhoeddus estynedig i ddathlu'r Jiwbilî Blatinwm—o gyngerdd yng nghastell Caerdydd i bicnic yn Llantrisant, te parti ym Mhorth Tywyn a regatta ym mae Tremadog. Llywydd, rhan o'r cyfrifoldeb o fod yn Brif Weinidog yn y Senedd hon yw bod yn aelod o Gyfrin Gyngor y Frenhines ac, fel y cyfryw, ar yr ail o...
Mark Drakeford: Wedi dweud hynny, Llywydd, nid yw rhai pethau wedi newid. Yn ystod 70 o flynyddoedd o newid mawr, mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi bod yn bresennol bob amser ym mywydau pobl Cymru a thu hwnt. Rydyn ni'n meddwl am y ffordd y mae hi wedi ymrwymo i wneud ei dyletswydd. Mae hi wedi bod mor ffyddlon i'r llw a gymerodd hi adeg ei choroni. Rydyn ni'n meddwl hefyd am yr urddas a'r hwyliau da y mae...
Mark Drakeford: Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, 70 mlynedd yn ôl, ni ddechreuodd y flwyddyn 1952 yn dda yng Nghymru. Ar y 10fed o Ionawr, fe gwympodd un o awyrennau Aer Lingus a oedd yn hedfan o Ddulyn i Lundain yn Eryri, gan ladd y 22 o deithwyr a'r tri aelod o'r criw. Lai na mis yn ddiweddarach, bu farw'r Brenin Siôr VI, ac fe ddechreuodd yr hyn a alwodd y Prif Weinidog ar y pryd, Winston Churchill, yn...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i John Griffiths am y gwaith y mae wedi'i wneud wrth gadeirio'r grŵp hwnnw, ac mae gan y grŵp gyflawniadau eisoes, er clod iddo, o ran adfer a rheoli cynefinoedd, ac yn enwedig yn y pwyntiau a wnaeth John Griffiths o ran ymgysylltu â'r gymuned. Ynghyd â fy nghyd-Aelod Julie James, mae mwy y gwyddom y gallwn ni ei wneud i gefnogi gwaith y grŵp...
Mark Drakeford: Llywydd, wrth wraidd y gyllideb tair blynedd a gymeradwywyd gan y Senedd hon, mae buddsoddiad cyfalaf o £1.8 biliwn ar gyfer creu coedwig genedlaethol, cynnal bioamrywiaeth, datgarboneiddio tai, blaenoriaethu ynni adnewyddadwy ac atal llifogydd. Mae'r rhain ymhlith y camau yr ydym yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.